S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

Cefnogaeth gryf - Isuzu yn noddi Gemau’r Hydref tîm rygbi Cymru ar S4C

31 Hydref 2018

Mae S4C wedi denu cefnogaeth noddwr crysau tîm rygbi Cymru, Isuzu, ar gyfer Cyfres Ryngwladol Under Armour yr Hydref eleni.

Bydd y cwmni ceir o Siapan - sydd yn cael eu hadnabod fel y pick-up professionals ac yn sy'n gwneud Isuzu D-Max - yn noddi rhaglenni Clwb Rygbi Rhyngwladol, wrth iddyn nhw ddangos gemau Cymru yn fyw yn ystod mis Tachwedd.

Mae Cymru yn chwarae yn erbyn Yr Alban yn y Stadiwm Principality ar ddydd Sadwrn 3 Tachwedd (2.45), wrth i'r ddwy genedl gystadlu am gwpan Doddie Weir am y tro gyntaf.

Wythnos yn ddiweddarach ar ddydd Sadwrn 10 Tachwedd (5.20), Awstralia bydd y gwrthwynebwyr, cyn i Tonga herio'r Cymry'r wythnos wedyn, ar brynhawn Sadwrn 17 Tachwedd (2.30).

Yna, bydd tîm Warren Gatland yn dod a'u hymgyrch yr Hydref i ben yn erbyn De Affrica ar ddydd Sadwrn 24 Tachwedd (5.20).

Bydd Clwb Rygbi Rhyngwladol yn darlledu'r pedair gêm yn fyw ar S4C. Gareth Rhys Owen fydd yn cyflwyno'r rhaglenni, gyda Gareth Charles a Gwyn Jones yn y blwch sylwebu, a Catrin Heledd yn sylwebu ar yr ystlys.

Dywedodd George Wallis, Rheolwr Cyfathrebu Marchnata Isuzu: "Galluog, caled a gweithgar. Mae'r nodweddion yma'n wir am rygbi Cymru yn ogystal â'r Isuzu D-Max.

"Dyma'r ail flwyddyn mae Isuzu wedi noddi darllediadau byw Gemau'r Hydref ar S4C. Mae hwn yn gytundeb sy'n ymestyn ein perthynas gyda'r nifer o gefnogwyr Cymru sydd yn mwynhau'r gemau yn yr iaith Gymraeg."

Dywedodd David Bryant, Pennaeth Datblygu Masnachol S4C: "Rydym yn hapus i gynnal partneriaeth gydag Isuzu unwaith eto ac rydym yn gwerthfawrogi eu cefnogaeth ar gyfer y gyfres bwysig yma, wrth i'r tîm cenedlaethol adeiladu am Gwpan y Byd blwyddyn nesaf."

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?