S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

S4C yn amlinellu amcanion allweddol wrth i’r sianel dargedu arian digonol

06 Tachwedd 2015

Mae S4C wedi gosod allan nifer o feysydd allweddol lle gallai’r sianel wneud cyfraniad pellach i economi a diwylliant Cymru pe byddai’r gwasanaeth yn cael ei ariannu’n ddigonol i’r dyfodol.

Mewn digwyddiad yng Nghaerdydd, cyhoeddodd Prif Weithredwr y Sianel Gymraeg, Ian Jones ei ddymuniad i ffocysu ar dri maes allweddol yn y dyfodol lle mae’n credu gallai gwaith y sianel greu buddiannau pellach.

Amlinellodd Mr Jones ei uchelgeisiau ym meysydd:

• Digidol – gan sicrhau lle’r Gymraeg ar blatfformau digidol newydd y dyfodol er mwyn cynnal perthnasedd yr iaith i genedlaethau newydd.

• Amlygrwydd i Gymru a’r Gymraeg - gan dargedu rhagor o gynlluniau cyd-gynhyrchu a chytundebau partneriaeth gyda chwmnïau rhyngwladol, gan greu ardrawiad economaidd ychwanegol.

• Addysg a sgiliau - gan bartnera gyda sefydliadau addysg er mwyn sicrhau bod cynnwys yn cael ei dargedu’n benodol at ddefnydd o fewn y cwricwlwm cenedlaethol, a sicrhau buddsoddiad mewn sgiliau yn y sector cynhyrchu teledu Cymraeg.

Mi bwysleisiodd Mr Jones ei fod yn gweld y dyheadau hyn, ymysg y mwyaf pellgyrhaeddol y gall y sianel eu targedu os bydd y gwasanaeth yn cael ei ariannu’n ddigonol i’r dyfodol.

Mae’r uchelgeisiau wedi’u cynnwys mewn dogfen S4C: Edrych i'r Dyfodol a gyhoeddwyd ac a fydd yn rhan o gyfraniad S4C i’r drafodaeth am ariannu’r sianel yn ddigonol i’r dyfodol. Ar hyn o bryd mae Llywodraeth y DU yn paratoi ar gyfer Adolygiad Gwariant Cynhwysfawr (CSR) yn ogystal ag yn adolygu ffi’r drwydded sef prif ffynhonnell ariannol S4C bellach.

Lansiwyd y ddogfen mewn cyflwyniad arbennig ym Mae Caerdydd gan Gadeirydd Awdurdod S4C, Huw Jones a Phrif Weithredwr y sianel, Ian Jones.

Meddai Cadeirydd Awdurdod S4C, Huw Jones:

“Wrth i ddulliau gwylio ac ymateb amlhau, rhaid sicrhau fod y Gymraeg, ac S4C, yn gallu gwneud yn fawr o’r cyfleoedd sydd ar gael i ddod â chymunedau at ei gilydd mewn ffyrdd newydd. Rhaid gwneud hynny wrth gynnal safon ac amrywiaeth gwasanaeth teledu dyddiol. Mae gennym weledigaeth ynglŷn â sut mae gwneud hynny, a gyda’n partneriaid creadigol ar draws y wlad, mae gennym y gallu i lwyddo.

“Pan mae dyfodol darlledu cyhoeddus a’r dulliau o’i ariannu’n cael eu trafod yn eang, rhaid hefyd sicrhau fod gofynion darlledu yn yr iaith Gymraeg, yr heriau y mae’n eu hwynebu a’r arian sydd ei angen i’w cyflenwi, yn cael sylw amserol ac annibynnol. Mae S4C yn barod ar bob adeg i gydweithio’n llawn ag unrhyw adolygiad i’r pwrpas hwn ac yn falch o gyflwyno’r ddogfen hon fel sbardun i drafodaeth eang am ddyfodol darlledu Cymraeg.”

Meddai Prif Weithredwr S4C, Ian Jones:

“Ein dymuniad ni yn S4C yw rhoi’r amseroedd anodd o ddelio â thoriadau’r blynyddoedd diwethaf y tu ôl i ni a chanolbwyntio ar ein huchelgeisiau ni ar gyfer y dyfodol - ac ry’n ni’n credu’n gryf bod lle i ni fod yn uchelgeisiol iawn yn nhermau be allwn ni ei gyfrannu dros yr iaith a’r economi yng Nghymru.

“Ry’n ni’n am ddweud wrth y byd - mae dyfodol y cyfryngau yn gyffrous dros ben gyda datblygiadau newydd bob dydd sy’n cael eu gyrru gan dechnoleg. Rhoi llwyfan i’r Gymraeg yw nod S4C - ar y teledu ac ar-lein ac ry’n ni am fachu ar bob cyfle i sicrhau bod ein hiaith ni yn parhau’n berthnasol ar blatfformau digidol. Mae cymaint o gyfleoedd i ni barhau i ddatblygu’n diwydiant cynhyrchu yma yng Nghymru i gofleidio’r newidiadau sy’n digwydd ac i ni droi’r newid yna yn fuddiannau i’r cenedlaethau newydd, drwy addysg a swyddi yn y pen draw.

“Gyda’r cyllid i gynnal ein gwasanaeth mewn modd blaengar, fe fyddwn ni’n gallu cyflawni gymaint, ac mae gennym gymaint o gefnogaeth i gyrraedd y nod.”

Er mwyn darllen yn ddogfen S4C: Edrych i’r Dyfodol, ewch i http://www.s4c.cymru/dyfodol

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?