S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

Dilyn doctoriaid y dyfodol ar gyfres deledu

29 Gorffennaf 2016

 Bydd cyfres deledu yn edrych ar sut mae Ysgol Meddygaeth flaenllaw o Gymru yn paratoi cenhedlaeth newydd o feddygon ar gyfer gofynion anferth y Gwasanaeth Iechyd.

Mae'r gyfres Doctoriaid Yfory yn cael ei lansio heddiw (dydd Llun, 1 Awst 1.00pm) ym Mhafiliwn S4C ar faes yr Eisteddfod Genedlaethol yn Y Fenni.

Mae'r rhaglen ddogfen, fydd yn cael ei darlledu ar S4C o nos Fawrth, 13 Medi, yn dilyn 15 o fyfyrwyr meddygol yn Yr Ysgol Meddygaeth, Prifysgol Caerdydd.

Yn amrywio rhwng 18 a 23 mlwydd oed, mae'r myfyrwyr Cymraeg eu hiaith yma yn dod o wahanol gefndiroedd ac ardaloedd o Gymru, ond mae eu hymroddiad at feddygaeth yn eu huno.

Mae camerâu cwmni cynhyrchu blaengar Green Bay Media wedi bod yn dilyn y myfyrwyr am 12 mis mewn ysbytai a meddygfeydd teulu ledled Cymru.

Mae'r gyfres saith-rhan, a ffilmiwyd mewn partneriaeth ag Ysgol Meddygaeth Prifysgol Caerdydd, wedi cael ei ffilmio mewn theatrau llawdriniaeth, meddygfeydd, wardiau ysbytai a'r cyfleusterau hyfforddi clinigol o’r radd flaenaf ar Gampws Ysbyty’r Brifysgol.

Roedd cydweithrediad parod staff y Gwasanaeth Iechyd Gwladol yn allweddol er mwyn cael ffilmio’r myfyrwyr, cleifion a’r staff a dilyn eu datblygiad fel meddygon ymroddedig a galluog.

Dywedodd cynhyrchydd y gyfres Llinos Griffin-Williams o Green Bay Media: "Mae'r gyfres yn bwrw golwg unigryw y tu ôl i'r llenni ar ysgol feddygol arloesol sy’n helpu i ddatblygu myfyrwyr ifanc dibrofiad yn feddygon, llawfeddygon ac ymgynghorwyr y dyfodol.

"O ddiogelwch yr ystafell ddosbarth, i realiti caled yr Uned Ddamweiniau ac Argyfwng, rydym yn edrych ar yr heriau emosiynol, meddyliol a chorfforol sy'n wynebu’r myfyrwyr hyn, wrth iddyn nhw baratoi ar gyfer rhai o swyddi mwyaf heriol ein gwlad.

"Yn bortread grymus ac emosiynol ar brydiau, mae’r gyfres yn edrych ar y realiti o baratoi ar gyfer proffesiwn unigryw a hynny trwy ddilyn y fyddin o diwtoriaid, meddygon a nyrsys sy’n llunio’r genhedlaeth nesaf o feddygon. Mae cynhyrchu’r gyfres wedi bod yn brofiad gostyngedig ac ysbrydoledig iawn.

"Mae ein taith yn mynd â ni ar hyd a lled Cymru ac mor bell â Seland Newydd a Thonga, ond bydd y daith bersonol ac emosiynol yn mynd â ni i gyd ar siwrnai hwy fyth."

Mae’r Ysgol Meddygaeth yn darparu profiadau clinigol ar hyd a lled Cymru gyfan ac mae hynny’n golygu bod y myfyrwyr yn dod yn gyfarwydd â darpariaeth gofal iechyd amrywiol iawn yng Nghymru a gwahanol anghenion ein cymunedau. Gan fod y profiad dysgu mor eang, mae 55% o’r myfyrwyr wedi dewis aros yng Nghymru eleni i ymgymryd â’u swyddi Sylfaen cyntaf.

Mae'r myfyrwyr yn dysgu am feddygaeth mewn pob math o gymunedau yng Nghymru; ond mae'r pwyslais bob amser yn bennaf ar ofal y cleifion.

Meddai Dr Awen Iorwerth, o Ysgol Meddygaeth Prifysgol Caerdydd: "Mae lles y claf yn ganolog i’r holl brofiad o ddysgu yma yng Nghaerdydd, ac felly y dylai fod drwy gydol gyrfaoedd y meddygon. Ein nod yw trawsnewid pobl ifanc sy'n gwneud yn dda mewn arholiadau yn feddygon ifanc, ymroddedig, cydymdeimladol a hapus. Mae Cymru yn ficrocosm o lawer o gymdeithasau ac mae ein gwlad ni’n ystafell ddosbarth wych ar gyfer addysgu ein myfyrwyr am bob agwedd ar feddygaeth a hefyd yn rhoi blas iddyn nhw ar y gwahanol ffyrdd o fyw y mae’r gwaith yn ei gynnig iddyn nhw."

Mae Ysgol Meddygaeth Prifysgol Caerdydd wedi torri tir newydd mewn gwahanol agweddau o waith meddygol, ac un agwedd ar y gwaith hwn yw defnyddio mwy nag un iaith ar gyrsiau hyfforddi. Gan weithio ar y cyd â'r Coleg Cymraeg Cenedlaethol, mae’r Ysgol yn paratoi myfyrwyr i weithio drwy gyfrwng y Gymraeg.

Ychwanegodd Llinos Griffin-Williams, "Bydd nifer o'r myfyrwyr yn dewis gweithio mewn ardaloedd gwledig yng Nghymru, gan ddychwelyd i'r cymunedau lle cawson nhw eu magu. Mae'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol yng Nghymru wedi rhoi pwyslais mawr ar baratoi meddygon a nyrsys ar gyfer gweithio mewn ardaloedd lle mae canran sylweddol o'r boblogaeth yn siarad Cymraeg. Mae Ysgol Meddygaeth Prifysgol Caerdydd, trwy gydweithio gyda’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol, wedi arloesi wrth baratoi myfyrwyr meddygol ar gyfer gweithio mewn cymdeithas ddwyieithog. "

Bydd rhagor o wybodaeth am y gyfres, ynghyd â phortreadau o’r myfyrwyr i’w cael yn nes at ddyddiad darlledu ym mis Medi. Cysylltwch ag Adran Gyfathrebu ac Ymwneud S4C am fanylion.

 

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?