S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

Diwydiant Creadigol Cymru yn chwilio am y to nesaf o sgriptwyr talentog

20 Mehefin 2014

  Ydych chi wedi ysgrifennu’r set-bocs poblogaidd nesaf? A ddylai eich geiriau gael eu clywed mewn theatrau byd enwog? A yw eich sgript nodwedd un cam i ffwrdd o’r sgrin fawr? Os felly, gall menter newydd sgriptio Cymraeg a lansir heddiw (dydd Gwener 20 Mehefin, 2014) yng Ngŵyl Lenyddiaeth Dinefwr fod ar eich cyfer chi.

Menter wedi ei theilwra ar gyfer awduron teledu, theatr a ffilm Cymraeg yw Y Labordy. Ariennir y fenter gan Creative Skillset Cymru fel rhan o Raglen Sgiliau ar gyfer yr Economi Ddigidol, S4C, Cyngor Celfyddydau Cymru a Ffilm Cymru Wales, ac fe’i cyflwynir gan Lenyddiaeth Cymru. Mae'n gyfle unigryw i bedwar awdur profiadol ac uchelgeisiol i ddatblygu eu syniadau ochr yn ochr â rhai o sgriptwyr a chynhyrchwyr mwyaf eu parch y diwydiant.

Bydd y pedwar yn meddu ar dalent a phrofiad; a chyda hyfforddiant a datblygiad pwrpasol ac arbenigol, cânt gyfle i ehangu eu gwybodaeth a'u sgiliau er mwyn cynnig syniadau i amrywiaeth o gomisiynwyr diwydiant rhyngwladol; gyda’r gobaith o lwyddo ar lwyfan rhyngwladol uwch.

Dywedodd Gwawr Thomas, Cyfarwyddwr Creative Skillset Cymru: "Datblygiad ein talent greadigol yw’r ffactor mwyaf pwysig i sicrhau twf parhaus yn y Diwydiannau Creadigol yng Nghymru. Rydym yn gweithio gyda sefydliadau ac unigolion allweddol y Diwydiannau Creadigol yng Nghymru i gynnal y fenter yma ar gyfer awduron sy'n torri tir newydd.

"Bydd y cynllun yn helpu unigolion i ddatblygu eu sgiliau er mwyn iddynt fod y gorau yn eu maes, ac yn darparu’r talent sydd ei angen i helpu busnesau Cymru i dyfu mewn marchnad sy’n gystadleuol ar lefel ryngwladol – unigolion wedi eu hyfforddi ac yn barod i weithio yn y diwydiant."

Dywedodd Gwawr Martha Lloyd, Comisiynydd Drama S4C: "Rydym yn ffodus iawn yng Nghymru i gael cyfoeth o awduron llawn dychymyg ac uchelgeisiol. Ein gobaith â'r cynllun hwn yw i weithio gyda’r unigolion hyn i ddyrchafu eu gwaith i safon hyd yn oed yn uwch.

"Mae hon yn fenter uchelgeisiol sy'n ein galluogi i gynnig cyfleoedd arbennig ar gyfer awduron cyfrwng Cymraeg i gyd-weithio â mentoriaid ac elwa o brofiadau unigolion talentog sydd wedi cynhyrchu cynnwys gwreiddiol ar gyfer teledu, ffilm a theatr a hynny ar y llwyfan rhyngwladol. Rydym yn falch i fuddsoddi yn nyfodol y diwydiannau creadigol yng Nghymru ac yn nyfodol cynnwys Cymraeg ar S4C."

Bydd yr ymgeiswyr llwyddiannus yn cymryd rhan mewn cynllun wedi ei deilwra a’i ariannu'n llawn am 11 mis; yn cynnwys cyrsiau preswyl yng Nghanolfan Ysgrifennu Tŷ Newydd, mentora pwrpasol un-i-un rheolaidd, cyfleoedd rhwydweithio, datblygu sgiliau busnes ac arweiniad ar gyfer prosiect penodol.

Mae Y Labordy yn rhan o raglen £4.5 miliwn Creative Skillset Cymru, Sgiliau ar gyfer yr Economi Ddigidol, sy'n anelu at ddatblygu a darparu hyfforddiant hyblyg, wedi ei lunio gan y diwydiant, er mwyn ateb anghenion cyflogwyr a gweithwyr llawrydd y Cyfryngau Creadigol sy'n gweithio neu'n byw yng Ngorllewin Cymru, y Cymoedd a Gogledd Orllewin Cymru.

Cefnogir y rhaglen gan £2.7 miliwn o Gronfa Gymdeithasol Ewrop (ESF) trwy Lywodraeth Cymru, gyda gweddill yr arian yn cael ei ddarparu gan S4C, y gymdeithas fasnach ar gyfer cynhyrchwyr annibynnol ym maes ffilm a theledu yng Nghymru, Teledwyr Annibynnol Cymru (TAC) a Creative Skillset Cymru.

Er mwyn cael eu dewis i Y Labordy, rhaid bod gan ymgeiswyr o leiaf un cydnabyddiaeth proffesiynol sgrîn neu theatr a bydd yn rhaid iddynt gyflwyno datganiad ddiddordeb, dau syniad stori gwreiddiol i gael eu datblygu yn sgript ar gyfer y Teledu, Ffilm neu Theatr, yn ogystal â sampl o'u gwaith sgriptio eu hunain. Am fwy o wybodaeth ac i wneud cais ewch i tynewydd@literaturewales.org neu ffoniwch 01766522811.

Diwedd

 

 

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?