S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

Sain yn dathlu hanner canrif o hanes cerddoriaeth Cymru

13 Rhagfyr 2019

"Gwaddol Sain ydi y byd pop Cymraeg; does 'na'm dowt am hynna. Nhw oedd y bechgyn ifanc brwdfrydig 'ma efo'r cŵl ffactor oedd wedi denu'r holl grwpiau 'ma i recordio iddyn nhw" meddai'r gantores a'r cyflwynydd Caryl Parry Jones.

Mae Sain, cwmni recordiau mwyaf Cymru wedi rhoi llwyfan arbennig i gerddoriaeth Gymraeg, ac wedi darparu cyfeiliant i fywydau pobl Cymru ers diwedd y 1960au.

Eleni, mae'n dathlu'r garreg filltir o 50 mlynedd ers i Dafydd Iwan a Huw Jones sefydlu'r label. Bydd rhaglen arbennig, Sain yn 50, a ddarlledir ar S4C ar 15 Rhagfyr am 8.00pm, yn ein tywys ar siwrnai nostalgig drwy archif y traciau sy'n sain i gyfnodau amrywiol yn ein hanes, gan ddod ag atgofion yr hanner canrif ddiwethaf yn fyw.

Cawn berfformiadau eiconig o'r archif, a chyfweliadau gydag enwau mawr y byd cerddoriaeth sy'n rhoi darlun hwyliog a lliwgar o ddatblygiad y byd adloniant Cymraeg.

Mae sêr amlycaf byd pop Cymraeg i gyd wedi recordio gyda Sain; yn eu mysg mae Meic Stevens, Edward H, Geraint Jarman, Heather Jones, Bando, Elin Fflur, Swnami a Lleuwen Steffan a'r cantorion clasurol Aled Jones a Bryn Terfel.

Yn fwy diweddar grwpiau fel Catatonia, Anrhefn, Anweledig, Big Leaves a Bryn Fôn a'r Band, a hynny o dan Crai, label amgen y cwmni.

Dafydd Iwan, un o sefydlwyr y label Sain.

Mae stori Sain yn dechrau yn y 60au - amser newid a chyffro led led y byd - yn gerddorol ac yn wleidyddol. Ac yma yng Nghymru, roedd brwydr yr iaith wedi tanio ysbryd chwyldroadol ymysg y bobl ifanc. Ac roedd hyn yn cael ei adlewyrchu yn Sain, wrth i'r record gyntaf, Dŵr gan Huw Jones, gyfeirio at hanes boddi Tryweryn:

"Nid caneuon serch fel caneuon pop y 60au roeddech chi'n canu ond caneuon am bynciau'r dydd. A phynciau mawr y dydd yng Nghymru oedd pethau fel brwydr yr iaith a Thryweryn" meddai Huw Jones.

"Ro'n i'n ymwybodol bod recordiau Cymraeg yn gyffredinol jest ddim yn swnio cystal â recordiau Saesneg. Ag o'n i ddim yn deall pam bod rhaid iddi fod felly. Ro'n i eisiau i fy record nesa' swnio'n dda," ychwanega.

"Roedd y gerddoriaeth yn gerbyd i'r ysbryd newydd 'ma," meddai Dafydd Iwan.

"Mae'r diolch am sefydlu'r cwmni i'r diweddar Brian Morgan Evans. Mi roddodd o fenthyciad o £500 i ni, ag i Huw Jones y myfyriwr ac i minnau'n ddi-waith roedd £500 yn ffortiwn - dyma chi filing cabinet a dyma chi ffôn a dyma chi stafell yn Ffordd Ninian yng Nghaerdydd - fanna ddechreuon ni".

O senglau i LPs ac o vinyl i CDs, mae newidiadau sylweddol wedi digwydd i dechnoleg gwrando ar gerddoriaeth dros y blynyddoedd, a sawl cwmni recordiau rhyngwladol wedi mynd i'r gwellt wrth wynebu'r heriau hyn.

Mae Sain, fodd bynnag yn dathlu'r ffaith ei fod wedi arloesi ac addasu dros y degawdau fel esbonia Huw Jones:

"Yr hen air Yma o Hyd; wel, mae rhywun yn gorfod ymfalchïo yn hynny o beth, ond peidio bodloni ar hynny – dyna'r peth – mae'n rhaid hefyd parhau i symud ymlaen, wynebu heriau, tra'n ymfalchïo yn beth sydd wedi cael ei gyflawni ddoe".

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?