S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

S4C yn arloesi gyda chyfres i blant yn codi ymwybyddiaeth o'r gymuned LHDT

17 Mai 2019

Gall mwy gael ei wneud i adlewyrchu'r gymuned LHDT (LGBT) i blant a phobl ifanc ar y cyfryngau, ond mae cyfres newydd fydd yn darlledu yn fuan ar S4C Stwnsh yn sicr yn gam positif ymlaen, yn ôl Comisiynydd Cynnwys Plant S4C, Sioned Wyn Roberts.

Mae Ymbarél, yn gyfres sy'n dathlu amrywiaeth a hunaniaeth ymysg plant a phobl ifanc ac wedi ei thargedu at blant rhwng 11-13 oed. Yn gyfres o bum ffilm ffurf fer, bydd Ymbarél yn darlledu fesul ffilm o brynhawn Llun i brynhawn Gwener, 20 i 24 Mai ar S4C Stwnsh.

"Mae Ymbarél yn sicr yn gam positif ymlaen i S4C ac i Stwnsh. Mae angen i ni gyd gymryd cyfrifoldeb a cheisio ein gorau i newid agweddau tuag at y gymuned LHDT," meddai Sioned Wyn Roberts, "Gobeithio mai pwynt dechrau yn unig yw hyn, a bydd mwy o amrywiaeth eto i'w weld mewn cyfresi newydd ar y sianel yn y dyfodol."

Gyda dadleuon am addysg LHDT mewn ysgolion wedi bod yn bwnc llosg ar y newyddion dros yr wythnosau a'r misoedd diwethaf, mae'r gyfres yn gam arloesol i S4C. Dyma'r gyfres gyntaf o'i math ar S4C, a dyma'r unig gyfres fel ei thebyg ar gyfer plant a phobl ifanc ymhlith sianeli eraill i blant.

Nod y gyfres yw argyhoeddi plant a phobl ifanc i 'beidio â bod ofn bod yn ti dy hun', a'r gobaith yw y bydd yn esgor ar sgwrs am hunaniaeth ac amrywiaeth. Trwy ddulliau drama, cerddoriaeth ac animeiddiadau, bydd Ymbarél yn adlewyrchu gwir brofiadau pobl ifanc â materion LHDT. Pedwar o wynebau ifanc fydd yn cyflwyno'r gyfres, gyda sawl un ohonynt yn perthyn i'r gymuned LHDT.

O homoffobia i ddod allan, mae'r gyfres am gyffwrdd â sawl agwedd wahanol sydd heb gael ei drafod mor agored o'r blaen i blant a phobl ifanc ar y sianel.

"Neges Ymbarél yw i bawb fod yn garedig, i ddathlu'r hyn sy'n ein gwneud ni oll yn wahanol ac i garu pawb fel ag y maen nhw. Ond yn ogystal â chodi ymwybyddiaeth, y peth pwysicaf oll yw y bydd y gynulleidfa yn cael eu diddanu gan y gyfres," ychwanegai Sioned, "ac os lwyddwn i helpu un o blant Cymru gydag Ymbarél, yna byddwn yn cyfri'r gyfres yn llwyddiant."

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?