S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

50,000 o ddilynwyr Facebook gan S4C

Mae S4C wedi cyhoeddi cystadleuaeth arbennig i ddathlu cyrraedd 50,000 o ddilynwyr ar Facebook. S4C sy'n rhedeg y cyfrif Cymraeg mwyaf gyda'r nifer uchaf o ddilynwyr.

Mae 50 o wobrau arbennig i'w hennill. Mae'r gwobrau yn cynnwys teledu, tabledau electronig tocynnau rygbi, talebau, hamperi, dvd's a nifer mwy.

Bydd angen i ymgeiswyr ateb cwestiwn yn ymwneud â Pobol y Cwm ar dudalen Facebook S4C. Bydd y gystadleuaeth yn cau ddydd Gwener 7 Rhagfyr am 12.00

Mae S4C wedi buddsoddi yn helaeth yn ei adran ddigidol yn ddiweddar gan benodi Pennaeth Strategol Digidol a Dadansoddi i arwain tîm o staff i weithio yn benodol ar gyfryngau cymdeithasol ac arlwy ddigidol y sianel.

I ymgeisio ewch i https://www.facebook.com/S4C/

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?