S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

Ymgyrch newydd S4C yn rhoi’r dewis i chi

21 Gorffennaf 2014

    Bydd ymgyrch newydd S4C dan y teitl ‘Eich Dewis Chi’ yn cychwyn ar faes Sioe Frenhinol Cymru yn Llanelwedd heddiw (dydd Llun 21 Gorffennaf) cyn mynd ar daith ledled Cymru gyda sioeau pen ffordd dros y tri mis nesaf.

‘Ar deledu, ar-lein, ar alw. S4C - Eich Dewis Chi’ - dyna fydd prif neges yr ymgyrch a’r brif nod fydd hysbysu’r cyhoedd bod modd gwylio S4C ar nifer o wahanol blatfformau erbyn hyn mewn unrhyw le ac ar unrhyw bryd.

Nod arall yr ymgyrch yw ceisio annog y rhai sydd ddim yn wylwyr cyson, a’r rhai sydd ddim yn gwylio, i gymryd golwg ffres ar yr amrywiaeth eang o raglenni sydd ar gael ac i wneud defnydd o’r gwasanaethau mae S4C yn eu cynnig.

Fel rhan o’r ymgyrch, bydd rhai o sêr S4C a chynrychiolwyr y sianel yn ymweld â thua 40 o leoliadau ar draws Cymru yn ystod Awst, Medi a Hydref. Y Sioe Frenhinol - prif ddigwyddiad y byd amaeth yng Nghymru sy’n cael ei darlledu’n fyw drwy’r dydd ar S4C a chydag uchafbwyntiau bob nos - yw’r man cychwyn. Bydd yr ymgyrch wedyn yn parhau yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn Llanelli ac yn Sioe Môn yng nghanol Awst, cyn teithio i drefi, pentrefi a chymunedau ymhob cwr o’r wlad.

Yn ogystal â chwrdd â rhai o wynebau cyfarwydd y sianel, bydd cyfle i’r cyhoedd fynegi eu barn am raglenni a gwasanaethau S4C, bydd llyfryn gwybodaeth yn cael ei ddosbarthu, dangosir promo arbennig ar gyfer yr ymgyrch, bydd cyfle i gymryd rhan mewn cystadleuaeth a bydd consol gemau ar gael hefyd, sy’n un arall o’r ffyrdd y mae modd i bobl wylio cynnwys y sianel.

Meddai Ian Jones, Prif Weithredwr S4C, “Mae bod yng nghanol bywydau bob dydd bobl Cymru yn rhan hanfodol o weledigaeth S4C. Bydd ein hymgyrch newydd ‘Eich Dewis Chi’ yn mynd â ni at ein gwylwyr yn eu cymunedau a hefyd yn dod â ni wyneb-yn-wyneb â'r rheiny sydd ddim yn gwylio S4C ar hyn o bryd, neu sydd ddim yn wylwyr cyson. Mae’n holl bwysig ein bod ni’n gwrando ac yn siarad gyda’n cynulleidfa a chyda’r cyhoedd yng Nghymru yn gyffredinol. Ry' ni am godi ymwybyddiaeth o faint o gyfleoedd sydd i weld ein rhaglenni sy’n cael eu canmol yn gyson am fod o safon uchel.

“Mae S4C ar gael i’w gwylio yn fyw ar draws sawl platfform erbyn hyn ac mae ein rhaglenni i’w gweld ar-lein ac ar alw hefyd drwy nifer o wahanol gyfryngau. Mae gennym amrywiaeth eang o raglenni - rhywbeth at ddant pawb - a llawer o gyfresi a rhaglenni newydd ar gyfer yr hydref. Mae gennym hefyd nifer o wasanaethau hygyrchedd a gwasanaethau digidol.

“Felly, mae’n amser i gymryd golwg ffres ar S4C ac er mwyn annog pobl i wneud hynny byddwn yn ymweld â nhw yn eu hardaloedd ac mewn digwyddiadau fel y Sioe Frenhinol yn y misoedd nesaf. Dewch heibio am sgwrs.”

Yn ogystal â theithio’r wlad, bydd S4C yn hysbysebu’r neges ‘Ar deledu, ar-lein, ar alw. S4C - Eich Dewis Chi’ - ar deledu, radio, mewn sinemâu, yn y Wasg ac ar-lein a bydd cystadleuaeth yn cael ei chynnal trwy lenwi holiadur am arferion gwylio. Y gwobrau fydd teledu clyfar, gliniadur, ffôn clyfar a thabled - pob un yn ffordd o wylio S4C.

• Mae’n bosib gwylio S4C ar deledu yng Nghymru ac ym Mhrydain ar Sky, Freesat a Virgin ac yng Nghymru ar Freeview.

• Os am wylio rhaglenni S4C ar alw am 35 diwrnod ar ôl eu darllediad cyntaf, gellir defnyddio gwasanaeth S4C, Clic, sydd hefyd yn darlledu S4C yn fyw. Gellir gwylio rhaglenni S4C ar-alw hefyd ar YouView, Facebook ac mae rhai rhaglenni ar gael ar iPlayer – ond yn hwyrach eleni bydd modd gwylio ein holl raglenni ar iPlayer.

• Mae hefyd modd gwylio S4C yn fyw ar-lein drwy TVCatchup a TVPlayer.

• Ymhlith gwasanaethau digidol S4C, bydd gwefan y sianel yn cynnig pecyn chwaraeon cynhwysfawr a phecyn newyddion gan y BBC yn y dyfodol agos. Mae Sianel YouTube S4C yn cael ei datblygu i gynnwys clipiau byrion o raglenni ac eitemau poblogaidd y sianel. Trwy Twitter - @TifiaCyw - mae’n bosib cael cyfieithiad ac esboniad o eiriau Cymraeg allweddol.

• Yr Apiau sydd ar gael trwy wasanaeth S4C yw Clic (ar iPad neu iPhone), y Tywydd a Cyw ac mae nifer o gemau ac e-lyfrau ar gael i’w lawrlwytho trwy wefan S4C.

• Ymhlith yr apiau fydd ar gael yn fuan mae ap newydd S4C yn rhoi cyfle i fwynhau cynnwys S4C i gyd mewn un lle, Realiti sy'n blatfform estynedig â chynnwys ychwanegol, Ap Dysgwyr i gyd-redeg a gwasanaeth newydd i ddysgwyr y Gymraeg a Cyw Byw, ffrwd ddi-dor o raglenni i’r plant ieuengaf o fore tan nos.

• Mae gwasanaethau hygyrchedd S4C yn cynnwys isdeitlau, sain ddisgrifio, arwyddo a sylwebaeth botwm coch.

Diwedd

 

 

 

 

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?