S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

Clwb Rygbi yn dangos pob un o ranbarthau Cymru yn y PRO14

17 Gorffennaf 2019

Bydd S4C yn dangos pob un o ranbarthau rygbi Cymru yn fyw o fewn pum rownd agoriadol y tymor 2019/2020 Guinness PRO14.

Y gêm byw cyntaf fydd criw Clwb Rygbi yn ei ddarlledu'r tymor nesaf fydd y gêm rhwng Scarlets a Connacht, ar ddydd Sadwrn 28 Medi, sef gêm gyntaf Brad Mooar fel prif hyfforddwr y Sosban.

Ar ddydd Sadwrn 5 Hydref, bydd Clwb Rygbi yn y brifddinas i ddangos Gleision Caerdydd v Caeredin.

Wythnos yn ddiweddarach, ar ddydd Gwener 11 Hydref, bydd y tîm yn Rodney Parade ar gyfer Dreigiau v Connacht, cyn teithio i Belfast ar ddydd Gwener 25 Hydref ar gyfer ymweliad Gleision Caerdydd ag Ulster.

Stadiwm Liberty fydd y lleoliad ar gyfer rownd pump, wrth i'r Gweilch herio Connacht ar ddydd Sadwrn 2 Tachwedd.

Bydd S4C hefyd yn dangos darllediadau gohiriedig o ddwy gêm Guinness PRO14 ychwanegol yn ystod pum penwythnos agoriadol y tymor.

Gareth Rhys Owen fydd yn arwain tîm cyflwyno Clwb Rygbi, gyda Catrin Heledd yn sylwebu ar yr ystlys a Gareth Charles a chyn capten Cymru, Gwyn Jones, yn y blwch sylwebu.

Amserlen Clwb Rygbi – Guinness PRO14 2019/20 – Pum rownd agoriadol

Rownd 1

Nos Sadwrn 28/9/19 - Scarlets v Connacht – YN FYW - 17.15 CG

Dydd Sul 29/9/19 - Ulster v Gweilch – Dangosiad Gohiriedig – 15.45

Nos Lun 30/9/19 - Southern Kings v Gleision Caerdydd - Dangosiad Gohiriedig – 22.00

Rownd 2

Nos Sadwrn 05/10/19 - Gleision Caerdydd v Caeredin – YN FYW – 17.15 CG

Dydd Sul 06/10/19 - Leinster v Gweilch - Dangosiad Gohiriedig – 15.45

Nos Lun 07/10/19 - Glasgow v Scarlets - Dangosiad Gohiriedig – 22.00

Rownd 3

Nos Wener 11/10/19 - Dreigiau v Connacht – YN FYW - 19.35 CG

Dydd Sul 13/10/19 - Glasgow v Gleision Caerdydd - Dangosiad Gohiriedig – 14.30

Nos Lun 14/10/19 - Gweilch v Benetton - Dangosiad Gohiriedig – 22.00

Rownd 4

Nos Wener 25/10/19 - Ulster v Gleision Caerdydd – YN FYW - 19.35 CG

Dydd Sul 27/10/19 - Munster v Gweilch - Dangosiad Gohiriedig – 14.45

Nos Lun 28/10/19 - Caeredin v Scarlets - Dangosiad Gohiriedig – 22.00

Rownd 5

Nos Sadwrn 02/11/19 - Gweilch v Connacht – YN FYW – 17.15 CG

Dydd Sul 03/11/19 - Gleision Caerdydd v Munster - Dangosiad Gohiriedig – 15.45

Nos Lun 04/11/19 - Scarlets v Cheetahs 22:00 - Dangosiad Gohiriedig – 22.00

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?