S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

Cyfle i weld Y Gwyll yn gyntaf! Dangosiad arbennig S4C a BAFTA Cymru

09 Medi 2015

Dangosiad arbennig o'r gyfres dditectif poblogaidd Y Gwyll/Hinterland yw un o'r digwyddiadau cyhoeddus cyntaf sy'n cael ei drefnu gan BAFTA Cymru yn rhan o bartneriaeth newydd gyda S4C.

Bydd dwy bennod gyntaf cyfres newydd, hir-ddisgwyliedig, Y Gwyll/Hinterland yn cael ei dangos am y tro cyntaf i gynulleidfa fechan yng nghanolfan Chapter, Caerdydd ar nos Fercher 9 Medi. Dyma fydd y cyfle cyntaf posib i weld y bennod gyntaf, cyn iddi gael ei darlledu ar deledu am y tro cyntaf ar S4C, am 9.00 nos Sul 13 Medi.

Bydd y noson yn cynnwys sgwrs gyda'r prif actorion, ac enwebeion Gwobrau’r Academi Brydeinig yng Nghymru, Mali Harries a Richard Harrington, un o gynhyrchwyr y gyfres Ed Thomas ac un o'r cyfarwyddwyr Gareth Bryn. Mae tocynnau ar gael i fynychu'r dangosiad drwy gysylltu â chanolfan Chapter ar 029 2030 4400 neu ar eu gwefan www.chapter.org

Mae'r noson yn un o nifer o ddigwyddiadau fydd yn cael eu cynnal ar draws y wlad ar y cyd rhwng S4C a BAFTA Cymru wrth i'r sefydliadau ymrwymo i gynnig rhagor o gyfleoedd i'r cyhoedd fod yn rhan o'i gweithgareddau. Eisoes bu'r ddau yn cydweithio i ddangos y ddrama Tir cyn ei darlledu ar S4C yn gynharach eleni.

Ac ym mis Hydref, bydd cyfle cyntaf i weld drama newydd arall S4C Dim Ond y Gwir yn nhref Caernarfon, ble mae'r ffilmio yn digwydd ar hyn o bryd. Mae'r cynhyrchiad gan Rondo Media yn cael ei ffilmio yn y dre gyda'r stori wedi ei selio mewn Llys Barn a bydd y noson arbennig yn cynnig cyfle i aelodaeth BAFTA Cymru a’r cyhoedd glywed gan y cast a chriw.

Mae'r dangosiadau yn rhan o gynlluniau BAFTA Cymru i gynnig mwy o gyfleoedd ar draws Cymru a chyflwyno rhagor o gynnwys Cymraeg i'w haelodau.

Dywedodd Catrin Hughes Roberts, Cyfarwyddwr Partneriaethau S4C; "Mae perthynas wedi bod rhwng S4C, fel un o brif ddarlledwyr Cymru, a BAFTA Cymru ers blynyddoedd mawr. Un o elfennau mwyaf cyffrous y bartneriaeth newydd hon yw gallu cynnig rhagor o gyfleoedd i'r cyhoedd fod yn rhan o'n gweithgareddau ac i weld ein rhaglenni cyn iddynt gael eu darlledu ar y sianel, yn ogystal ag edrych am gyfleoedd i fagu sgiliau a thalentau yn y diwydiant."

Dywedodd Hannah Raybould, Cyfarwyddwr BAFTA Cymru, "Rydym yn hynod o falch o gael cyd-weithio gyda S4C i ddathlu talentau ffilm a theledu Cymru drwy ddigwyddiadau fel rhain. Mae 34% o’n digwyddiadau ni eisoes yn cael eu cynnal tu hwnt i Gaerdydd, a chanran helaeth yn yr iaith Gymraeg. Rydym hefyd yn manteisio ar y cyfleoedd hyn i ysgogi unigolion sydd eisiau gweithio yn y cyfryngau i gael gwybod mwy am y gwahanol swyddi a chynyrchiadau sydd ar gael."

Mae Y Gwyll/Hinterland yn gynhyrchiad gan Fiction Factory ar gyfer S4C a BBC Cymru Wales. Noddir drama ar S4C gan Slater & Gordon.

Diwedd

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?