S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

Teyrnged i Sian Pari Huws

30 Tachwedd 2015

Mae S4C wedi talu teyrnged i'r newyddiadurwraig Sian Pari Huws, yn dilyn ei marwolaeth ar ddydd Sul 29 Tachwedd.

Bu Comisiynydd Cynnwys Ffeithiol S4C, Llion Iwan, yn gweithio gyda Sian Pari Huws yn adran Newyddion y BBC. Mae'n canmol ei chyfraniad i ddarlledu yng Nghymru, ac yn ei chofio am ei phroffesiynoldeb fel newyddiadurwraig reddfol a chymeriad cynnes;

Meddai Llion Iwan, "Hoffwn estyn fy nghydymdeimlad dwys ar ran S4C i deulu Sian. Roedd presenoldeb tawel gan Sian a oedd yn pefrio proffesiynoldeb, hyder a hygrededd. Roedd safon i bopeth yr oedd yn ei wneud. Ni fyddai fyth yn dangos bod pwysau gwaith arni, sydd yn allweddol wrth ddarlledu yn fyw, ac roedd diddordeb naturiol ganddi yn ogystal â gwybodaeth eang a dwfn am bob math o feysydd. Wrth eich holi, roedd yn medru gwneud ichi ymlacio tra'n g ofyn cwestiynau treiddgar, gwybodus. Gwnaeth Sian gyfraniad mawr i ddarlledu yng Nghymru."

Yn ogystal â'i gwaith yn adran newyddion BBC Cymru, ac fel un o leisiau cyfarwydd Radio Cymru a Radio Wales, fe fu Sian hefyd yn gweithio llawer gyda'r sector gynhyrchu annibynnol ar gyfer teledu, ac yn 2006 cyflwynodd gyfres ar S4C oedd yn archwilio hanes morwrol Cymru, Hanes Cymru a'r Môr.

Diwedd

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?