S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

Ailbenodi Aelod Bwrdd S4C

Mae'r Ysgrifennydd Gwladol wedi ailbenodi Hugh Hesketh Evans fel Aelod Bwrdd S4C am gyfnod o 2 flynedd yn cychwyn 20 Tachwedd 2018.

Mae Hugh yn Arweinydd ar Gyngor Sir Ddinbych ers 2007, ac yn gynghorydd Sir dros Llanfair Dyffryn Clwyd a Gwyddelwern ers mis Mehefin 2004.

Mae wedi bod yn Gynghorydd Cymuned ers 1990 ac ar y funud yn rhedeg ei fusnes ffermio. Mae hefyd yn aelod o Undeb Cenedlaethol yr Amaethwyr (NFU).

Mae'n aelod a chyn Gadeirydd Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru, aelod a chyn Gadeirydd Bwrdd Arweinyddiaeth Ranbarthol Gogledd Cymru a chyn Gadeirydd Bwrdd Cydweithredu Sir Conwy a Dinbych.

Dyfarnwyd gwobr Gwleidydd Llywodraeth Leol y flwyddyn iddo yn 2010 yng ngwobrau y Wales Yearbook Awards, ac yn 2012 dyfarnwyd iddo OBE am ei wasanaethau i Lywodraeth Leol yn rhestr Anrhydeddau'r Frenhines.

Mae'r penodiad hyn wedi ei wneud yn unol â Chod Llywodraethu Penodiadau Cyhoeddus Swyddfa'r Cabinet. Mae'r broses penodi yn cael ei rheoli gan y Comisiynydd Penodiadau Cyhoeddus.

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?