S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

Dathlu Diwrnod y Llyfr ar S4C Clic

4 Mawrth 2020

I ddathlu Diwrnod y Llyfr (dydd Iau 5 Mawrth), bydd S4C Clic yn dangos tair ffilm sy'n seiliedig ar addasiadau llyfrau.

Y ffilmiau yw; Martha, Jac a Sianco, Sigaret? a Dirgelwch yr Ogof.

Ffilm bwerus, ddramatig o 2008 yw Martha, Jac a Sianco, sy'n olrhain blwyddyn ym mywyd y ddau frawd a chwaer ar y fferm deuluol, Graig Ddu.

Mae'r ffilm yn seiliedig ar y nofel lwyddiannus gan Caryl Lewis ac mae'r cast yn cynnwys Sharon Morgan, Ifan Huw Dafydd a Geraint Lewis.

Morfudd Hughes, Eryl Phillips, John Ogwen a Marged Esli sy'n chwarae'r prif rannau yn Sigaret, sef addasiad grymus o Gymerwch chi Sigaret? gan Saunders Lewis.

Wedi'i seilio ar nofel T. Llew Jones o'r un enw, mae Dirgelwch yr Ogof wedi'i gosod yn yr 18fed ganrif ym myd smyglwyr Cwmtydu.

Ymysg cast y ffilm anturus hon mae Mali Harris, Huw Rhys, Lowri Steffan a William Thomas.

Bydd y ffilmiau ar gael am amser cyfyngedig, felly ewch draw i adran Bocs Set S4C Clic i'w gwylio cyn iddynt ddiflannu.

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?