S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

Dod â materion cyfoes i ddwylo’r genhedlaeth iau

04 Gorffennaf 2019

Mae'r ffordd mae pobl ifanc yn derbyn newyddion wedi newid, yn ôl dwy newyddiadurwr ifanc o Gaerdydd, ond twf byd y cyfryngau cymdeithasol yw'r union reswm pam eu bod yn edrych ymlaen at gamu i'r byd newyddiadurol ar gynllun cyffrous rhwng S4C ac ITV Cymru.

Gyda mwy o bwyslais nag erioed ar y cyfryngau cymdeithasol, mae S4C ac ITV Cymru eleni eto yn cefnogi cynllun hyfforddi newyddiadurwyr i greu deunydd ar gyfer platfform digidol Hansh.

Gwennan Campbell a Zahra Errami yw'r ddwy sydd wedi ennill eu lle ar y cynllun hyfforddi eleni. Bydd y ddwy i'w gweld ar dudalennau Hansh, yn torri straeon newydd ac yn ceisio tanio sgwrs am bynciau llosg a materion gwleidyddol ymysg y gynulleidfa iau, 16-34 oed.

Dywedodd Zahra, sy'n 26 oed ac yn wreiddiol o Fôn: "Mae'n wych cael y cyfle i ffeindio'n nhraed fel newyddiadurwraig ifanc a dechrau gyrfa newydd, cyffrous trwy gyfrwng y Gymraeg."

"Dwi'n edrych ymlaen at greu cynnwys ar blatfform yr ydw i'n gwylio ac yn mwynhau fy hun. Rydw i'n gobeithio dod â syniadau a straeon newydd i Hansh gan ddenu sylw pobol ifanc at faterion cyfoes sydd o bwys i Gymru a hynny mewn ffordd berthnasol, hawdd a hwylus."

Dywedodd Gwennan, sy'n 22 oed ac yn wreiddiol o Landeilo: "Mae'n fraint fawr i gael fy newis i fod yn rhan o'r cynllun hyfforddiant rhwng ITV ag S4C. Mae hi'n gyfnod cyffrous i fod yn creu cynnwys digidol sy'n trafod materion cyfoes ar gyfer pobl ifanc, yn enwedig gyda'r rhan fwyaf o bobl ifanc yn derbyn y wybodaeth drwy'r cyfryngau cymdeithasol.

"Mae hi mor bwysig fod pobl ifanc yn cymryd diddordeb mewn materion sy'n cael eu trafod ar y newyddion. Mae gymaint o apathi wedi bod dros y blynyddoedd diwethaf ond mae'n amlwg fod pethau'n dechrau newid."

Bellach wedi lansio ers dwy flynedd, mae Hansh yn blatfform digidol sy'n targedu'r gynulleidfa 16-34 oed. Gyda chynnwys gwreiddiol, yn aml yn llawn hiwmor a thynnu coes, i'w weld ar y platfform yn ddyddiol, bydd y cynllun hwn yn cynnig deunydd o fath gwahanol i'r gwylwyr.

Dywedodd Rhodri ap Dyfrig, Comisiynydd Cynnwys Arlein S4C: "Rydyn ni'n falch iawn o allu ymestyn y cynllun hwn gafodd ei dreialu yn llwyddiannus iawn llynedd. Mae rhoi llwyfan i newyddiaduraeth gyfoes a barn pobol am beth sy'n digwydd yn y byd o'u cwmpas yn ychwanegiad pwysig at Hansh.

"Mae Hansh hefyd yn le i arbrofi gyda thechnegau cyhoeddi a chyfathrebu newydd, a dyw newyddiaduraeth ddim yn eithriad. Ein gobaith yw y bydd cenhedlaeth newydd o newyddiadurwyr yn dod sy'n hyderus yn defnyddio'r ystod o dechnegau a llwyfannau sydd ar gael iddynt, sydd mor hanfodol i wneud yn siŵr bod ein gwasanaethau ni yn gyfredol ac yn berthnasol."

Dywedodd Phil Henfrey, Pennaeth Newyddion a Rhaglenni yn ITV Cymru: "Mae ITV Cymru yn chwarae rhan elfennol wrth ddarparu newyddion Cymraeg dibynadwy i gynulleidfaoedd, ac mae cael gweithio gydag S4C ar y cynllun arloesol hwn i gyrraedd cynulleidfaoedd iau ar lwyfannau newydd trwy gyfrwng y Gymraeg yn gyffrous iawn.

"Bydd Gwennan a Zahra yn gweithio ochr yn ochr â thîm materion cyfoes hynod o dalentog ac angerddol a byddant yn dod â phersbectif a llais newydd i helpu i ddenu cynulleidfaoedd newydd i'n sylw i ar faterion Cymreig."

Bydd Gwennan a Zahra yn dechrau ar eu gwaith ym mis Awst 2019.
Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?