S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

Pobol y Cwm yn ennill gwobr Mind Media

17 Tachwedd 2015

Mae cyfres ddrama ddyddiol S4C, Pobol y Cwm, wedi dod i’r brig yng ngwobrau Mind Media yn y categori operâu sebon.

Fe enillodd Pobol y Cwm, sy’n gynhyrchiad BBC Cymru Wales, y wobr am bortread yr actor Dyfan Rees o anhwylder ei gymeriad Iolo White.

Yn y sebon, a ddarlledir bedair noson yr wythnos ar S4C am 8.00 gydag ail ddarllediadau y diwrnod canlynol, mae Iolo White ag anhwylder obsesiynol cymhellol (OCD).

Mae Iolo'n datblygu symptomau anhwylder obsesiynol cymhellol, ac mae'n ceisio cuddio hynny oddi wrth ei deulu a'i ffrindiau. Ond wrth i'w gyflwr waethygu, mae mewn perygl o golli ei gartref a'i swydd, ac mae'n rhaid iddo dderbyn bod angen help arno.

Mae Gwobrau Mind Media yn dathlu'r enghreifftiau gorau o ymdrin ag iechyd meddwl a phortreadu

iechyd meddwl ar y cyfryngau print, darlledu a digidol, gan gynnwys rhaglenni dogfen a drama ar y radio a'r teledu, y cyfryngau ar gyfer pobl ifanc, y newyddion ac operâu sebon.

Mae nifer o raglenni S4C wedi cael eu henwebu ar gyfer gwobrau Mind Media yn y gorffennol. Dyma'r ail dro i opera sebon teledu hiraf y BBC ennill y wobr. Yn 2009, enillodd y gyfres y wobr am bortread mam sengl o iselder ar ôl geni.

Meddai Gwawr Martha Lloyd, Comisiynydd Drama yn S4C; “Mae Pobol y Cwm wedi llwyddo i greu stori afaelgar a thynnu sylw at iechyd meddwl mewn ffordd ddidwyll a gonest. Mae’n deyrnged i’r actor Dyfan Rees sy’n chwarae rhan y cymeriad sensitif, hoffus, Iolo White ac yn deyrnged i’r tîm cynhyrchu am y sgript, saernïaeth a gwerthoedd cynhyrchu uchel.”

Dywed Llyr Morus, cynhyrchydd cyfres Pobol y Cwm; “Mae hi’n bwysig i ni fel cyfres ddarlunio profiadau go iawn, profiadau sy’n berthnasol i’n cynulleidfa, a phrofiadau y gall ein cynulleidfa uniaethu â hwy. Mae cael ein cydnabod am hynny ochr yn ochr ac operâu sebon eraill sydd ar y brig ym Mhrydain yn glod i’r gwaith anhygoel mae awduron, actorion ac adrannau golygyddol a chynhyrchu’r gyfres wedi’i gyflawni dros y flwyddyn ddiwethaf.”

Ychwanega Sian Gwynedd, Pennaeth Rhaglenni a Gwasanaethau Cymraeg y BBC; "Mae'n wych gweld cyfres fel Pobol y Cwm yn cael cydnabyddiaeth haeddiannol unwaith eto am adlewyrchu storïau yn ymwneud a phroblemau iechyd meddwl. Mae'n hollbwysig bod cyfresi o'r fath yn delio gyda phynciau a storïau anodd fel hyn sydd yn gyffredin o fewn cymdeithas.”

Mae Pobol y Cwm yn cael ei darlledu bob nos Lun, Mawrth, Iau a Gwener am 8.00pm ar S4C.

Gall gwylwyr ddal i fyny â'r rhaglen ar-lein ar wasanaeth ar alw S4C, s4c.cymru neu ar BBC iPlayer.

Diwedd

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?