S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

Athro anturus o Gaernarfon yn ennill cystadleuaeth i weithio fel arweinydd awyr agored

13 Tachwedd 2015

Tomos Gwynedd o Gaernarfon sydd wedi cael ei goroni'n enillydd cyfres antur S4C Ar y Dibyn, gan dderbyn gwobr i weithio fel arweinydd antur am gyfnod o flwyddyn gydag Urdd Gobaith Cymru.

Mae Dirprwy Weinidog Llywodraeth Cymru dros Ddiwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth Ken Skates wedi llongyfarch Tomos, am ennill swydd sy’n ffrwyth partneriaeth gyffrous rhwng S4C, Sony Pictures Television, Cwmni Da, Urdd Gobaith Cymru a Chyngor Chwaraeon Cymru.

Dywedodd Ken Skates AC: "Wrth i ni edrych ymlaen at Flwyddyn Antur 2016, rwyf wrth fy modd bod Ar Y Dibyn wedi dod o hyd i enillydd teilwng a fydd yn hyrwyddo’r hyn sydd gan Gymru i'w gynnig fel cyrchfan antur a bydd hefyd yn ysbrydoli llawer o blant i roi cynnig ar rywbeth newydd a chymryd rhan mewn anturiaethau newydd a fydd yn adeiladu eu hyder a'u hunan-barch."

Ar ôl chwe wythnos o wylio saith cystadleuydd blinedig yn gadael y gystadleuaeth, enillodd Tomos, 24, y gystadleuaeth neithiwr (nos Iau, 12 Tachwedd) wedi iddo guro Hannah Hughes o Gaeathro, sydd hefyd yn 24, yn y rownd derfynol.

Gwelodd Ar y Dibyn wyth o gystadleuwyr beiddgar yn cystadlu am swydd fel arweinydd antur mewn canolfan awyr agored, diwydiant sydd werth dros £400 miliwn i economi Cymru bob blwyddyn.

Cafodd y gyfres ei chynhyrchu gan Cwmni Da yng Nghaernarfon ar y cyd â Sony Pictures Television ac S4C yn dilyn partneriaeth a ffurfiwyd gan S4C gyda'r dosbarthwr rhyngwladol (SPT) gyda'r nod o ddatblygu fformatau i gael eu hyrwyddo a'u gwerthu ar y farchnad ryngwladol.

Roedd Tomos yn athro llanw cyn cychwyn y broses ac er ei fod yn mwynhau ei swydd, ei freuddwyd oedd arwain a dysgu plant yn yr awyr agored.

"Fe wnes i fwynhau cymryd rhan yn y rhaglen yn fawr," meddai Tomos sy’n aelod o dîm pêl-droed Felinheli ac sy’n awyddus i arbenigo mewn dringo a mynydda. "Ac rwy’n teimlo'n lwcus fy mod i wedi cael y cyfle i brofi’r gwahanol weithgareddau.”

Yn ystod y gyfres roedd yr ymgeiswyr wedi gorfod profi eu hunain mewn amrywiaeth eang o weithgareddau awyr agored, o hwylio a chanŵio i ddringo, beicio mynydd a llawer mwy.

Ond nid ffitrwydd yn unig oedd yn hawlio sylw’r beirniaid - yr arweinydd antur Dilwyn Sanderson-Jones a'r cyflwynydd a'r anturiaethwr, Lowri Morgan - gan eu bod hefyd yn chwilio am rywun oedd â'r bersonoliaeth a’r sgiliau arwain i’w gwneud hi fel arweinydd antur.

Mae Tomos wedi dechrau ar ei swydd blwyddyn o hyd fel arweinydd antur yng Ngwersyll yr Urdd Glan-Llyn yn y Bala, profiad mae'n gwneud y gorau ohono.

Meddai Tomos: "Dwi wrth fy modd. Dwi wedi bod ar rai cyrsiau yn barod - canŵio, caiacio a dringo - ac mae ennill y gyfres wedi gwneud i mi sylweddoli mai dyma be dwi eisiau ei wneud yn y tymor hir. Gyda rhagor o gyrsiau i ddod, rwy’n gobeithio y bydd gen i dipyn opsiynau ar ddiwedd y flwyddyn."

Yn ogystal â gweithio gyda'r Urdd a Chyngor Chwaraeon Cymru i gynnig pecyn deniadol i enillydd Ar y Dibyn, fe wnaeth Cwmni Da hefyd gydweithio â Good Charity Challenge i gynnig taith fythgofiadwy i'r enillydd i Fynyddoedd yr Atlas ym Moroco.

Ond er ei fod o wedi ei gwneud hi hyd ddiwedd y gystadleuaeth, doedd pob agwedd ddim yn hawdd yn ôl Tomos.

"Roedden ni’n treulio lot o amser hefo’n gilydd a phan oedd rhywun arall yn colli eu lle, mi oeddech chi'n gallu gweld y siom yn glir ar eu hwynebau nhw. Ond, cystadleuaeth ydi hi ar ddiwedd y dydd a dwi mor hapus mod i wedi ennill!"

Meddai Aled Davies, cynhyrchydd Ar y Dibyn i Cwmni Da: "Roedd Tomos yn enillydd teilwng ar gyfer y gyfres gyntaf erioed o Ar y Dibyn ac rwy'n siŵr y bydd yn llysgennad gwych ar gyfer gweithgareddau awyr agored yng Nghymru.

"Fel cwmni teledu sydd wedi ei leoli yng ngogledd orllewin Cymru, cawsom ein bendithio gydag ystod eang o weithgareddau cyffrous a heriol o fewn awr o'n swyddfa yng Nghaernarfon. Ar ben hynny, cawsom ein difetha gan y dirwedd syfrdanol oedd gennym fel cefndir i'r tasgau wythnosol."

Meddai Elen Rhys, Comisiynydd Cynnwys Adloniant S4C, "Llongyfarchiadau gwresog i Tomos am ennill Ar y Dibyn. Un o fanteision mawr y bartneriaeth gyda Sony yw gwneud y gorau o'r hyn sydd gan ddiwydiannau creadigol i'w gynnig ac i arddangos Cymru ledled y byd - a does dim dwywaith fod Ar y Dibyn wedi llwyddo yn hynny o beth. Pob lwc i Tomos yn y dyfodol ac rydym yn edrych ymlaen at weld y bartneriaeth hon gyda Sony Pictures Television yn mynd o nerth i nerth.”

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?