S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

Animeiddiad S4C yn cyrraedd ffeinal gŵyl ryngwladol

31 Ionawr 2014

Cyhoeddwyd heddiw bod NiDiNi, animeiddiad S4C sydd wedi ei greu gan gyflenwr cyfryngau Griffilms wedi ei enwebu yn ffeinal Gŵyl PRIX JEUNESSE INTERNATIONAL 2014.

Mae’r gyfres sy’n cynnwys cymeriadau wedi ei hanimeiddio yn cyd-fynd â chlipiau o blant Cymru yn siarad am eu teimladau wedi cyrraedd y ffeinal yng nghategori ffuglen i blant rhwng 7-11 oed.

Bwriad sefydliad PRIX JEUNESSE yw hyrwyddo ansawdd ym myd teledu plant ledled y byd. Mae’r sefydliad yn awyddus i arddangos rhaglenni teledu sy’n caniatáu i blant weld, i glywed a mynegi eu hunain a’u diwylliant, ac sy’n codi ymwybyddiaeth a gwerthfawrogiad o ddiwylliannau eraill.

Mae’r plant sydd i’w clywed ar NiDiNi yn trafod amrywiaeth o bynciau o heddwch i beth ydy bod yn hen. Mae’r plant yn aml yn ddoniol, ac weithiau’n heriol, yn graff ac yn deimladwy. Gan fod yr animeiddiadau yn ddienw mae’r plant yn teimlo’n rhydd i siarad yn fwy agored am eu teimladau na fydden nhw fel arfer, ac mae’r cwmni wedi gweithio i greu portreadau gonest gyda digon o hiwmor. Yn y bennod sydd wedi ei henwebu mae’r plant yn trafod beth sy’n ei gwneud nhw’n hapus ac yn drist.

Mae Griffilms, y cwmni sy’n gyfrifol am NiDiNi, yn gyflenwr cyfryngau aml wobrwyol sy’n arbenigo o fewn y byd animeiddio ac yn gweithio gyda chwmnïau ledled y Deyrnas Unedig ers iddyn nhw sefydlu nôl yn 1992. Mae’r cwmni wedi gwirioni gyda’r cyhoeddiad:

“Rydym ni’n falch iawn o fod yn cynrychioli S4C ar lwyfan rhyngwladol.” Meddai Hywel Griffith, cyfarwyddwr cwmni Griffilms. “Griffilms yw’r cwmni animeiddio sydd wedi bod yn gweithio hiraf yng Nghymru ac mae cyrraedd ffeinal y wobr fawreddog hon wedi bod yn uchelgais gennym ni erioed.”

Meddai Sioned Wyn Roberts, Comisiynydd Cynnwys S4C: “Mae NiDiNi yn gyfres wych sy’n adlewyrchu teimladau plant mewn ffordd ddifyr a doniol ond sydd hefyd yn cyffwrdd y gwylwyr. Llongyfarchiadau gwresog i Griffilms a gobeithio y bydd yr enwebiad yn dangos cynifer o raglenni gwych a gaiff eu cynhyrchu yma yng Nghymru a’u darlledu ar sianel y genedl, S4C.”

Mae ap sy’n cyd-fynd â’r gyfres yn caniatáu i blant recordio eu lleisiau a chreu animeiddiadau eu hunain cyn uwchlwytho'r cynnwys i wefan Ni Di Ni. Mae’r ffaith eu bod nhw’n ddienw yn caniatáu i’r plant siarad yn fwy agored a gonest, ac felly mi fydd cynnwys y wefan yn adlewyrchiad gwir o fywydau plant Cymru heddiw.

Cynhelir Gŵyl PRIX JEUNESSE INTERNATIONAL 2014 yn Yr Almaen rhwng 30 May a 4 Mehefin 2014.

Diwedd

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?