S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

Noson lwyddiannus i S4C yng ngwobrau BAFTA Cymru

14 Hydref 2018

Bu'n noson lwyddiannus i S4C yng ngwobrau BAFTA Cymru heno gyda naw o wobrau yn cael eu hennill.

Ymhlith y gwobrau mae tair gwobr i Un Bore Mercher/ Keeping Faith (Vox Pictures). Cipiodd Eve Myles wobr yr Actores Orau, enillodd Mathew Hall wobr yr Awdur Gorau ac fe enillodd Amy Wadge a Laurence Love Greed y wobr am Gerddoriaeth Wreiddiol.

Llwyddodd drama Bang (Joio) i ennill dwy wobr sef categori Y Ddrama Deledu a'r wobr Golygu i Dafydd Hunt.

Rhaglen bry ar y wal Y Salon (Boom Cymru) enillodd gategori y Rhaglen Adloniant a Boom Cymru hefyd oedd yn gyfrifol am Cic sef rhaglen chwaraeon a enillodd wobr y Rhaglen Blant.

Yn ogystal llwyddodd John Markham i ennill y wobr Sain gyda rhaglen Band Cymru (Rondo Media) ac fe gipiodd Stuart Biddlecombe y categori Ffotograffiaeth a Goleuo gyda drama Craith (Severn Screen).

Meddai Amanda Rees, Comisiynydd Cynnwys S4C: "Ry'n ni wrth ein bodd i ennill naw gwobr BAFTA Cymru. Eleni eto mae llwyddiannau S4C yn dyst i ymroddiad a chreadigrwydd y sector. Mae amryw o unigolion a chwmnïau cynhyrchu talentog yn creu cynnwys o'r safon uchaf all gydio yn nychymyg y gwylwyr. Llongyfarchiadau mawr i'r enwebwyr a'r enillwyr i gyd."

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?