S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

Mae Cymru wedi dewis Seren Junior Eurovision

24 Medi 2019

Mae Cymru wedi dewis! Erin Mai yw enillydd cyfres S4C Chwilio am Seren a hi fydd yn cynrychioli Cymru ar lwyfan Junior Eurovision ym Gliwice, Gwlad Pŵyl ym mis Tachwedd.

Cafodd Erin, sy'n 13 mlwydd oed ac yn dod o Lanrwst, ei dewis yn enillydd drwy bleidlais gyhoeddus fyw mewn noson arbennig heno (Medi 24) yn Venue Cymru, Llandudno.

"Nes i 'rioed feddwl y byswn i'n ennill Chwilio am Seren Junior Eurovision! Mae pawb sydd wedi cystadlu ar y llwyfan heno mor ardderchog. Diolch yn fawr iawn i bawb am yr holl gefnogaeth, i Tara ac i bawb o Lanrwst! Dwi methu aros i gael cynrychioli Cymru yng Ngwlad Pŵyl."

Dros yr haf, aeth S4C a chwmni cynhyrchu Rondo Media ar daith i chwilio am sêr ifanc i gystadlu o dan faner Cymru yn y Junior Eurovision Song Contest, mewn cyfres o glyweliadau cyhoeddus, ac fe gafwyd neuaddau llawn perfformwyr ifanc yn awyddus i hawlio eu lle fel Seren Junior Eurovision.

Ym mis Medi, mewn cyfres o bedair rhaglen Chwilio am Seren Junior Eurovision ar S4C, fe wynebodd unigolion a grwpiau panel o fentoriaid o'r radd flaenaf - Connie Fisher, Lloyd Macey a Tara Bethan.

Roedd gofyn iddynt ddewis 20 o'r perfformwyr i symud ymlaen at y broses fentora ac yna roedd rhaid i'r tri ddewis y chwech gorau i gystadlu yn y rownd derfynol heno yn Llandudno.

Tara Bethan oedd mentor Erin: "Mae'r siwrne' i gyrraedd fan hyn wedi bod yn un hyfryd. Diolch i bawb sydd wedi cystadlu – roedd pob un sydd wedi perfformio heno yn llawn haeddu'r fraint o gynrychioli Cymru yn y Junior Eurovision. Dwi'n falch iawn ohonyn nhw i gyd, a llongyfarchiadau mawr iawn i Erin!"

Ond, ar ddiwedd y dydd, nid y mentoriaid oedd yn cael dewis y gantores fuddugol, ond y gwylwyr. Yn ystod y rhaglen fyw heno, dangosodd y cyhoedd eu barn drwy bleidleisio dros eu ffefryn i gynrychioli Cymru.

Ychwanegodd Tara: "Ges i'r fraint o ennill llynedd, a theithio gyda Manw i Minsk i gystadlu yn Junior Eurovision. Mae cael ennill eto eleni gydag Erin yn hollol, hollol anhygoel!"

Eleni yw'r ail dro erioed i Gymru gystadlu fel cenedl unigol yn y Junior Eurovision Song Contest. Manw Lili o Rostryfan lwyddodd i ennill ei lle i gynrychioli Cymru yn y gystadleuaeth yn 2018 draw ym Minsk, Belarus, gan berfformio'r gân arbennig gan Yws Gwynedd, Perta, ar y llwyfan Ewropeaidd o dan arweiniad ei mentor, Tara Bethan.

Eleni, mae'r gân sydd wedi ei llunio yn arbennig ar gyfer y gystadleuaeth wedi cael ei chyfansoddi gan gyn berfformwyr cystadleuaeth yr Eurovision, sef Sylvia Strand a John Gregory, sy'n byw yng Nghwm Rhondda Fawr. Enw'r gân yw Calon yn Curo, a'r rapiwr a'r cyfansoddwr Ed Holden sydd wedi llunio'r geiriau.

Yn Ewrop, does yr un sioe sy'n cymharu â'r Eurovision Song Contest. Mae'r chwaer gystadleuaeth i berfformwyr ifanc 9-14 oed yn gynhyrchiad yr un mor uchelgeisiol, ac yn denu sylw o bob cornel o Ewrop a thu hwnt. Mae miloedd o bobl yn dod i wylio'r gystadleuaeth yn fyw, ac mae miliynau yn rhagor yn gwylio ar deledu mewn degau o wledydd ar draws y cyfandir.

Yn ymuno â Chymru yn yr ornest fawr bydd 18 o wledydd eraill yn cynnwys Iwerddon, Sbaen, Ffrainc ac Awstralia, i enwi dim ond rhai.

Fe fydd y brif gystadleuaeth yn cael ei darlledu'n fyw o Gliwice, Gwlad Pŵyl, ar S4C ar brynhawn Sul, 24 Tachwedd am 3.00yp.

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?