S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

Yn Rhannu’r Angerdd: Gwasanaeth chwaraeon diguro S4C

17 Mawrth 2019

Mae 2019 eisoes yn llawn atgofion gwych o'r meysydd chwarae a bydd gwasanaeth S4C yn ystod gweddill y flwyddyn yn rhoi'r sylw gorau posib i athletwyr o Gymru sy'n cystadlu ar lwyfan y byd.

Ar ôl ennill y Gamp Lawn ym Mhencampwriaeth Guinness y Chwe Gwlad eleni, bydd sylw Warren Gatland yn troi at Japan a Chwpan Rygbi'r Byd, sy'n dechrau ym mis Medi.

Bydd S4C yn darlledu pob un o gemau Cymru yn fyw yn ystod y gystadleuaeth, ynghyd a dangos yr uchafbwyntiau. Bydd y sianel hefyd yn darlledu un gêm o blith gemau'r wyth olaf a'r rowndiau cynderfynol a'r rownd derfynol ddydd Sadwrn 2 Tachwedd. Bydd gwasanaeth S4C hefyd yn cynnwys darllediad byw o'r gêm agoriadol rhwng Japan a Rwsia ddydd Gwener 20 Medi.

Ym mis Mehefin mae tîm Dan 20 Cymru yn teithio i'r Ariannin ar gyfer Pencampwriaeth Rygbi Dan 20 y Byd 2019. Bydd pob un o'u pum gêm yn fyw ar S4C.

Mae eleni hefyd yn flwyddyn holl bwysig i Ryan Giggs a thîm pêl-droed Cymru. Mae'r ras i gyrraedd Pencampwriaeth Ewro 2020 UEFA yn dechrau'r mis hwn, gydag wyth gêm ragbrofol yn cael eu cynnal cyn diwedd y flwyddyn.

Ar ôl gêm gyfeillgar yn erbyn Trinidad a Tobago, a fydd yn cael ei chwarae yn Wrecsam ddydd Mercher 20 Mawrth, bydd yr ymgyrch ragbrofol yn dechrau yn Stadiwm Dinas Caerdydd ddydd Sul 24 Mawrth, yn erbyn Slofacia. Bydd darllediad byw o bob un o gemau Cymru ar sioe bêl-droed S4C, Sgorio, a hynny'n rhad ac am ddim.

Ym mis Gorffennaf mae Geraint Thomas yn amddiffyn ei goron Tour de France. Gyda'r ras yn dathlu canmlwyddiant y crys melyn, bydd mwy o bwyslais fyth ar y cymalau mynydd eleni gyda'r trefnwyr yn ei ddisgrifio fel y 'Tour uchaf yn ei hanes'.

Ar ôl y Grand Depart, a gynhelir ym Mrwsel ddydd Sadwrn 6 Gorffennaf, bydd ras eleni yn mynd â'r peloton ar lwybr 3,460 cilomedr cyn y cymal olaf ym Mharis ddydd Sul 28 Gorffennaf. Bydd tîm rhaglen Seiclo S4C yn darparu darllediadau byw, uchafbwyntiau a dadansoddiad arbenigol o bob cymal o'r ras.

Bydd uchafbwyntiau o'r Clasuron hefyd yn ystod y tymor, gyda Seiclo yn darlledu chwech o rasys enwocaf y calendr beicio, gan gynnwys Paris-Nice, Paris-Roubaix a'r Criterium du Dauphine.

Mae Pencampwriaeth Ralϊo'r Byd yn dychwelyd i ogledd Cymru ym mis Hydref ar gyfer Rali GB Cymru, a bydd Ralϊo+ yn darparu darllediadau byw ac uchafbwyntiau, wrth i Elfyn Evans o Ddolgellau anelu at ennill y ras am yr eildro.

Bydd Bocsio Byw hefyd yn dychwelyd i'r sgrin eleni i ddangos rhai o dalentau bocsio gorau Cymru mewn gornestau byw.

Bydd tirwedd Cymru yn gefndir i bedwar digwyddiad athletau yn ystod 2019, gydag uchafbwyntiau Marathon Casnewydd, Ras yr Wyddfa, Marathon Eryri a phob un o chwe chymal Cyfres Super Triathlon Cymru yn cael eu dangos ar y sianel.

Bydd digon o chwaraeon domestig yn cael eu dangos drwy gydol y flwyddyn, gyda darllediadau byw a gemau cyfan as live i'w gweld bob wythnos yn nhymor 2018/19 a 2019/20 Guinness PRO14. Yn ogystal â hyn, bydd y sianel yn dangos gemau byw o Uwch Gynghrair y Principality a Diwrnod Rowndiau Terfynol y Tlysau Cenedlaethol, yn cynnwys darllediadau o gystadlaethau'r Cwpan, y Plât a'r Fowlen.

Bydd Rygbi Pawb yn dangos y gemau rygbi gorau o golegau ieuenctid a cholegau rhanbarthol Cymru gyda gemau byw ac uchafbwyntiau, a bydd S4C hefyd yn darlledu gemau'r dynion a'r merched Varsity 2019 rhwng Abertawe a Chaerdydd ddydd Mercher 10 Ebrill.

Bydd pêl-droed yn amlwg yn amserlen S4C, wrth i Sgorio roi sylw heb ei ail i'r gêm ddomestig. Ar ddydd Mawrth 19 Mawrth, bydd gêm ryngwladol 'C' rhwng Cymru a Lloegr yn cael ei ffrydio'n fyw ar dudalen Facebook Sgorio a gwefan S4C.

Cei Connah yw'r tîm cyntaf o Gymru i gyrraedd rownd derfynol Cwpan Irn Bru yr Alban, a bydd camerâu Sgorio yno'n fyw ar gyfer y rownd derfynol ddydd Sadwrn 23 Mawrth.

Wrth i'r tymor ddynesu at ddiweddglo cyffrous, bydd Sgorio hefyd yn dangos darllediadau byw ac uchafbwyntiau o Uwch Gynghrair JD Cymru a Chwpan JD Cymru.

Dywedodd Comisiynydd Chwaraeon S4C Sue Butler: "Bob blwyddyn, mae yna uchafbwyntiau yng nghalendr chwaraeon Cymru ac nid yw 2019 yn eithriad. Mae perfformiadau rhagorol y tîm rygbi wrth ennill y Gamp Lawn wedi creu cyffro yn y wlad ac mae cymaint mwy i ddod, gyda Chwpan Rygbi'r Byd, y Tour de France a'r rhan fwyaf o gemau rhagbrofol Euro 2020 yn ein disgwyl cyn diwedd y flwyddyn.

"Rydym yn falch iawn o gefnogi chwaraeon yng Nghymru ac mae ein portffolio yn awr yn fwy nag erioed. Gobeithio y bydd gwylwyr yn mwynhau ein darllediad diguro eleni."

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?