S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

S4C yn lansio cyfres PUMP ar-lein

07 Ebrill 2016

Mae S4C wedi lansio cyfres o gynnwys ar-lein, PUMP. Bydd casgliad o eitemau gwahanol yn cael eu rhyddhau yn fisol ar y sianel YouTube PUMP, byddent yn cael eu rhannu ar wefannau cymdeithasol hefyd.

Bwriad yr eitemau byr yw bod S4C yn ymgysylltu gyda phobl ifanc rhwng 16-35 oed. Carfan sy'n llai tebygol i ymwneud â chynnwys ar lwyfannau traddodiadol teledu unionlun (linear TV) yn ôl ystadegau.

Mae’r eitemau yn cynnwys comedi, cyfresi teithio ac adolygiadau teledu a ffilm.

Mae’r deunydd yn cynnwys 5 Elena lle bydd y newyddiadurwraig y Guardian Elena Cresci yn ein tywys ni drwy ei phigion personol. Bydd hi'n ein cyflwyno ni i'w dewisiadau o ddigwyddiadau mwya' doniol a diddorol y we. Bydd y diddanwr, Huw Bryant o Landysul yn rhoi ei sylwadau unigryw ar y cyfryngau Cymreig yn Bocs Bry.

Gan ddefnyddio camera 360 bydd 5 o banelwyr yn cwrdd yn fisol er mwyn trin a thrafod pynciau llosg. Yn fisol bydd Adam Gilder o Bontypridd, sy'n flogiwr â sianel YouTube, yn creu rhestr arbennig bob mis o'r pynciau sydd wedi mynd a'i fryd. 24 Awr Yn yw cyfle i gael ein tywys o amgylch rhai o ddinasoedd mwyaf cyffrous Ewrop gyda’r flogiwr a'r cynhyrchydd Cai Morgan o Bontypridd.

Meddai Huw Marshall, Pennaeth Datblygu Digidol S4C, "Ein bwriad yw ymgysylltu efo cynulleidfa iau yn y Gymraeg, rhai sydd efallai ddim yn ymwneud a chynnwys ar lwyfannau traddodiadol. Mae’r gyfres hon yn benodol ar YouTube ac mi rydym ni’n edrych ymlaen at weld sut ymateb cawn ni."

Mae PUMP wedi’i gomisiynu am 3 mis i gychwyn.

Pump ffaith am PUMP:

1. Mae pob rhaglen yn bum munud o hyd.

2. Mae 'na bum gwahanol fath o raglenni.

3. Mae gan Elena Cresci 6,944 o ddilynwyr ar Twitter ond mae ei vines hi wedi’i gwylio 38.8 mil o weithiau.

4. Bydd Bry yn rhoi ei farn unigryw ar y Cyfryngau Cymreig bob mis.

5. Mae PUMP yn defnyddio camera 360 lle mae modd i chi ddewis yr hyn da chi’n gwylio.

Diwedd

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?