S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

Gwahoddiad i Noson Gwylwyr S4C yn ei phencadlys newydd yng Nghaerfyrddin

Mae S4C yn gwahodd pobl Sir Gâr i Noson Gwylwyr hanesyddol yn ei phencadlys newydd yng Nghaerfyrddin nos Fercher, 26 Medi.

I lawer o wylwyr, dyma fydd y cyfle cyntaf i weld pencadlys S4C Yr Egin yng nghampws Coleg Prifysgol y Drindod Dewi Sant, Caerfyrddin; canolfan gyfryngau gyffrous a agorodd ddechrau'r mis.

Bydd Cadeirydd Awdurdod S4C Huw Jones a Phrif Weithredwr S4C Owen Evans yno ym mhencadlys newydd S4C am 7.00pm i drafod rhaglenni a gwasanaethau'r sianel gyda gwylwyr. Bydd rhai o aelodau staff newydd, lleol y sianel deledu yno i'ch croesawu hefyd.

Dywedodd Cadeirydd Awdurdod S4C, Huw Jones, "Rydym bob amser yn mwynhau'r cyfle i gwrdd â gwylwyr wyneb yn wyneb i drafod eich awgrymiadau, sylwadau a phryderon. Bydd y Noson Gwylwyr hon yn un hanesyddol gan y bydd yn fodd hefyd i agor y drysau i'n cartref newydd.

"Rydym yn hyderus y bydd Canolfan S4C Yr Egin yn datblygu'n rhan ganolog o'r gymuned leol, yn hwb arwyddocaol i'r cyfryngau creadigol yn yr ardal ac yn sgil hynny, yr iaith a diwylliant Cymru."

Mae croeso i bawb yn Noson Gwylwyr S4C a gallwch holi cwestiynau am bynciau mor amrywiol â rhaglenni Cyw a Stwnsh a chyfresi drama, gwasanaethau dysgwyr ac isdeitlo, chwaraeon byw a stwff Hansh a rhaglenni at ddiddordeb lleol.

Cafodd un o brif lwyddiannau'r sianel yn ystod y flwyddyn ddiwethaf ei ffilmio ar leoliad yn nhref Talacharn, Sir Gaerfyrddin a'r ardal o'i chwmpas.

Mae Un Bore Mercher/Keeping Faith, cynhyrchiad Vox Pictures ar gyfer S4C a BBC Cymru, gydag Eve Myles yn y brif ran, wedi profi'n hynod boblogaidd ar deledu rhwydwaith a gwasanaeth ar alw S4C Clic a BBC iPlayer. Mae ail gyfres wrthi'n cael ei datblygu ar hyn o bryd.

Dywedodd Prif Weithredwr S4C, Owen Evans, "Mae'r gyfres ddrama hon yn dangos y potensial enfawr sydd gan yr ardal hon, gan fod yma lond gwlad o leoliadau trawiadol a chyfoeth o ddoniau creadigol ar y sgrin a thu ôl i'r camerâu.

"Y gobaith yw y bydd cynyrchiadau teledu a ffilm yng ngorllewin Cymru yn ffynnu hyd yn oed yn fwy nawr bod canolfan S4C Yr Egin wedi agor."

Bydd lluniaeth ysgafn ar gael, a bydd offer cyfieithu ar gael ar gyfer y rhai fydd eu hangen. Gallwch gyfrannu at y drafodaeth yn y Gymraeg a'r Saesneg.

Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â Gwifren Gwylwyr S4C ar 0370 6004141 neu ar e-bost gwifren@s4c.cymru.

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?