S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

Dosbarth meistr arbennig i 15 o awduron Cymraeg

26 Mai 2020

Mae pymtheg o awduron Cymraeg wedi cael eu dewis i gymryd rhan mewn dosbarthiadau meistr gyda John Yorke – arbenigwr ym maes ysgrifennu drama – diolch i bartneriaeth hyfforddiant S4C a TAC (Teledwyr Annibynnol Cymru).

Bydd y pymtheg, sydd yn cynnwys awduron newydd a rhai mwy profiadol, yn cael cyfle unigryw i ddatblygu eu sgiliau yng nghwmni John Yorke.

Mae John Yorke yn gyn-bennaeth drama Channel Four, yn gyn-reolwr Drama yn y BBC ac yn Rheolwr Gyfarwyddwr Company Pictures. Bu'n gyfrifol am rai o gyfresi teledu mwyaf poblogaidd y blynyddoedd diwethaf megis Life on Mars, EastEnders a Holby City.

Gyda'ibrofiad helaeth yn y maes drama teledu, mae John yn cael ei ystyried fel un o'r prif arbenigwyr y DU ym maes strwythuro straeon i deledu a ffilm.

Yn dechrau yfory (dydd Mercher 27 Mai), bydd dwy sesiwn gyda John Yorke dros gyfnod o bythefnos. Bydd sesiwn bellach gan y cynhyrchydd drama profiadol Gethin Scourfield yn trafod y broses o gynhyrchu drama yn Gymraeg yn dilyn bythefnos wedi hynny.

Bydd cyfle i bawb gydweithio mewn grwpiau, darparu adborth i'w gilydd mewn fforwm preifat, ac yna bydd dau fis o fynediad i wefan John Yorke Stories, lle gall yr awduron wneud y mwyaf o'r deunyddiau dysgu, trafodaethau a nodiadau tiwtoriaid sydd ar gael ar ôl i'r gweithdai ddod i ben.

Bydd y dosbarth meistr yn cael ei gynnal ar-lein, sy'n cynnig cyfleoedd i'r cyfranwyr o bob cwr o Gymru i gwrdd a thrafod eu syniadau yn ogystal â chysylltu â John a'i dîm.

Meddai Luned Whelan, Rheolydd Gweithredol TAC: "Mae trefnu dosbarth o'r fath o dan arweiniad meistr ar ei grefft fel John Yorke yn gaffaeliad i gynllun hyfforddiant TAC ac S4C. Mae gwerthfawrogiad yr awduron o'r cyfle wedi bod yn hynod galonogol, ac mae'n argoeli'n dda ar gyfer dyfodol doniau sgriptio rhaglenni drama a drama ddogfen o safon uchel. Mi fydd hyn yn atgyfnerthu enw da S4C yn y meysydd hyn, ac yn darparu rhagor o raglenni wrth fodd y gynulleidfa sy'n gwylio gartref.ˮ

Bu Gwenllian Gravelle Comisiynydd Drama S4C a Llinos Wynne, Comisiynydd Ffeithiol S4C, yn rhan o'r panel dethol. Dywedodd Gwenllian: "Mae'r diwydiant darlledu yn mynd drwy gyfnod anodd iawn, felly mae'n falch iawn gennym fod S4C a TAC wedi gallu cydweithio i gynnig y cwrs arbennig hwn. Mae'n bwysig fod y broses greadigol yn parhau ac yn datblygu yn ystod yr amser heriol hwn."

"Mae datblygu awduron yn flaenoriaeth i S4C. Mae John Yorke yn uchel iawn ei barch ac mae'r dosbarthiadau meistr yn rhoi cyfle unigryw i'n talentau yng Nghymru ddatblygu a mireinio eu sgiliau. Nid yw cyfleoedd fel hyn yn digwydd yn aml iawn."

Mae dosbarthiadau meistr John Yorke wedi eu hariannu gan bartneriaeth hyfforddiant S4C a TAC. Daeth pedwar o'r cyfranwyr drwy gynllun grŵp awduron theatr newydd Theatr Genedlaethol Cymru, sy'n cael ei gefnogi gan S4C.

DIWEDD

NODIADAU I'R GOLYGYDD:

TAC ydy llais y sector cynhyrchu teledu annibynnol yng Nghymru. Mae ei aelodau'n cynhyrchu rhaglenni teledu, sain ac ar-lein ar gyfer ystod eang o ddarlledwyr a sefydliadau eraill yng Nghymru, ledled y Deyrnas Unedig ac yn rhyngwladol. Am fwy o fanylion am TAC, ewch i'r wefan www.tac.cymru.

Am fwy o fanylion am John Yorke, ewch i'r wefan www.johnyorkestory.com.

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?