S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

Darlledwyr Celtaidd yn chwilio am syniadau ffres ac unigryw am raglen hamdden newydd

29 Medi 2015

Mae BBC ALBA, S4C a TG4 yn galw ar gwmnïau cynhyrchu ac unigolion i gyflwyno syniadau ffres ac unigryw ar gyfer fformat rhaglen hamdden newydd, fydd yn gweithio ar gyfer y tri darlledwr.

Nod y darlledwyr o'r Alban, Cymru ac Iwerddon, yw creu cyfres uchelgeisiol ac adloniannol, gydag apêl eang, sy'n gallu cael ei haddasu ar gyfer gwylwyr yn y tair gwlad a thu hwnt. Drwy gydweithio, y nod yw creu fformat gyda'r gobaith o'i gynnig i ddarlledwyr eraill ar y farchnad ryngwladol.

Maent yn gwahodd cynhyrchwyr teledu i gyflwyno syniadau am raglenni sy'n ddewr, beiddgar ac a fydd yn apelio'n uniongyrchol at gynulleidfa oriau brig. Maent yn chwilio am syniadau teimladwy, fydd yn gwneud i ni chwerthin neu grio, neu yn ein synnu.

Dywedodd Comisiynydd Cynnwys Adloniant S4C, Elen Rhys; "Dwi wrth fy modd i gael cyd-weithio gyda chyfoedion yn BBC ALBA a TG4 ar y fenter gyffrous hon. Mae rhaglenni hamdden yn chwarae rôl bwysig yn rhan o amserlen adloniant bywiog ac atyniadol, ac mae'n faes y mae S4C yn ymdrechu i ehangu arno ar gyfer y dyfodol. Mae'n fenter fydd yn dod â budd i'r gwylwyr ar draws y tair cenedl yn ein hieithoedd ein hunain, wrth i ni gyflwyno cynnwys newydd ar y sgrin. Mae hefyd yn gyfle euraidd i gynhyrchwyr ddatblygu eu syniadau a chreu fformatau hyblyg gyda'r potensial i ehangu."

Dywedodd Margaret Cameron, Golygydd Sianel BBC ALBA; "Rydym yn gobeithio'r fawr y bydd cynhyrchwyr rhaglenni ym mhob un o'r gwledydd yn cyflwyno syniadau fydd yn ein herio ac yn ein cyffroi. Rydym yn uchelgeisiol dros y sector ac yn gobeithio y bydd y syniadau yn uchelgeisiol hefyd."

Dywedodd Golygydd Comisiynu TG4, Máire Ní Chonláin; "Mae'r Celtiaid yn bobl greadigol ac yn llawn dychymyg ac wrth uno'r darlledwyr o Gymru, Yr Alban ac Iwerddon, gallwn edrych ymlaen at ddarganfod syniadau adloniant gafaelgar fydd yn gweithio nid yn unig ar gyfer ein sianeli ni ond a fydd yn gallu teithio'r byd hefyd."

Mae S4C, BBC ALBA a TG4 yn gwahodd cynhyrchwyr rhaglenni i gyflwyno syniadau erbyn canol dydd ar ddydd Gwener, 30 Hydref, 2015 drwy e-bost celticformats@s4c.cymru

Dylai'r cynigion gynnwys crynodeb, triniaeth ar gyfer y fformat, awgrym o'r talentau arfaethedig ac o sut y caiff yr arian datblygu ei ddefnyddio i gynhyrchu peilot gwerth chweil a ellir cael ei ddefnyddio fel sail ar gyfer cyfres sy'n dychwelyd.

Dewisir un syniad i dderbyn y £15,000 o arian datblygu i greu peilot i'w gyfleu yn gynnar yn 2016.

Mae rhagor o wybodaeth a manylion am sut i gyflwyno cais ar gael yma:

http://www.s4c.cymru/cy/cynhyrchu/page/1517/newyddion/

Diwedd

Nodiadau:

Mae S4C hefyd yn galw am syniad ar gyfer cyfresi Adloniant bywiog ac uchelgeisiol mewn tri maes penodol: Cyfres Adloniannol Nos Sadwrn; Cyfres Gymunedol Fawr sy'n Creu Sŵn a Chyffro; Cyfres Ddychanol a Phoblogaidd. Mae'r dyddiadau cau yn amrywio o 2 Hydref hyd 30 Hydref. Gwybodaeth yma:

http://www.s4c.cymru/cy/cynhyrchu/page/1669/gwahoddiad-am-syniadau-adloniant-/

S4C

S4C yw'r unig sianel deledu Cymraeg yn y byd. Fel darlledwr gwasanaeth cyhoeddus, mae'n comisiynu cwmnïau cynhyrchu annibynnol yng Nghymru i wneud y rhan fwyaf o'i rhaglenni. Mae ITV Cymru hefyd yn cael ei gomisiynu i gynhyrchu rhaglenni. Mae BBC Cymru yn cynhyrchu tua deg awr yr wythnos o raglenni ar gyfer S4C, gan gynnwys y newyddion a'r ddrama ddyddiol Pobol y Cwm, wedi'u hariannu o ffi'r drwydded.

Mae S4C yn darlledu dros 115 awr o raglenni bob wythnos - o chwaraeon, drama a cherddoriaeth i ffeithiol, adloniant a digwyddiadau - ar wahanol lwyfannau, gan gynnwys y we. Mae S4C yn cynnig gwasanaethau helaeth ar gyfer plant: Cyw ar gyfer y gwylwyr iau, Stwnsh ar gyfer plant hŷn a rhaglenni ar gyfer plant a phobl ifanc yn eu harddegau.

Mae S4C yn cyd-weithio gyda phartneriaid yn y diwydiant er mwyn datblygu syniadau newydd ar gyfer rhaglenni beiddgar a chyffrous i'w darlledu ar y sianel, ac i'w dosbarthu yn ehangach. Yn ogystal â'r fenter newydd hon, mae S4C yn datblygu fformatau adloniant ar y cyd â chwmni Sony Pictures Television ac mae'r sianel hefyd wedi cydweithio â STV yn Yr Alban a TV3 yn Iwerddon i gynhyrchu'r cwis Celwydd Noeth, sef fersiwn Gymraeg o gyfres The Lie.

BBC ALBA

Tha BBC ALBA air a ruith le MG ALBA ann an co-bhanntachd ris a’ BhBC. Is e MG ALBA an t-ainm fo bheil Seirbheis nam Meadhanan Gàidhlig (Gaelic Media Service) ag obair. ‘S e dleastanas MG ALBA dèanamh cinnteach gu bheil raon farsaing agus measgaichte de dheagh phrògraman Gaidhlig rim faotainn airson dhaoine ann an Alba. Tha MG ALBA a’ coileanadh a dhleastanas gu ìre mhòr tro BhBC ALBA, an t-seirbheis telebhisein agus ioma-mheadhain Gàidhlig a tha e a’ ruith ann an co-bhanntachd leis a’ BhBC. Tha aonta laghail eadar MG ALBA agus am BBC, a tha a’ cur an cèill mar a thèid BBC ALBA a ruith leis an dà bhuidhinn agus na stòrasan a chuireas gach buidheann ris an t-seirbheis. Tha a’ cho-bhanntachd seo air a stiùireadh le Bòrd na Co-bhanntachd le Àrd-Oifigear MG ALBA sa chathair. Faigh a-mach tuilleadh mu MG ALBA agus an co-bhanntachd aig www.mgalba.com

no tadhal air www.bbcalba.co.uk

airson fiosrachadh mu chlàran agus phrògraman.

Mae BBC ALBA, y sianel deledu yn yr iaith Gaeleg, yn cael ei rhedeg gan MG ALBA mewn partneriaeth â'r BBC. MG ALBA yw enw gweithredol y Seirbheis nam Meadhanan Gàidhlig, y Gwasanaeth Cyfryngau Gaeleg. Cylch gwaith MG ALBA yw sicrhau bod pobl sy'n byw yn yr Alban yn derbyn ystod ddoeth ac amrywiol o raglenni o ansawdd uchel yn yr iaith Gaeleg. Mae MG ALBA yn gweithredu yn bennaf drwy BBC ALBA, sianel deledu a gwasanaeth aml-gyfrwng Gaeleg sy'n cael ei gweithredu mewn partneriaeth â'r BBC. Mae cytundeb gweithredu rhwng MG ALBA a'r BBC yn amlinellu'r telerau ar gyfer rhedeg BBC ALBA ar y cyd a'r adnoddau y maent yn ei darparu ar gyfer y sianel. Mae'r bartneriaeth yn cael ei goruchwylio gan Fwrdd Rheoli ar y Cyd, a gadeirir gan Brif Weithredwr MG ALBA. Mae mwy o wybodaeth am MG ALBA a'r bartneriaeth ar gael ar wefan www.mgalba.com

neu ewch i www.bbcalba.co.uk

i weld amserlen a gwybodaeth am raglenni.

TG4

Mae TG4 yn ddarlledwr gwasanaeth cyhoeddus cenedlaethol yn yr iaith Wyddeleg, gyda rhaglenni Gwyddeleg ar gael i wylwyr yn Iwerddon ar bob platfform, ac yn fyd eang ar-lein.

Mae rhaglenni'r sianel wedi derbyn cydnabyddiaeth genedlaethol, gwobrau ac anrhydeddau yn Iwerddon a thu hwnt.

Dysgwch mwy am ein rhaglenni a'n amserlen ar ein gwefan www.tg4.ie

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?