S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

Miliwn Mewn Mis i S4C

26 Medi 2016

Mae cynnwys fideo S4C sydd ar gael ar wefannau cymdeithasol wedi eu gwylio dros filiwn o weithiau mewn mis am y tro cyntaf, ym mis Medi 2016.

Ers sefydlu ffordd newydd o weithio gyda chyfryngau cymdeithasol S4C ym mis Hydref 2015 mae'r niferoedd gwylio fideo ar Twitter, Facebook ac YouTube wedi bod yn raddol gynyddu.

Ar ôl cyrraedd dros 737,200 ym mis Awst, mae'r nifer o weithiau mae fideos S4C wedi cael ei gwylio ym mis Medi wedi dringo y tu hwnt i filiwn heddiw, ar ddydd Llun 26 Medi, 2016. Mae'r ffigwr bellach dros 1,004,289.

Dywedodd Gwyn Williams, Cyfarwyddwr Cyfathrebu S4C; "Mae'r cynnydd rhyfeddol yma yn dangos ein bod ni'n gosod cynnwys mae pobl isio'i wylio ar y llwyfannau yma, a hefyd ein bod yn llwyddo i ddenu pobl at y deunydd.

"Dros y misoedd diwethaf rydym wedi cael ambell eitem sydd wedi profi'n boblogaidd ond yr un sydd wedi torri pob record ydi'r fideo o dîm pêl-droed Cymru yn diolch i'r genedl ar ôl pencampwriaethau UEFA Euro 2016 yr haf diwethaf, sydd wedi ei wylio dros 180,000 o weithiau."

Diwedd

Nodiadau:

Mae S4C yn gofalu am nifer o lwyfannau cyfryngau cymdeithasol – mae'r ffigyrau uchod yn cynnwys gwylio cynnwys sydd ar y prif gyfrifon Facebook, Twitter @S4C ac YouTube.

Mae Facebook yn gyfrifol am dros 90% o'r gwylio.

Nid yw'r ffigyrau yn cynnwys Twitter @S4Cchwaraeon, cyfrifon Snapchat @S4C a @Stwnsh, Instagram S4Cymru, Facebook S4C Chwaraeon na sianel Pump.

Mae'r meddalwedd rheoli Grabyo yn dangos 5.5 miliwn "Impressions" - dyma'r nifer o weithiau mae'r cynnwys wedi ymddangos ar linellau amser pobl yn ystod mis Medi. Mae yna "17% Conversion rate" sef y nifer o weithiau mae pobl wedi clicio ar gynnwys fideo S4C er mwyn gallu eu gwylio - 13% yw'r cyfartaledd ar gyfer y diwydiant. Ac mae'r 1 miliwn yn dangos y nifer o weithiau mae cynnwys wedi ei wylio am 3 eiliad neu'n hwy.

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?