S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

Pedwar peth sy’n gwneud y Giro d’Italia 2019 yn ras arbennig

09 Mai 2019

Y Giro d'Italia yw un o'r rasys beics mwyaf yn y byd, a bydd modd i chi wylio'r uchafbwyntiau a chymalau allweddol o'r ras yn fyw eleni ar S4C.

Mi fydd criw Seiclo yn darlledu diweddglo pob cymal yn fyw pob prynhawn yn ystod y ras dair wythnos, yn ogystal â rhaglenni uchafbwyntiau gyda'r nos. Bydd tîm profiadol Seiclo, sy'n cynnwys Wyn Gruffudd, John Hardy, Dewi a Gareth Rhys Owen, Rheinallt a Peredur ap Gwynedd a'r beiciwr proffesiynol Gruff Lewis, yn sylwebu ac yn dadansoddi holl gyffro pob cymal o'r ras.

Eleni, bydd y ras yn cychwyn yn Bologna, wrth i'r beicwyr rasio yn erbyn y cloc ddydd Sadwrn, 11 Mai. Bydd darpariaeth fyw Seiclo yn dechrau am 4.00, gydag uchafbwyntiau cymal cyntaf y ras ymlaen am 9.45. Bydd darpariaeth fyw ar gael ar y teledu, ar-lein ar S4C Clic ac ar Facebook Live tudalen Seiclo.

Yn y cyfamser, dyma bedwar peth sy'n gwneud y Giro d'Italia eleni yn ras arbennig:

Hanes

Eleni, bydd y Giro d'Italia – sydd hefyd yn cael ei hadnabod fel y Corsa Rosa – yn cael ei chynnal am y 102fed tro. Yn y ras gyntaf un ym 1909, roedd 127 o gystadleuwyr wedi cychwyn y ras wyth cymal, 2,448km o hyd, gyda dim ond 49 yn cyrraedd y linell derfyn. Mae'r ras wedi ei chynnal yn flynyddol ers 1909, gan eithrio blynyddoedd y rhyfeloedd byd.

Golygfeydd Godidog

Mae'r ras eleni, sy'n ymestyn ar hyd 3,518.5km ar draws 21 cymal, yn dechrau yn Bologna. Yna, bydd y ras yn anelu tua'r de ar hyd arfordir gorllewinol y wlad cyn symud yn ôl tua'r gogledd, gan lywio'r cystadleuwyr drwy'r Alpau a mynyddoedd y Dolomiti cyn i'r ras gyrraedd ei therfyn yn Verona. Bydd lluniau'r camerâu o'r hofrenyddion yn amlygu golygfeydd godidog y wlad, gan arddangos tirwedd nodweddiadol yr Eidal ar ei gorau. Bydd hyn oll i'w gweld ar y rhaglenni byw a'r rhaglenni uchafbwyntiau ar S4C.

Y Beicwyr

Er na fydd enillydd y llynedd, Chris Froome, nag enillydd diweddara' y Tour de France, Geraint Thomas, yn cystadlu yn y ras eleni, mae seiclwyr eraill o'r radd flaenaf yn cystadlu yn Giro 2019. Y cyn enillydd, Tom Dumolin ydi ffefryn y bwcis, ond mae disgwyl i Simon Yates, Egan Bernal, Vincenzo Nibali a Primoz Roglic sicrhau cynnwrf yn y ras am y Maglia Rosa.

Cyfle i ddysgu 'chydig o Eidaleg

Os mai'r gwyliau i'r Eidal sydd ar y gorwel eleni, dyma gyfle gwych i chi ddysgu gair neu ddau o Eidaleg cyn eich taith. Dyma rai o'r termau byddwch yn sicr o glywed yn ystod darpariaeth Seiclo o'r Giro: Grande Partenza (Dechrau Mawr neu Grand depart), Maglia Rosa (Crys Pinc), Gruppo (Prif grŵp neu Peloton), Fuga (grŵp dihangiad), Gregario (Cadfridog neu Domestique), Cimma Copi (Y pwynt uchaf fydd y reidwyr yn ei gyrraedd yn ystod y ras) ac Arrivo (Llinell Derfyn).

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?