S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

Seren yr ysbyty yn cipio coron Cariad@Iaith

23 Mehefin 2014

  Suzanne Packer, yr actores o Gaerdydd sy'n adnabyddus fel Tess Bateman ar gyfres Casualty yw enillydd Cariad@Iaith:Love4Language eleni.

Cyhoeddwyd neithiwr (nos Sadwrn 21 Mehefin) mai Suzanne oedd wedi dod i'r brig ar ffeinal Cariad@Iaith ar S4C.

Treuliodd Suzanne, a saith o sêr eraill, wythnos yn Nant Gwrtheyrn ym Mhen Llŷn yn dysgu Cymraeg gyda chamerâu S4C yn eu dilyn bob cam o'r ffordd.

Wedi wythnos o ddysgu, chwerthin a chwysu roedd gofyn i'r dysgwyr fwrw eu pleidlais gan ddweud pwy, yn eu tyb nhw, oedd wedi bod ar y siwrnai fwyaf yn ystod yr wythnos.

Roedd Suzanne wedi gwirioni ar ôl clywed mai hi oedd wedi ennill ond yn fwy na hynny wedi cael modd i fyw yn y Nant a blas go iawn ar y dysgu.

"Roedd hi'n dipyn o sioc i mi fy mod i wedi ennill ond ro'n i wedi gwirioni a dweud y gwir! Ond heb air o gelwydd mi wnes i weithio yn galed iawn iawn yn ystod yr wythnos," meddai Suzanne, sydd bellach yn ôl ar set Casualty yng Nghaerdydd.

"Rydw i wedi ceisio dysgu siarad Cymraeg fwy nac unwaith yn y gorffennol ond wedi methu dro ar ôl tro am nifer o resymau, felly'r tro hwn roeddwn i'n benderfynol. Pan ddes i i Gaerdydd i weithio ar Casualty gyntaf nes i benderfynu rhoi fy mab, Paris, sy'n unarddeg, mewn addysg iaith Gymraeg, ac yn ddiweddar nes i benderfynu unwaith ac am byth fy mod eisiau gallu siarad Cymraeg gyda Paris adref.

"Mae wedi bod yn gofyn i mi trwy'r wythnos, 'Mam, pwy sydd yn ennill Cariad@Iaith?' ond doeddwn i heb ddweud wrtho felly roedd yn dipyn o sypreis ar y noson! Roedd ei Gymraeg yn well na f'un i erbyn iddo gyrraedd pump neu chwech oed, ond nawr gan ei fod tipyn bach yn hyn mae'n deall bod angen llawer o help arna i ac mae'n ceisio fy nysgu chwarae teg.

"Roedd Cariad@Iaith yn brofiad arbennig, ac roedd y dull dysgu, desuggestopedia, yn gweithio yn wych i mi. Dwi wedi dod yn llawer mwy hyderus ac yn benderfynol o barhau - dwi eisioes wedi trefnu i gael gwersi un wrth un bob wythnos gyda Siân Jones yma yng Nghaerdydd."

Ar ddiwedd yr wythnos roedd y tiwtoriaid Cymraeg Nia Parry ac Ioan Talfryn yn llawn canmoliaeth i bob un o'r dysgwyr, ac mae Nia Parry yn teimlo bod Suzanne yn llawn haeddu ennill coron Cariad@Iaith 2014.

"Roedd Suzanne yn ddiwyd, yn weithgar ac yn gydwybodol yn y dosbarth, yn barod i daflu ei hun mewn a bod yn rhan o'r holl weithgarwch," meddai Nia, oedd yn cyd-gyflwyno’r gyfres gyda Matt Johnson yn ogystal â dysgu Cymraeg i'r criw.

"Mae gan Suzanne gymhwyster dysgu ac roedd hyn yn amlwg o'r ffordd roedd hi'n ymdrin â'i chyd-ddysgwyr. Roedd hi wastad yn barod i'w cynorthwyo a'u cefnogi ac roedd yn annwyl, yn famol ac yn fugeiliol o hyd. Roedd ganddi gryn dipyn o Gymraeg cyn dod ar Cariad@Iaith ond dw i'n teimlo fel ein bod wedi ei gweld yn blodeuo yn ystod yr wythnos.

"Roedd yn bleser pur cael bod yn ei chwmni hi a gweddill y criw yn y 'stafell ddosbarth a thu hwnt drwy gydol yr wythnos. Wythnos gwbl fythgofiadwy!"

Y saith arall oedd ddigon dewr i gymryd rhan mewn gwersi a gweithgareddau dan arweiniad y tiwtoriaid Cymraeg brwdfrydig Nia Parry ac Ioan Talfryn oedd yr actores Siân Reeves, y cantorion Ian 'H' Watkins o STEPS a John Owen-Jones, y cyn gôl-geidwad rhyngwladol Neville Southall, enillydd 'Big Brother' 2013 Sam Evans, Jenna Jonathan o gyfres MTV 'The Valleys' a Behnaz Akhgar sy'n gyflwynydd tywydd ar wasanaethau BBC Cymru.

Cyflwynwyd gwobr i Suzanne sef plât ceramig arbennig wedi ei ddylunio gan yr artist Buddug Humphreys, gyda'r frawddeg 'Cenedl Heb Iaith Cenedl Heb Galon' wedi ei hysgrifennu arni. Roedd y saith dysgwr arall hefyd yn derbyn llwy garu wedi ei dylunio gan Buddug.

 

 

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?