S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

Newyddion da i gefnogwyr y bêl gron – La Liga yn Sgorio – a bellach ar gael ar y we

24 Awst 2015

 Mae S4C wedi cyhoeddi y bydd goreuon gemau pêl-droed Sbaen yn cael eu cynnwys yn Sgorio bob nos Lun o raglen heno ymlaen (nos Lun 24 Awst) – ac y bydd hefyd ar gael i'w gwylio ar-lein ar y we ar s4c.cymru ac iPlayer.

Yn ogystal ag uchafbwyntiau’r penwythnos yn Uwch Gynghrair Cymru Dafabet, bydd Sgorio ar nos Lun yn cynnwys y chwarae o gemau La Liga, prif gynghrair Sbaen. Bydd Sgorio bob nos Lun am 6.30 hefyd ar gael ar wasanaeth ar alw’r sianel ar wefan s4c.cymru ac iPlayer am saith diwrnod.

Gêm fwyaf y penwythnos agoriadol yn Sbaen oedd taith letchwith y Campeones, Barcelona i'r San Mamés i wynebu Athletic Bilbao. Taith tua'r gogledd oedd yn wynebu Real Madrid wrth iddynt fentro i'r El Molinón, cartref Sporting Gijon, sydd newydd ddychwelyd i La Liga. Newydd-ddyfodiaid eraill, Las Palmas oedd gwrthwynebwyr Atletico Madrid yn y Calderon.

Mae’r newyddion am La Liga yn dilyn y cyhoeddiad yr wythnos diwethaf fod pêl-droed o Gymru yn mynd i fod ar gael i gefnogwyr ar draws y byd wrth i gemau rhaglen brynhawn Sadwrn Sgorio cael eu darparu’n rhyngwladol ar wasanaeth ar alw s4c.cymru

Bydd y gemau sy'n cael sylw gan Sgorio bob prynhawn Sadwrn – yn cynnwys Uwch Gynghrair Cymru Dafabet, Cwpan Cymru JD a rownd derfynol Cwpan Word - yn cael eu llwytho ar wasanaeth ar-lein rhyngwladol S4C yn dilyn y chwiban ola', fydd yn caniatáu i gefnogwyr ar draws y byd hefyd wylio'r gêm yn llawn, ar alw, am 35 diwrnod.

Meddai Sue Butler, Golygydd Chwaraeon S4C; "Rydym yn falch iawn o weld dechrau tymor cyffrous arall o bêl-droed ar S4C gyda chyfres newydd o Sgorio yn ei slot newydd ar brynhawn Sadwrn a rhaglen nos Lun nawr yn mynd i gynnwys La Liga. Mae La Liga yn cael ei hystyried fel cynghrair gryfa’ Ewrop, felly mae sicrhau cael cynnwys uchafbwyntiau’r gemau yn newyddion cyffrous i’n gwylwyr.”

Gyda phêl-droed yng Nghymru mewn cyfnod tra llwyddiannus, mae S4C yng nghanol y bwrlwm gyda rhaglenni uchafbwyntiau o gemau Cymru yn rowndiau rhagbrofol Euro 2016 hefyd i'w gweld ar y sianel.

Sgorio

Bob nos Lun 6.30, S4C

Hefyd fel rhan o Stwnsh, ar brynhawn Mawrth 5.00, S4C

Diwedd

 

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?