S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

Noson Gwylwyr S4C i'w chynnal yn Llandudno

19 Hydref 2018

Yn ddiweddar, fe wnaeth S4C ddarlledu rownd derfynol Dewis Cymru Junior Eurovision yn Venue Cymru yn Llandudno, noson a ddenodd dyrfa frwd i achlysur yn llawn perfformiadau gwych a chyffro'r bleidlais fyw.

Yr wythnos nesaf, mae'r darlledwr yn cynnal noson a ddylai fod ychydig yn dawelach, ond yr un mor ddiddorol, yn Venue Cymru pan fydd Prif Weithredwr y sianel Owen Evans a Chadeirydd yr Awdurdod Huw Jones, ynghyd ag aelodau eraill o'r Awdurdod a'r staff, yn edrych ymlaen at drafodaeth agored, ddifyr am S4C, ei rhaglenni a'i gwasanaethau.

Bydd gan bobl Llandudno a'r ardal ddigon o gyfle i roi eu barn am S4C yn y Noson Gwylwyr i'w chynnal yn Ystafell Dewi Sant yn Venue Cymru nos Fercher, 24 Hydref, am 7.00pm.

Mae croeso cynnes i wylwyr drafod pob dim o ddrama i adloniant, y gwasanaethau digidol i raglenni plant, o chwaraeon i raglenni ffeithiol, ac o HANSH i'r ddarpariaeth i ddysgwyr. Bydd lluniaeth ysgafn ar gael, a gwasanaeth cyfieithu Saesneg ac offer dolen ar gael i'r rhai sydd eu hangen.

Meddai Cadeirydd Awdurdod S4C, Huw Jones, "Mae Nosweithiau Gwylwyr S4C yn bwysig oherwydd maen nhw'n gyfle inni gwrdd â gwylwyr yn eu cymunedau. Mae modd inni glywed pa fath o raglenni y mae gwylwyr yn eu mwynhau a beth hoffent weld mwy ohono ar y sianel yn y dyfodol."

Mae rhai o gyfresi newydd S4C fel y rhaglen her ffitrwydd, Ffit Cymru a'r gyfres hanes gyffrous, Cynefin, wedi cael derbyniad da, ond pa gyfresi newydd eraill yr hoffech eu gweld ar y sianel? Ffilmiwyd y ddrama Craith yn lleol yng Ngogledd Cymru, ond pa gyfresi drama eraill ar S4C yr ydych chi'n eu mwynhau?

Mae'r Eisteddfod Genedlaethol yn dod i'r dre' gyfagos Llanrwst y flwyddyn nesaf, ond beth yw eich barn am y rhaglenni o'r ŵyl? Mae clwb pêl-droed Llandudno ar S4C yn bur aml ar Sgorio, ond beth yw eich barn chi am ein gwasanaethau chwaraeon?

Dywedodd Prif Weithredwr S4C, Owen Evans, "Mae'r sianel wedi cyhoeddi yn ddiweddar y bydd yn buddsoddi £3 miliwn ychwanegol yn ein gwasanaethau digidol, fel y gallwn ddarparu gwasanaeth data a phersonoli wedi'i deilwra ar gyfer gwylwyr unigol. Hoffem glywed barn pobl am ein gwasanaethau digidol, yn ogystal â'r gwasanaeth teledu craidd.

"Mae ein gwasanaeth ffurf fer ar-lein HANSH, sy'n targedu'r grŵp oedran 16-34 yn bennaf, wedi denu llawer o wylwyr, gan gofnodi 4.9 miliwn o sesiynau gwylio yn ei gyfnod 12 mis cyntaf, ond hoffem glywed sut y gallwn ni wella gwasanaethau ar-lein i bob grŵp oedran. Edrychwn ymlaen at eich cyfarfod chi yn Venue Cymru."

Os hoffech gael rhagor o wybodaeth am Noson Gwylwyr S4C, cysylltwch â llinell Gwifren Gwylwyr S4C ar 0800 6004141 neu e-bostiwch gwifren@s4c.cymru

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?