S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

S4C yn ennill gwobr BAFTA plant

Mae cyfres antur ddychrynllyd i bobl ifanc, Prosiect Z, wedi ennill gwobr BAFTA Plant 2018.

Cynhaliwyd seremoni BAFTA, sydd yn gwobrwyo'r rheiny sy'n flaengar ym maes cyfryngau plant ym Mhrydain, yn Llundain neithiwr nos Sul 25 Tachwedd.

Roedd cyfres gêm Prosiect Z, sy'n gynhyrchiad gan Boom Cymru, wedi cael ei enwebu yn y categori Adloniant. Mae'r rhaglen yn dilyn grwpiau o blant ysgol wrth iddyn nhw gwblhau tasgau er mwyn dianc o'u hysgolion heb ddenu sylw'r 'Zeds'; sef sombis sydd wedi eu heintio gan firws sy'n peryglu'r byd!

Dywedodd Sioned Wyn Roberts, Comisiynydd Cynnwys Plant S4C: "Rydym ni wrth ein bodd fod Prosiect Z wedi ennill gwobr BAFTA plant. Mae'r tîm cynhyrchu wedi creu fformat hollol wreiddiol a beiddgar sy'n torri tir newydd ac mae'r wobr yma'n cydnabod eu creadigrwydd a'u gwaith caled. Llongyfarchiadau mawr i'r criw."

Cafodd Prosiect Z hefyd ei henwebu ar gyfer gwobr Prix Jeunesse International yn gynharach eleni gan gael ei dewis ar y rhestr fer o blith dros 400 o gynigion gan ddarlledwyr ar draws y byd.

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?