S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

Blas o gyfres newydd Un Bore Mercher yn Llundain

Gyda llai na mis i fynd tan darllediad yr ail gyfres o'r ddrama boblogaidd Un Bore Mercher ar S4C, cafodd cynulleidfa yng ngŵyl deledu yn Llundain flas o'r gyfres newydd dros y penwythnos.

Roedd sêr Un Bore Mercher Eve Myles a'i gwr Bradley Freegard yn ogystal ag awdur y gyfres Matthew Hall yn siarad yn y British Film Institute / Radio Times Television Festival ddydd Sul (Ebrill 14).

Ac fel rhan o'r digwyddiad uchel ei broffil cafodd tair golygfa o'r gyfres newydd eu rhyddhau yn arbennig ar gyfer yr ŵyl.

Dywedodd Eve Myles, sy'n chwarae rhan Faith Howells yn y ddrama wrth ddarlledwraig Radio 4 Nikki Bedi, oedd yn arwain y sesiwn, bod amseri'r rôl wedi bod yn berffaith iddi.

"Bydden i byth wedi gallu chwarae rôl Faith Howells bum mlynedd yn ôl - mae mor ddwys a heriol," meddai Eve. "Ond pan gafodd y rôl ei chynnig i mi roedd yr amseri'n berffaith. Roeddwn i angen rhywbeth newydd, sialens newydd, rhywbeth o'n i'n credu ynddo fe ac roedd y rhan Faith Howells yn teimlo'n berffaith i mi."

Soniodd Eve am yr heriau o ffilmio yn y Gymraeg i Un Bore Mercher a'r Saesneg i'r fersiwn Saesneg Keeping Faith sydd yn ymddangos ar BBC yn ystod yr haf.

"Roedd e'n anodd weithiau - ro'n ni'n saethu golygfa yn y Gymraeg, er enghraifft ac wedyn yn y Saesneg - ac efallai bod rhywbeth yn gweithio'n well yn y fersiwn Saesneg ac wedyn roedd rhaid i ni ail-saethu yn y Gymraeg. Roedd rhaid newid o un i'r llall yn go glou weithiau a ro'n i'n gweithio gyda 'filter' Saesneg ac wedyn gorfod newid i'r 'filter' Cymraeg."

"Ond ro'n ni'n rhoi cant y cant i'r ddwy fersiwn. Mae'r ddwy yr un mor bwysig i ni."

Darlledwyd y gyfres gyntaf yn Gymraeg fel Un Bore Mercher, ac yna yn Saesneg yng Nghymru ar BBC One Wales. Derbyniodd Keeping Faith gynulleidfaoedd rhagorol ac aeth y gyfres ymlaen i dorri record BBC iPlayer.

Bydd dangosiad arbennig o bennod gyntaf Un Bore Mercher yn Cineworld, Caerdydd ar 8 Mai - bydd Eve Myles yna, yn ogystal ag aelodau eraill o'r cast, ar gyfer yr achlysur a bydd yn siarad mwy am y gyfres newydd fel rhan o sesiwn holi ac ateb.

Mae'r bennod gyntaf yn cydio yn stori Faith Howells rhyw 18 mis ar ôl digwyddiadau'r gyfres gyntaf. Rydym yn gweld hi'n bwrw ymlaen gyda'i bywyd a cheisio creu bywyd normal i'w theulu ar ôl holl ddigwyddiadau erchyll y gyfres gyntaf.

Felly beth fydd hanes Faith? Oes rhywbeth dal ar ôl rhyngddi hi a'i gwr (Evan) neu ydy ei pherthynas gyda Steve Baldini (Mark Lewis Jones) yn datblygu?

Caiff yr atebion i gyd eu datgelu yn y gyfres newydd o Un Bore Mercher sydd yn dechrau ar S4C ar ddydd Sul, Mai 12 am 9.00 ond yn y cyfamser, cadw llygaid allan am ragflas o'r bennod gyntaf ar Facebook, Twitter ac Instagram S4C yn ystod yr wythnosau nesaf.

Bydd isdeitlau Saesneg ar gael ar gyfer Un Bore Mercher a bydd y rhaglen ar gael ar alw ar S4C Clic s4c.cymru/clic, BBC iPlayer a llwyfannau eraill. Mae Un Bore Mercher yn gynhyrchiad Vox Pictures ar gyfer S4C a BBC Cymru Wales.

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?