S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

Nadolig cynnar ar S4C wrth i bumed bennod Pobol y Cwm ddychwelyd

22 Hydref 2015

Bydd dilynwyr drama nosweithiol S4C yn cael anrheg Nadolig gynnar eleni wrth i Pobol y Cwm ddychwelyd i’r sianel bum diwrnod yr wythnos.

Bydd y rhifyn dydd Mercher yn dychwelyd ar 16 Rhagfyr am 8.00 gan ddechrau ar gyfnod o ddrama heb ei hail pan nad Sïon Corn fydd yr unig un i roi syrpreis neu ddau i gymeriadau'r opera sebon sy'n cael ei chynhyrchu gan BBC Cymru.

Cyhoeddodd S4C ym mis Gorffennaf y byddai'r bumed bennod yn dychwelyd cyn diwedd y flwyddyn wedi i'r ddrama nosweithiol ostwng i bedair pennod yr wythnos ar ddechrau 2015.

Bydd y bumed bennod yn ddechrau ar gyfnod cynhyrfus o straeon gafaelgar a fydd yn gweld ambell gymeriad eiconig yn dychwelyd i Gwmderi ar adeg pen-blwydd yr opera sebon fytholwyrdd yn 41 oed.

Bydd ailddarllediad gydag isdeitlau Saesneg ar y sgrin yn cael ei ddangos y diwrnod canlynol a bydd y gyfres ar gael i'w gwylio ar alw am hyd at 35 diwrnod ar s4c.cymru a hyd at 30 diwrnod ar iPlayer y BBC.

Mae'n amser cyffrous i ddilyn y ddrama gyda nifer o gymeriadau newydd yn ymuno â'r cast gan gynnwys Vicky (Carli De'La Hughes) a Dolores (Lynn Hunter). Yn ogystal, bydd stori fawr Sheryl a Hywel yn dod i ben llanw dros y misoedd nesaf.

Bydd nos Fercher hefyd yn dod yn noson lawn dop o ddrama ar S4C, gyda'r ddrama lys barn Dim ond y Gwir yn parhau bob nos Fercher a'r gyfres ddrama Gwaith/Cartref yn dychwelyd i'r sgrin bob dydd Mercher yn Ionawr 2016.

Dywedodd Cynhyrchydd Cyfres Pobol y Cwm, Llŷr Morus: "Bydd nifer o hen wynebau cyfarwydd yn dychwelyd sy'n siŵr o gynhyrfu'r dyfroedd – neu a ddylwn i ddweud cynhyrfu'r tyrcwn. A bydd nifer o straeon pwerus eraill yn dod i ben dros gyfnod y Nadolig. Mae angen pum noson i'w gwasgu nhw i gyd i mewn."

Meddai Cyfarwyddwr Cynnwys a Darlledu S4C, Dafydd Rhys: "Mae'n amser gwych i bumed bennod Pobol y Cwm ddychwelyd. Bydd yn gwneud amserlen Nadolig S4C hyd yn oed yn fwy blasus."

Dywedodd Siân Gwynedd, Pennaeth Gwasanaethau a Rhaglenni Cymraeg BBC Cymru: "Rydym yn falch y bydd y gwylwyr unwaith eto'n gallu mwynhau'r gyfres ddrama bob nos. Bellach yn ei 41 flwyddyn, mae'n gyfres sydd wedi dal prawf amser ac wedi aros yn boblogaidd oherwydd y gwerthoedd cynhyrchu uchel, straeon gwych a chast cryf."

Diwedd

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?