S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

Ymrwymiad S4C i Gaernarfon

Mae S4C wedi cyhoeddi ymrwymiad i ogledd Cymru drwy sicrhau estyniad o 10 mlynedd i les eu swyddfa yng Nghaernarfon.

Mae hyn yn dilyn les gwreiddiol gafodd ei arwyddo yn 2007 a bydd yn cadarnhau lle'r sianel yn y dref – gyda'r sianel wedi bod yno ers dechrau'r 1980au.

Dywedodd Prif Weithredwr S4C, Owen Evans: "Ar amser o newid mawr yn S4C, ac wrth i ni symud ein prif swyddfa i Gaerfyrddin mae'n bwysig fod S4C yn gallu dangos ei hymrwymiad i Gymru gyfan. Yn ychwanegol at leoliadau'r dyfodol yng Nghaerfyrddin a Sgwâr Canolog Caerdydd, rwy'n falch bod ni wedi gallu gwarantu ein presenoldeb yng ngogledd Cymru am ddeng mlynedd arall. Mae 12 o staff llawn amser yn gweithio yn y swyddfa ac mae nifer o staff eraill yn ei ddefnyddio'n rheolaidd i gwrdd â chynhyrchwyr annibynnol lleol. Mae gennym berthynas hanesyddol gyda Chaernarfon, mae'r cytundeb yma'n sicrhau hynny ar gyfer y dyfodol.

Ar ran y perchennog, WJ Developments (Gwynedd) Limited, dywedodd y Cyfarwyddwr Eiddo Siôr Hayward:"Heb os mae ein datblygiad yn Noc Victoria wedi chwarae rhan sylweddol yn adfywiad Caernarfon ac rydym wrth ein bodd bod S4C wedi ymrwymo i'w dyfodol yn Noc Victoria ac yng Nghaernarfon. Mae'r datblygiad wedi gweld twf positif yn ddiweddar gan gynnwys nifer o denantiaid newydd gan ddangos fod o'n un o'r prif safleoedd ar gyfer swyddfeydd yng ngogledd orllewin Cymru."

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?