S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

Nadolig ar S4C: Digon o chwerthin ac ambell i ddeigryn

18 Rhagfyr 2019

Bydd digon o chwerthin ac ambell i ddeigryn i'w gael wrth wylio S4C dros y Nadolig eleni.

Bydd Shane Williams, Maggi Noggi a Trystan ac Emma ymysg sawl wyneb cyfarwydd fydd i'w weld dros yr Ŵyl gan gynnig gwledd amrywiol o raglenni Nadoligaidd i'r teulu cyfan.

Promo Nadolig 2019 S4C

Ar nos Fercher 18 Rhagfyr, bydd amserlen y Nadolig yn cychwyn gyda cyfle i fwynhau comedi gan oreuon y sîn stand yp Gymraeg heb adael y soffa y gaeaf yma, wrth i'r gyfres Stand Yp (9.30) ddychwelyd i S4C dros gyfnod y Nadolig. Tudur Owen, un o ddigrifwyr mwya' adnabyddus Cymru fydd y cyntaf i'r llwyfan, gyda'i sioe, Parablu.

Wythnos yn ddiweddarach (am 10.00) bydd rhaglen gomedi stand yp arbennig ar noson y Nadolig yng nghwmni un o ddigrifwyr mwyaf profiadol a llwyddiannus Prydain, Elis James. Cafodd y sioe, Haleliw, ei ffilmio yn y Lyric, Caerfyrddin, tref enedigol Elis.

Yn olaf, bydd gwledd o ddeg digrifwr yn ffurfio Gala'r Goreuon (10.00) gan gynnwys Dan Thomas, Beth Jones, Esyllt Sears, Daniel Griffith, Steffan Evans, Priya Hall, Eleri Morgan, a mwy. Cafodd y Gala ei ffilmio nôl ym mis Hydref o flaen cynulleidfa lawn yn Theatr Fach, Dolgellau.

Mae bwyd yn rhan annatod o'r Ŵyl ac ar Nos Iau 19 Rhagfyr (9.30), cawn wledd arbennig o helgig tymhorol, lleol, mewn pennod Nadoligaidd o Bwyd Epic Chris. Ar y fwydlen yn y bennod hon bydd cig carw blasus, hwyaid wedi ei rhostio ac empanadas wiwer.

Yna ar nos Sadwrn 21 Rhagfyr, Ifan Pritchard o'r grŵp Gwilym sy'n dathlu'r Nadolig ar lwyfan y Noson Lawen yng nghwmni talentau ifanc gorau Cymru.

Ar Noson Lawen: Nadolig yr Ifanc (8.00) bydd cyfle i rai o gantorion a cherddorion mwyaf addawol y genedl i serennu, gan gynnwys Elan Catrin Parry, Manw Lili Robin, Lewys, Côr Ysgol Gerdd Ceredigion, Parti Bechgyn Iau Ysgol Plasmawr, Owain Siôn, Jada a Casey Lane, Mared Jeffery a Leusa, Rhyddid a Brython Trystan.

Ar yr un noson, byddwn yn eich gwahodd i ymuno â ni ym Mharti 'Dolig Maggi Noggi (9.00). Os oes rhywun yn siŵr o ddod â thipyn o glits a glam i'r Ŵyl, y foneddiges liwgar a doniol Maggi Noggi yw honno!

Gyda'i hiwmor di-flewyn-ar-dafod, bydd rhai o'i ffrindiau a llond dwrn o sêr adnabyddus Cymru yn ymuno â Maggi mewn parti mawr yn ei ffermdy ar Sir Fôn. Ymysg ei gwesteion bydd y gantores Elin Fflur, y cyflwynwyr Alun Williams ac Ifan Jones Evans a'r Prifardd Gruffydd Owen. Bydd criw o Ferched y Wawr y Fali, a Chlwb Rygbi Llangefni hefyd yn ymuno yn yr hwyl.

Does yr un Nadolig yn gyflawn heb berfformiad o ddrama'r geni, a bydd fersiwn go wahanol i'w gweld yn y rhaglen, gyda help llaw y cantorion Steffan Lloyd Owen, Catrin Angharad Jones, Hogia Bodwrog a'r Dwbi Dŵs!

Cofio Dolig Teulu Ni (22 Rhagfyr, 8.00)

Ar nos Sul 22 Rhagfyr, bydd cyfle i hel atgofion melys o 'Ddolig eich plentyndod gyda'r rhaglen Cofio Dolig Teulu Ni (8.00). Cawn daith drwy amser i weld sut byddai dau deulu wedi dathlu'r Ŵyl mewn dau gyfnod gwahanol.

O'r anrhegion i'r addurniadau - o'r sgrin deledu i'r bwyd, dros y can mlynedd diwethaf, mae'r ffordd rydyn ni dathlu'r Nadolig yng Nghymru wedi ei drawsnewid yn llwyr. Dyma gyfle i deuluoedd ail-ymweld ag un diwrnod Dolig yn hanes eu teulu nhw. Yn y rhaglen hon, fydd dau deulu yn ail-greu Nadolig arbennig o'i hanes teuluol - un teulu yn mynd nôl i 1961 a'r llall i 1984.

Eleni, bydd cyngerdd mawreddog Carolau Llandudno (9.30) yn dathlu 25 mlynedd ers iddo gael ei sefydlu, ac unwaith eto, bydd camerâu S4C yn Venue Cymru i ddangos yr holl berfformiadau i'r gwylwyr gartref. Mae'r noson hon, sy'n llawn cân ac adloniant yn un o brif atyniadau'r sianel dros gyfnod y Nadolig, ac eleni bydd Carolau Llandudno yn cael ei ddangos ar nos Lun 23 Rhagfyr.

Ymysg y perfformwyr eleni mae: Casi Wyn; Aled Hall; Erin Mai Grove, cynrychiolydd Cymru yng nghystadleuaeth Junior Eurovision eleni; Y Minis, grŵp mae Lloyd Macey wedi gymryd dan ei adain ers iddynt ymddangos yn y gyfres Chwilio am Seren Junior Eurovision; Côr Ieuenctid a Chôr Plant Môn; a Lili Mair, cantores ifanc sydd wedi serennu ar gyfryngau cymdeithasol yn ddiweddar gyda'i pherfformiad o'r gân 'Annwyl Santa Clôs'.

Mewn rhifyn arbennig Nadoligaidd o'r gyfres Adre (8.25), sy'n cael ei dangos ar nos Lun 23 Rhagfyr, Nia Parry sy'n cael y pleser o fusnesa yn nhai tri o bobl sy'n mynd dros ben llestri wrth addurno ar gyfer yr ŵyl. Yn wahanol i'r arfer, nid tai enwogion fydd yn cael sylw Nia, ond tri person sy'n dwlu ar y Nadolig.

Bydd Nia yn ymweld â David Easton o Dremeirchion sydd gyda 60 coeden Nadolig yn ei dŷ. Yna, cawn weld tŷ yn Llangefni sydd wedi ei addurno gyda dros 1,000 o baubles, 7,000 o fylbiau a golygfa'r geni, sy'n cynnwys Mair, Joseff a'r tri gŵr doeth yn y sied. I orffen, bydd Nia yn cael ei gwahodd i gartref Tesni Walker ym Mhorthmadog. Bob blwyddyn, mae hi a'i phlant yn addurno'r tŷ gyda llwyth o oleuadau ac yn cynnal seremoni arbennig bob blwyddyn i droi'r goleuadau ymlaen er cof am ei thad.

Yng nghanol holl gyffro noswyl Nadolig bydd gystadleuaeth gerddorol gyfarwydd. Bydd y ciwt ffactor yn amlwg wrth i blant ysgolion cynradd ganu carolau gwreiddiol gan obeithio ennill teitl - Carol yr Ŵyl (9.00).

Nadolig Deian a Loli (24 Rhagfyr, 6.05)

Hefyd, bydd cyfle i blant eistedd i lawr ac ymgolli mewn i fyd hudolus, gyda'r ffilm Nadolig Deian a Loli (6.05). Gydag un diwrnod ar ôl tan y diwrnod mawr, mae'r brawd a chwaer yn rhedeg o gwmpas fel pethau gwyllt gan achosi llanast llwyr!

Ond mae 'na lygaid bach craff yn eu gwylio o'r grisiau - Celyn a Thelyn, coblynnod Sîon Corn! Rhaid mynd ar wib i Begwn y Gogledd i geisio atal y coblynnod rhag dweud y cyfan wrth Mr. Corn - dyma ffilm i'r teulu oll!

Hefyd ar Noswyl y Nadolig byddwn ni'n cael cwmni Emma Walford a Trystan Ellis-Morris ar gyfer rhifyn Nadoligaidd o'r gyfres boblogaidd Prosiect Pum Mil (8.00).

Y tro yma, criw o Gaernarfon sydd yn gofyn am help i drawsnewid hen siop yn hwb cymunedol i oedolion gydag anawsterau dysgu gael lle i arddangos y crefftau maen nhw'n creu ac i gymdeithasu hefo pobl y dref. Ond, a fydd y siop yn barod erbyn y Nadolig? Ac a fydd Trystan ac Emma yn gallu cadw cost yr holl brosiect o dan bum mil o bunnoedd?

Ar y diwrnod mawr, byddwn ni'n croesawu un o ŵyr doethaf S4C i'r sgrin wrth i ni ddarlledu rhaglen Nadolig Cefn Gwlad (9.00).

Ar ôl blynyddoedd o ddilyn corau meibion, mae Dai Llanilar eleni yn cael ei ddenu gan sŵn cynnes offerynnau pres Seindorf Arian Crwbin, band sy'n clymu'r cenedlaethau ac sy'n galon cymuned y pentref bach rhwng Llangyndeyrn a Bancffosfelen, ers ei sefydlu nôl ym 1891. Cawn ddilyn y cymeriadau wrth iddynt baratoi at eu Cyngerdd Nadolig blynyddol yn Neuadd y Gwendraeth, Drefach.

Bydd un o sêr disgleiriaf rygbi Cymru yn ôl i ddiddanu'r teulu cyfan ar noson Nadolig hefyd - ond nid drwy sgorio ceisiau. Ddwy flynedd yn ôl, fe dderbyniodd Shane Williams un o'i sialensau mwyaf, sef camu o'r cae i lwyfan y theatr a chymryd rhan mewn sioe panto.

I brofi ei hun unwaith eto, mae'n camu i'r llwyfan am yr ail dro i gymryd rhan yn Shane a'r Bont Hud (6.30), panto sydd wedi ei sgwennu gan Tudur Owen.

Shane a'r Bont Hud (Diwrnod Nadolig, 6.30)

Yn ymuno â Shane mae cast o gymeriadau lliwgar gan gynnwys Tara Bethan, Scott Quinnell, Ieuan Rhys, Rhianna Loren, Rhys ap Wiliam ac ambell i syrpreis ychwanegol.

Bydd sawl wyneb cyfarwydd o'r byd rygbi yn ymddangos ar y llwyfan yn ogystal, felly cadwch lygaid allan am ymddangosiadau cameo gan chwaraewyr Cymru, James Hook, Scott Williams, Gareth Davies, Wyn Jones a Dan Lydiate.

Ar noson San Steffan, a gyda'r tân yn dal i ruo, cewch fwynhau pennod gyntaf y gyfres boblogaidd Gwesty Aduniad (8.00). Mae pob unigolyn sy'n dod i'r gwesty hwn yng nghefn gwlad Cymru gydag un amcan penodol: i gyfarfod rhywun o'u gorffennol.

Trwy'r dagrau a'r chwerthin, dilynwn bob aduniad gam wrth gam wrth i westeion Gwesty Aduniad wneud cysylltiadau o'r newydd, gofyn cwestiynau, a chael atebion. Mae Neil Pearson o'r Rhyl yn chwilio am wybodaeth am y fam roddodd o i'w fabwysiadu yn fabi. Fydd gan Gwesty Aduniad atebion iddo?

Ac wrth gwrs, bydd digon o chwaraeon i'w fwynhau drwy gydol cyfnod y Nadolig a'r Flwyddyn Newydd, gyda gemau rygbi darbi Cymru yn y Guinness PRO14 ac Uwch Gynghrair Indigo Group ar Clwb Rygbi (2.45), tra bod criw Sgorio (5.00) yn darlledu gemau pêl droed byw o'r JD Cymru Premier.

Ymysg uchafbwyntiau'r cyfnod bydd y gêm rygbi fyw rhwng y Dreigiau a'r Scarlets ar ddydd Sadwrn 21 Rhagfyr, Dreigiau v Gleision Caerdydd ar Ddiwrnod San Steffan, a'r gêm bêl droed rhwng Caernarfon a'r Bala yr un diwrnod.

Yn ogystal â hynny, bydd rhaglenni arbennig yn edrych dros lwyddiannau helaeth timoedd Cymru yn y byd rygbi a phêl droed dros 2019, yn y rhaglenni Rygbi Cymru 2019 (8.00), ar nos Sul 29 Rhagfyr, a Cymru a'r Wal Goch (7.00), gaiff ei ddarlledu ar ddydd Calan.

Ac os nad ydych chi wedi gor-stwffio ar ddanteithion yr Ŵyl, cofiwch hefyd bod llond hosan o Focs Sets ar gael i'w wylio unrhyw bryd ar S4C Clic, ar unrhyw ddyfais.

Ymysg yr uchafbwyntiau Nadoligaidd bydd cyfle i fwynhau'r clasur o ffilm Y Dyn Wnaeth Ddwyn y Dolig, rhifyn arbennig o Nadolig Hoffwn i o 1993, sy'n cynnwys Mici Plwm, a'r gyfres Hapus Dyrfa, yn ogystal a bocs sets o gyfresi mwy diweddar, gan gynnwys Pili Pala, Amdani, Gwaith/Cartref, Teulu, ac o Rhagfyr 22 ymlaen, yr ail gyfres o Craith.

Gan bawb o S4C – Nadolig Llawen a Blwyddyn Newydd Dda i chi.

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?