S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

Cân i Gymru yn nôl, nôl, nôl

17 Chwefror 2020

Mae hi bron yr amser o'r flwyddyn ble y gall pobl Cymru ddod at ei gilydd i ddathlu diwylliant Cymraeg ac ymfalchïo yn eu Cymreictod. Ydi, mae Cân i Gymru 2020 yn agosáu.

Gyda Elin Fflur a Trystan Ellis-Morris yn cyflwyno, caiff y gystadleuaeth ei darlledu'n fyw ar S4C o Ganolfan y Celfyddydau yn Aberystwyth ar 29 Chwefror am 8.00.

Meddai Siôn Llwyd o gwmni Avanti, sy'n cynhyrchu'r rhaglen ar gyfer S4C:

"Mae'r panel eleni, sef; Bryn Fôn, Georgia Ruth, Ani Glass ac Owain Roberts wedi dewis wyth can wych.

"Ond yn ogystal â chael mwynhau y caneuon gwreiddiol, newydd sbon yma, bydd Bryn Fôn yn mynd â ni nôl i'r nawdegau gyda perfformiad arbennig o Gwlad yr Rasda Gwyn i nodi ei bod hi'n dri deg blwyddyn ers i'r gân gipio tlws Cân i Gymru.

Dywedodd Bryn: "Ma'n ryfeddol meddwl fod deg mlynedd ar hugain wedi mynd heibio ers i Rasda fynd â hi. Mi fydd hi'n braf camu i'r llwyfan heb y pwysa o gystadlu.

"Dwi newydd ffeindio toriadau o hen bapurau newydd oedd fy Mam wedi cadw. Digwydd bod roedd two-page spread am Cân i Gymru 1990 yn rhestru pawb ath trwyddo. Diddorol iawn gan mod i wedi anghofio pwy arall oedd yn cystadlu.

"Wedi'i rhestru oedd Eryr Wen, Gareth Morlais a dwy ferch o Pen-Llyn. Ar y pryd, doedd gen i ddim syniad y bysa un o'r merchaid hynny yn dod i ganu gyda Sobin a'r Smaeliaid ychydig yn ddiweddarach.

"Roedd hi'n dipyn o dâsg dewis wyth cân gan fod lot o geisiadau da. Mae'r pedwar ohonom yn cynrychioli gwahanol fathau o gerddoriaeth, felly dwi'n credu fod dipyn o drawsdoriad.

"Mae na amrywiaeth da, rhywbeth i bawb. Fydd hi'n gystadleuaeth agos iawn dwi'm yn ama gan fod sawl cân yn sefyll allan."

Yr wyth cân sy'n cystadlu am wobr o £5,000 a'r cyfle i gynrychioli Cymru yn yr Ŵyl Ban-geltaidd eleni yw: Arianrhod gan Beth Celyn; Adref yn ôl gan Tesni Jones; Sara Williams, Roo Walker; Dawnsio'n Rhydd gan Ben Hamer a Rhianna Loren; Pan Fyddai'n 80 Oed gan Rhydian Meilir; Morfa Madryn gan Alistair James; Y Tir a'r Môr gan Rhydian Meilir; Cyn i'r Llenni Gau gan Gruffydd Wyn a Tim Goodacre ac Anochel gan Aled Mills.

Ymhlith yr wyth act bydd sawl wyneb cyfarwydd gyda rhai eisoes wedi cystadlu ac ambell un wedi ymddangos ar Britain's Got Talent a The Voice.

Efallai y bydd rhai o'r caneuon yn gyfarwydd hefyd gan fod BBC Radio Cymru am eu chwarae ac rhoi cyfle cynnar i wrando.

Mae Siôn am eich atgoffa fod ffawd y cystadleuwyr yn eich dwylo chi. "Cofiwch godi'r ffôn a pleidleisio. Neu pam ddim bod yn ran o'r gynulleidfa ar y noson?

"Ma'n rhad ac am ddim, yr oll sydd angen gwneud yw cysylltu â swyddfa docynnau Canolfan y Celfyddydau ar 01970 623232."

Os ydych chi am drydar am y gystadleuaeth eleni, cofiwch ddefnyddio'r hashnod #CiG2020.

Bydd manylion am sut i bleidleisio yn cael eu cyhoeddi ar y rhaglen, a'r gân fuddugol yn cael ei chyhoeddi yn fyw ar S4C yn hwyrach yn y noson.

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?