S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

Cadeirydd Awdurdod S4C: Hyblygrwydd yn angenrheidiol er mwyn cwrdd â heriau’r dyfodol

17 Gorffennaf 2014

Mae natur y gwasanaethau a gynigir gan S4C wedi newid i gyd-fynd ag amgylchiadau ariannol y sianel. Dyna un o gasgliadau Cadeirydd Awdurdod y sianel yn Adroddiad Blynyddol S4C 2013/14.

Yn ôl Huw Jones, mae asesiad o berfformiad S4C yn dangos bod y gwasanaeth wedi addasu'n sylweddol er mwyn ymdopi â'r lleihad yn y gyllideb. Yn bennaf, mae'r newid wedi dod ar ffurf datblygiadau sy'n creu rhagor o gyfleoedd i wylio'r cynnwys ar draws y DU; cost yr awr y cynnwys yn lleihad; ac adnoddau i alluogi i gynulleidfaoedd di-gymraeg i wylio.

Mae'r newyddion o ran cyrhaeddiad yn gymysg, gyda chyrhaeddiad wythnosol y sianel yn llai, yn bennaf wrth i allu'r sianel i gystadlu am hawliau chwaraeon gael ei leihau, ond mae cyrhaeddiad blynyddol wedi cynyddu wrth i fwy o bobl wylio'n achlysurol.

Yn ôl Prif Weithredwr S4C, Ian Jones, yr her glir i'r sianel nawr yw adeiladu ar y llwyddiant o ran denu gwylwyr achlysurol, fel eu bod yn dychwelyd yn amlach i wylio cynnwys S4C.

Er yr heriau sy'n dod law yn llaw â lleihad cyllidebol a newidiadau demograffig, mae'r Awdurdod hefyd yn nodi bod y sianel wedi dangos ei gallu i gynllunio gwasanaeth sy’n cwrdd â newidiadau mewn dulliau o wylio, ac i gyflwyno newidiadau radical fel y penderfyniad mewn egwyddor i symud pencadlys y sianel i Gaerfyrddin.

Eleni, mae adroddiad blynyddol S4C yn adrodd ar gyfnod o 15 mis wrth i'r sianel newid i system o adrodd ar flynyddoedd ariannol o’r flwyddyn nesaf ymlaen. Ymhlith y canfyddiadau ar gyfer 2013/14 y mae:

6.5 miliwn Nifer o bobl wyliodd S4C drwy'r DU yn 2013 (2012: 5.3m)

5.2 miliwn  Sesiynau gwylio ar-lein (2013: 4m, 2012:2.8m)

1.4 miliwn  Nifer o bobl sy'n tiwnio mewn i S4C ar gyfartaledd bob mis (cyrhaeddiad 3 munud) (2012: 1.3m)

1.2 miliwn  Nifer wyliodd raglenni o ddigwyddiadau'r flwyddyn ar deledu

578,000   Nifer y gwylwyr trwy'r DU yn ystod wythnos gyffredin (2012: 599,000)

194,000   Nifer y siaradwyr Cymraeg yng Nghymru sy'n gwylio ar gyfartaledd bob wythnos (2012: 216,000)

8 awr 4 munud  Nifer o funudau a wylir ar gyfartaledd bob wythnos yng Nghymru gan wylwyr sy'n siarad Cymraeg (2012: 7 awr 3 munud)

224,000   Ymweliadau â gwefan S4C bob mis (2012: 201,000)

Wrth gyhoeddi Adroddiad Blynyddol S4C 2013/2014, meddai Cadeirydd Awdurdod S4C, Huw Jones:

"Mae'r Awdurdod yn credu fod S4C wedi gwneud yn dda iawn yn greadigol wrth wynebu newidiadau mewn demograffeg ieithyddol, wrth sicrhau arbedion sylweddol i ddygymod a'r gostyngiad cyllid sylweddol y mae wedi ei wynebu ers 2011. Ein canfyddiad cyffredinol yw bod safon rhaglenni yn y rhan fwyaf o feysydd wedi bod yn uchel, gyda nifer o lwyddiannau trawiadol, yn arbennig ym meysydd drama a dogfen, a bod y gwasanaeth wedi cael ei werthfawrogi'n gyson gan siaradwyr Cymraeg a gan nifer sylweddol o wylwyr di-gymraeg.

"Roeddem yn falch iawn o weld nifer o fentrau digidol yn gweld golau dydd. Dyma faes sydd o bwysigrwydd mawr os ydym am barhau i gysylltu gyda'n gwylwyr iau yn arbennig, ond hefyd i ddarparu ar gyfer anghenion poblogaeth symudol.

"Yn gyffredinol mae cyrhaeddiad wythnosol yng Nghymru ac ar draws y Deyrnas Gyfunol i lawr. Gellir priodoli llawer o hyn i'r ffaith nad ydym yn gallu prynu'r hawliau i ddarlledu chwaraeon o safon uchel i'r un graddau ag o'r blaen, o ganlyniad i gystadleuaeth ffyrnicach, sy'n debygol o barhau. Mae rhywfaint hefyd yn ganlyniad i newid ym mhanel mesur BARB. Mae gwylio gan siaradwyr Cymraeg, fodd bynnag, yn fwy cyson, tra mae yna gynnydd trawiadol wedi bod yn y nifer o wylwyr achlysurol ar draws y DU wnaeth ddefnyddio'r gwasanaeth rywbryd yn ystod y flwyddyn.

"Mae'n rhaid i ni ail-ymweld yn gyson â'r cwestiwn o beth yw blaenoriaethau rhaglenni ein cynulleidfa. Yr amcan sylfaenol, o reidrwydd, yw denu mwy o’r rheiny sy'n defnyddio'r gwasanaeth yn achlysurol i ddod o hyd i resymau cyson i droi atom yn rheolaidd. Rhaid i ni hefyd fod yn barod i gwestiynu ein gallu i barhau i ddarparu, drwy'r amser, raglenni ar draws yr holl ystod o genres byddwn ni'n dymuno eu cynnwys."

Ychwanegodd Prif Weithredwr S4C, Ian Jones:

"Rydym wedi gweld newidiadau sylweddol a phellgyrhaeddol yn S4C yn ystod y ddwy

flynedd diwethaf, a bydd llawer mwy o heriau creadigol ac ymarferol yn ystod y flwyddyn i ddod.

"Y brif her yw sicrhau ein bod yn parhau i ddarparu gwasanaeth o'r ansawdd uchaf posibl i'r gynulleidfa ehangaf posibl ar ystod eang o lwyfannau a dyfeisiau. Rydym hefyd am barhau i arloesi ac i adeiladu sylfeini cadarn ar gyfer sefydliad cryf, cenedlaethol, annibynnol ar gyfer y dyfodol ac ymdrechu i sicrhau bod gwylwyr achlysurol yn dod yn wylwyr mwy rheolaidd. Bydd y dyfodol yn heriol ond cyffrous. Edrychaf ymlaen at weithio gyda'r sector gynhyrchu annibynnol, BBC Cymru a staff S4C i sicrhau ein bod yn gwireddu hyn oll ac yn gosod sylfaen gadarn ar gyfer y cam nesaf yn hanes S4C y tu hwnt i 2017."

Cliciwch yma i weld Adroddiad Blynyddol S4C 2013/14

Diwedd

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?