S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

​Naw enwebiad i S4C yng ngwobrau RTS Cymru

3 Chwefror 2020

Mae S4C wedi llwyddo i gael naw o enwebiadau yng Ngwobrau RTS Cymru 2020 wrth i'r rhestr gael ei gyhoeddi ddydd Llun 3 Chwefror.

Mae tair o raglenni ffeithiol y sianel wedi hawlio'u lle yng nghategori Rhaglen Materion Cyfoes Orau, sef Y Byd ar Bedwar (ITV Cymru), Newid Hinsawdd, Newid Byd (Teledu Tinopolis Cymru ar gyfer S4C) ac Ein Byd (ITV Cymru).

Yn y categori Rhaglen Blant Orau mae dwy o raglenni poblogaidd y sianel i blant; Deian a Loli (Cwmni Da), cyfres am efeilliaid direidus a'u pwerau hudol, a Prosiect Z (Boom Cymru)a chyfres gwis lle mae gofyn i dimau o blant ddatrys posau a phroblemau er mwyn dianc rhag zombies.

Enwebwyd y gyfres ddrama ffraeth a thywyll Merched Parchus (Ie Ie) am y Ddrama Orau ac mae Mari Beard a Hannah Jarman, y ddwy sydd wedi ysgrifennu'r ddrama, yn ogystal ag actio ynddi yn y categori Torri Trwodd.

Hanes dwy fenyw a'r effaith mae un penderfyniad meddygol yn cael ar eu bywydau a'u teuluoedd yw'r ddrama ddirdynnol Pili Pala (Triongl), ac mae'r ddrama bwerus hon hefyd wedi'i henwebu yn y categori Drama Orau.

Wedi ei henwebu am y rhaglen ffeithiol orau mai Priodas Pum Mil (Boom Cymru), cyfres hwyliog lle mae'r cyflwynwyr Emma Walford a Trystan Elis Morris yn dilyn cyplau sy'n priodi wrth i'w teulu a'u ffrindiau geisio trefnu'r briodas am £5,000.

Mae Amanda Rees, Cyfarwyddwr Cynnwys S4C yn llongyfarch pawb sydd wedi derbyn enwebiad;

Meddai Amanda Rees; "Mae hi wedi bod yn flwyddyn o gynhyrchu cynnwys rhagorol ac fe hoffwn longyfarch y cwmnïau cynhyrchu annibynnol yn ogystal â ITV Cymru am ei holl enwebiadau.

"Mae'r llwyddiant yn destament i'r cynnwys amrywiol a safonol sy'n cael ei gynhyrchu. Dymuniadau gorau i bawb yn y seremoni wobrwyo."

Bydd yr enillwyr yn cael eu cyhoeddi mewn seremoni ddydd Iau, 27 Chwefror yn Cineworld Caerdydd.

Bydd gwobrau hefyd yn anrhydeddu myfyrwyr hirsefydlog a bydd S4C yn noddi'r wobr ffurf-fer ar gyfer y myfyrwyr.

Y rhestr lawn o enwebiadau yw:

DRAMA ORAU

PILI PALA (Triongl)

DRAMA ORAU

MERCHED PARCHUS (Ie Ie)

RHAGLEN FFEITHIOL ORAU

PRIODAS PUM MIL (Boom Cymru)

RHAGLEN BLANT ORAU

DEIAN A LOLI (Cwmni Da)

RHAGLEN BLANT ORAU

PROJECT Z

RHAGLEN MATERION CYFOES ORAU

Y BYD AR BEDWAR (ITV Cymru)

RHAGLEN MATERION CYFOES ORAU

EIN BYD (ITV Cymru)

RHAGLEN MATERION CYFOES ORAU

NEWID HINSAWDD, NEWID BYD (Teledu Tinopolis Cymru ar gyfer S4C)

TORRI TRWODD

MARI BEARD A HANNAH JARMAN (Merched Parchus – Ie Ie)

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?