S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

S4C yn taro cefn y rhwyd gydag uchafbwyntiau Cymraeg o bum gêm bêl-droed ragbrofol olaf Cymru

08 Mehefin 2015

Bydd S4C yn darlledu uchafbwyntiau estynedig yn yr iaith Gymraeg o bum gêm olaf Cymru yn rowndiau rhagbrofol Euro 2016 wrth i'r tîm pêl-droed cenedlaethol ymladd i gyrraedd y rowndiau terfynol yn Ffrainc y flwyddyn nesaf.

Mae'r cyfan yn dechrau gyda gêm fawr Cymru v Gwlad Belg nos Wener 12 Mehefin gyda rhaglen uchafbwyntiau am 10:30.

Bydd y rhaglen uchafbwyntiau Euro 2016: Cymru v Gwlad Belg yn dangos uchafbwyntiau estynedig o'r gêm UEFA Grŵp B.

Bydd S4C hefyd yn darlledu uchafbwyntiau estynedig o'r pedair gêm ragbrofol Grŵp B nesaf yn yr hydref; y gemau gartre' yn erbyn Israel ac Andorra ac oddi cartre' yn erbyn Cyprus a Bosnia-Herzegovina.

Bydd yr adloniant pêl-droed yn dechrau nos Iau 11 Mehefin pan fydd S4C yn darlledu sioe siarad pêl-droed arbennig, o'r enw Taro'r Bar: Euro 2016. Bydd sioeau tebyg yn y gyfres Taro'r Bar Euro 2016 yn cael eu darlledu cyn y pedair gêm ragbrofol UEFA arall.

Bydd y ddwy raglen yn cael eu cynhyrchu gan Rondo Media, sy'n gyfrifol am raglenni chwaraeon S4C, Sgorio a Clwb.

Bydd y tîm cyflwyno yn cynnwys y darlledwr chwaraeon Dylan Ebenezer a chyn ymosodwr Cymru a Newcastle Malcolm Allen.

Ar hyn o bryd mae Cymru yn ail yn y grŵp a gyda'r ddau dîm cyntaf yn bendant yn mynd i'r rowndiau terfynol y flwyddyn nesaf, mae'n gyfle gwirioneddol dda i Gymru gyrraedd eu twrnamaint rhyngwladol cyntaf er 1958.

Meddai Golygydd Chwaraeon S4C, Sue Butler, "Rydym yn falch o gyhoeddi bod S4C wedi sicrhau'r hawliau i ddarlledu uchafbwyntiau pum gêm olaf Cymru yn y rowndiau rhagbrofol. Gyda Chymru yn agosáu at greu hanes yn y byd pêl-droed, rydym yn falch o allu darparu uchafbwyntiau i ddilynwyr y gêm brydferth. Mae'n ategu ein darllediadau byw o Uwch Gynghrair Cymru a thwrnameintiau eraill yng Nghymru."

Meddai Jonathan Ford, Prif Weithredwr Cymdeithas Pêl-droed Cymru, "Mae Cymdeithas Pêl-droed Cymru yn falch iawn y bydd S4C yn dangos uchafbwyntiau o weddill ein gemau yn rowndiau rhagbrofol Pencampwriaeth Ewrop.

Rydym bob amser wedi mwynhau perthynas waith ardderchog gyda'r darlledwr ein cystadlaethau domestig yma yng Nghymru.

"Mae hi'n gyfnod cyffrous i bêl-droed rhyngwladol. Rydym i gyd yn cefnogi Chris Coleman a'i dîm i'r carn yn eu hymdrechion i gyrraedd Ffrainc yn 2016. Yn awr, bydd mwy fyth o'n cefnogwyr yn gallu mwynhau'r uchafbwyntiau ar S4C."

Mae S4C ar gael ar Sky 104, Freeview 4, Virgin TV 166 a Freesat 104 yng Nghymru.Yn Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon, mae S4C ar gael ar Sky 134, Freesat 120 a Virgin TV 166.

Gall gwylwyr ar draws y DU hefyd wylio S4C yn fyw ar S4C.cymru, tvcatchup.com ac TVPlayer.com ar ffonau symudol a thabledi. Mae rhaglenni S4C ar gael ar YouView a BBC iPlayer hefyd.

DIWEDD

 

 

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?