S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

Côr Cymru 2019 yn fyw o Aberystwyth ar S4C

Wedi wythnosau o gystadlu gwefreiddiol, bydd pump o gorau mwyaf swynol a deinamig ein gwlad yn brwydro yn rownd derfynol Côr Cymru 2019.

A bydd holl fwrlwm a chyffro'r ffeinal yn fyw nos Sul 7 Ebrill ar S4C wrth i'r darlledwyr Heledd Cynwal a Morgan Jones gyflwyno'r pum côr yn y ffeinal o lwyfan y Neuadd Fawr, Canolfan y Celfyddydau, Aberystwyth.

Mae Côr Cymru wedi datblygu yn un o uchafbwyntiau'r calendr canu cystadleuol yng Nghymru ers i'r gystadleuaeth ddechrau yn 2003, gyda phum côr gwahanol yn fuddugol hyd yn hyn dros yr wyth cystadleuaeth.

Bu newid yn y categorïau ar gyfer y nawfed gystadleuaeth. Mae'r corau yn cael eu rhannu i bum categori fel o'r blaen, ond mae dau gategori newydd ar gyfer 2019.

Ynghyd a'r Corau Cymysg, Corau Ieuenctid a Chorau Plant, mae categori Lleisiau Unfath yn cyfuno'r corau merched a'r corau meibion ac mae yna gategori cwbl newydd arall, Corau Sioe.

Bydd Ysgol Gerdd Ceredigion, Johns' Boys o Rosllannerchrugog, CF1 o Gaerdydd, Côr Ieuenctid Môn a Chôr Sioe Ieuenctid Môn yn mynd benben â'i gilydd, gyda'r côr buddugol yn mynd yn ei flaen i gynrychioli Cymru yng nghystadleuaeth Eurovision Choir of the Year yn Gothenburg, Sweden ym mis Awst. Yn y gystadleuaeth gyntaf yn 2017 daeth Côr Merched Sir Gâr yn ail.

Hefyd, am y trydydd tro, bydd Côr Cymru yn gwahodd corau ysgolion cynradd Cymru i'r llwyfan. Mewn cystadleuaeth arbennig, bydd Côr Cymru Cynradd yn coroni'r côr ysgol gynradd orau nos Sadwrn, 6 Ebrill ar S4C.

Yr ysgolion fydd yn cystadlu yn y rhaglen fydd Ysgol Gymraeg Teilo Sant Llandeilo, Ysgol Gynradd Gymraeg Llwyncelyn Porth, Ysgol Gymraeg Llangennech ac enillwyr y gystadleuaeth ddwy flynedd yn ôl, Ysgol Pen Barras, Rhuthun.

Mae yna dri beirniad o fri rhyngwladol yn beirniadu'r gystadleuaeth ac yn dewis yr enillwyr, sef yr arweinydd a darlithydd corawl o wlad Pwyl, Anna Wilczewska, Huw Humphreys, Pennaeth Cerdd Canolfan y Barbican, Llundain, Karmina Šilec, Cymrawd ym Mhrifysgol Havard, Arweinydd a Chyfarwyddwr o Slofenia. Maen nhw wedi cael blas ar y gwaith ac yn canmol safon y gystadleuaeth.

Pwy, tybed, fydd yn ymuno ag Ysgol Gerdd Ceredigion (2003 a 2009), Serendipity (2005), Cywair (2007 a 2011), Côr y Wiber (2013), Côr Heol y March (2015) a Chôr Merched Sir Gâr (2017) ar restr ddethol o'r rhai sy'n deilwng o gael eu galw'n Gôr Cymru?

"Mae'r gystadleuaeth hon yn un o gonglfeini digwyddiadau S4C ac yn un ry'n ni'n falch iawn ohoni," meddai Elen Rhys, Comisiynydd Adloniant S4C. "Mae'r safon eto eleni yn anhygoel ac ry'n ni'n falch iawn o ddathlu talentau corawl Cymru ar S4C."

Côr Cymru Cynradd 2019

Nos Sadwrn 6 Ebrill 7.30, S4C

Isdeitlau Saesneg

Ffeinal Côr Cymru 2019

Nos Sul 7 Ebrill 7.30, S4C

Isdeitlau Saesneg

Gwefan: s4c.cymru

Ar alw: s4c.cymru/clic

Cynhyrchiad Rondo Media ar gyfer S4C

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?