S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

Hugh Hesketh Evans yw Cadeirydd Dros Dro S4C

Mae'r Ysgrifennydd Gwladol dros Ddigidol, Diwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon wedi apwyntio Hugh Hesketh Evans fel Cadeirydd dros dro i S4C. Mae Hugh yn un o aelodau mwyaf profiadol Bwrdd Unedol S4C ac wedi bod yn aelod anweithredol o'r bwrdd ers Tachwedd 2014. Mae Hugh yn Arweinydd ar Gyngor Sir Ddinbych ers 2007 ac yn Gynghorydd Sir ar Llanfair Dyffryn Clwyd a Gwyddelwern.

Bydd penodiad Cadeirydd newydd S4C yn cael eu gwneud gan yr Ysgrifennydd Gwladol dros Ddigidol, Diwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon ac mae'r broses benodi ar waith.

Wrth i S4C ddathlu blwyddyn ers symud i'w pencadlys newydd yn Yr Egin, mae Prif Weithredwr y sianel, Owen Evans wedi talu teyrnged i Huw Jones am ei waith diflino fel Cadeirydd S4C dros yr wyth mlynedd diwethaf.

"Pan ddaeth Huw i'r swydd roedd S4C ar drobwynt allweddol yn ei hanes. Gyda'r egni, brwdfrydedd a'r manylder sy'n nodweddiadol o Huw, fe lwyddodd i ddod a threfn a sicrwydd i'r sianel.

"Mae cymharu ble mae'r sianel heddiw a ble roeddem yn 2011 yn dangos gwaddol Huw. Erbyn hyn mae'r sianel efo sefyllfa ariannu sefydlog, wedi cael adolygiad cadarnhaol gan y DCMS.

"Mae'r tirwedd darlledu wedi newid yn sylweddol dros yr 8 mlynedd diwethaf. Pwy feddyliai yn 2011 y byddai cymaint o wylio ac ymgysylltu a'n gwylwyr yn digwydd drwy'r cyfryngau cymdeithasol? Ac wrth gwrs mae S4C Clic nawr yn cynnig nifer o sianeli, bocs sets a chynnwys ychwanegol. Ond mae S4C wedi profi llwyddiannau creadigol ar y sgrin deledu hefyd yn ystod cyfnod Huw. O Y Gwyll i Un Bore Mercher ac o gyngerdd Syr Karl Jenkins "Cantata Memoria: Er mwyn y plant" i fuddugoliaethau Geraint Thomas yn y Tour de France a rhediad rhyfeddol tîm pêl-droed Cymru yn ystod Ewro 2016, mae'r sgrin wedi bod yn llawn uchafbwyntiau.

"Ac rwy'n siŵr hefyd byddai Huw yn cytuno nad yw'r gwaith drosodd eto - mae sawl her eto i ddod. Ond heb waith Huw, yn gosod y sylfaen yma, byddai S4C yn sefydliad gwahanol iawn a llawer tlotach, ym mhob ystyr y gair, heddiw.

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?