S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

Cyhoeddi Prif Weithredwr newydd S4C

15 Mai 2017

Cyhoeddi Prif Weithredwr newydd S4C

Mae S4C yn falch o gyhoeddi fod Owen Evans wedi ei benodi yn Brif Weithredwr S4C i olynu Ian Jones.

Mae Owen Evans yn Ddirprwy Ysgrifennydd Parhaol Llywodraeth Cymru, gyda chyfrifoldeb am Addysg a Gwasanaethau Cyhoeddus. Yn ei swydd bresennol mae’n gyfrifol am gyllideb o £6.6 biliwn ac am arwain 1200 o staff. Ymunodd â’r gwasanaeth sifil yn 2010 fel Cyfarwyddwr Addysg Uwch, Sgiliau a Dysgu Gydol Oes i’r Llywodraeth gan dderbyn cyfrifoldebau ychwanegol yn 2012 ac eto yn 2015.

Rhwng 2008 a 2010 roedd yn Gyfarwyddwr elusen Busnes yn y Gymuned yng Nghymru lle tyfodd yr aelodaeth, yn ystod ei gyfnod yno, i gynrychioli dros 20% o’r gweithlu yng Nghymru. Am 10 mlynedd cyn hynny, bu’n gweithio i BT gan gynnwys cyfnod fel aelod o dîm Prydeinig BT ar ddatblygu eu strategaeth band-eang.

Fe’i haddysgwyd yn Ysgol Penweddig, Aberystwyth cyn graddio mewn economeg ym Mhrifysgol Abertawe. Bu’n aelod o Fwrdd yr Iaith Gymraeg rhwng 2005 a 2010. Ar hyn o bryd mae’n aelod o fwrdd ymgynghorol elusen Marie Curie yng Nghymru.

Dywedodd Huw Jones, Cadeirydd Awdurdod S4C:

“Rydym yn ffodus iawn i fedru penodi arweinydd i S4C ar gyfer y blynyddoedd nesaf sydd wedi profi ei allu mewn cymaint o feysydd. Mae Owen wedi dangos fwy nag unwaith yn ei yrfa'r ddawn i addasu a derbyn cyfrifoldebau mawr a newydd, gan gynnwys ym meysydd cyfathrebu technegol a’r iaith Gymraeg. Mae’n arweinydd uchel ei barch gyda phrofiad arbennig o adeiladu partneriaethau. Gyda’r unigolion talentog sydd eisoes yn gweithio i S4C, gallwn edrych ymlaen i’r dyfodol yn hyderus”.

Bydd Owen Evans yn cymryd drosodd fel Prif Weithredwr ar 1 Hydref 2017.

DIWEDD

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?