S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

Walter Presents ar gyfer S4C – yn dangos dramâu gorau Ewrop yng Nghymru

08 Hydref 2019

Yn ogystal â'r cyfresi drama sydd i'w gweld ar S4C dros yr Hydref, bydd gwylwyr S4C yn cael y cyfle i fwynhau rhai o gyfresi mwyaf poblogaidd Ewrop yn fuan drwy gyfrwng yr iaith Gymraeg.

Fel rhan o bartneriaeth newydd rhwng S4C a Walter Presents, bydd S4C yn dangos detholiad o ddramâu teledu gorau'r cyfandir, sydd wedi eu dewis gan y curadur drama Eidalaidd, Walter Iuzzolino.

Walter Iuzzolino, curadur Walter Presents ar gyfer S4C.

Bydd y gwasanaeth newydd, Walter Presents ar gyfer S4C, yn dangos dramâu mewn sawl iaith wahanol gydag is-deitlau Cymraeg ar S4C ar S4C Clic; yn rhad ac am ddim, heb unrhyw gostau tanysgrifio. Mi fydd is-deitlau Saesneg ar gael ar gyfer pob cyfres yn ogystal.

Mi fydd y gwasanaeth yn cael ei lansio ar ddydd Mawrth 22 Hydref, gyda'r ddrama o Sweden, Offeren Stockholm (Stockholm Requiem), yn cael dangosiad premiere ar S4C Clic. Dyma'r tro cyntaf i'r gyfres cael ei dangos yn y Deyrnas Unedig, gyda'r gyfres gyfan ar gael i'w gwylio ar alw ar unwaith.

Rhybudd: Golygfeydd Treisgar.

Ar yr un diwrnod, bydd y bennod gyntaf o'r gyfres Ffrengig, Afonydd Gwaedlyd (Crimson Rivers) yn cael ei ddangos ar S4C am 10pm, gyda gweddill y gyfres ar gael ar S4C Clic yr un amser.

Dywedodd Walter Iuzzolino: "Mae Cymru'n cael ei hadnabod fel gwlad sy'n cynhyrchu dramâu o'r safon uchaf ac sydd yn ennill gwobrau, felly rwy'n gyffrous iawn fy mod i'n gallu rhannu rhai o fy hoff ddramâu gyda chynulleidfa flaengar sy'n deall y grefft.

"Mae'r rhaglenni gorau yn cymryd gafael a sylw'r gwyliwr ac yn gwrthod gadael fynd, a dyna'n union yw nod Walter Presents ar gyfer S4C."

Dywedodd Amanda Rees, Cyfarwyddwr Cynnwys Creadigol S4C: "Mae Y Gwyll, Un Bore Mercher a Bang yn enghreifftiau gwych o'r dramâu safonol sy'n cael eu cynhyrchu yma yng Nghymru, ac mae llwyddiant y cyfresi yma yn dangos nad yw iaith yn rhwystr i gynulleidfa sy'n mwynhau drama.

"Mae'n bleser i ddweud y bydd S4C yn gallu dangos ragor o ddrama o'r safon uchaf i'n cynulleidfa."

Yn seiliedig ar nofelau Kristina Ohlsson, mae Offeren Stockholm (Stockholm Requiem) yn ddrama ffasiynol o Sweden sy'n dilyn y prif gymeriad, y troseddegydd Frederika Bergmann. Ar ôl bod mewn damwain car difrifol, mae Frederkia yn derbyn swydd yn uned achosion arbennig heddlu Stockholm.

Er i'w chyd-weithwyr ei chroesawu gydag agwedd oeraidd ar y dechrau, mae hynny'n raddol yn troi i fod yn barch wrth iddi ddangos ei phersbectif unigryw wrth helpu nhw ddatrys achosion.

Yn Afonydd Gwaedlyd (Crimson Rivers) mae'r ditectif Pierre Niemans a'i gyn myfyrwraig Camille Delaunay yn taclo achosion treisgar a chreulon dros ben; llofruddiaethau seremonïol chymhleth sydd yn dychryn y cymunedau anghysbell yn ardaloedd gwledig Ffrainc.

Does dim achos yn rhy frawychus i'r ddau dditectif, wrth iddyn nhw ymchwilio i mewn i chwedlau lleol a chwltiau a chredoau anghyffredin.

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?