S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

Dewch i ddarganfod rhyfeddodau’r nos

16 Mehefin 2020

Paratowch i gael eich syfrdanu! Bydd rhaglen fyw arbennig yn dod i S4C y penwythnos yma sydd yn addo rhoi golwg unigryw o'r ryfeddodau sydd i'w gweld yn y wybren dywyll uwchben Cymru.

Bydd Gwylio'r Sêr yn Fyw yn cael ei darlledu'n fyw ar ddydd Gwener, 19 Mehefin am 9.30 yr hwyr ac yn mynd â ni ar daith anhygoel trwy'r byd dirgel uwch ein pennau.

Diolch i'r cyfoeth o leoliadau anghysbell arfordirol a gwledig, mae Cymru yn gartref i fwy o gronfeydd awyr tywyll nag unrhyw wlad arall yn y byd ac yn cynnig golygfeydd heb eu hail o'r sêr, planedau a chytser ein bydysawd.

Bydd Gwylio'r Sêr yn Fyw yn cael ei gyflwyno gan y gohebydd Radio 1 Steffan Powell a'r ffisegydd Dr Peri Vaughan Jones ac fe fydd tîm o arbenigwyr yn ymuno gyda nhw er mwyn rhoi cyngor ac arweiniad ar beth y gallwn weld yn ein hawyr a'r ffordd gorau i'w gweld.

Yn ôl Peri, mae Gwylio'r Sêr yn Fyw yn sioe sy'n addas i'r teulu cyfan ac wedi cael ei hanelu at y rheiny sydd ddim yn gyfarwydd iawn â seryddiaeth ond sydd â diddordeb mewn sêr, planedau, lloer a rhyfeddodau eraill o'r byd uwch ein pennau.

"Dyna ydi brif bwrpas y sioe," meddai Peri, "i ddangos bod unrhyw berson yn gallu mynd allan i'w gardd ac edrych fyny ar awyr y nos a gweld rhyfeddodau'r gofod uwch eu pennau - byddwch yn barod i gael eich syfrdanu!

"Mae sêr, planedau, a phob math o wrthrychau'r gofod o'n cwmpas ni trwy'r adeg, yn enwedig yma yn Nghymru! A gyda bron dim offer, mae o'n bosib gweld pethau anhygoel yn awyr y nos."

Mae'r arbenigwyr sy'n ymuno â Peri a Steffan ar y noson yn cynnwys Dr Gwenllian Williams sydd yn arbenigo mewn ymchwil i greadigaeth sêr, Dr Rhys Morris sydd wedi bod yn astudio marwolaeth sêr, Gareth Jones (Gaz Top) - un o wybodusion mwyaf am y ras i'r gofod yn y 60au a thywysydd Awyr Tywyll Cymreig Dafydd Wyn Morgan neu Twm Siôn Cati fel mae'n cael ei adnabod.

Byddwn yn clywed hefyd gan Dr Dafydd Williams, y gofodwr o Ganada gydag etifeddiaeth Gymreig, a theithiodd ar y Space Shuttle yn y 90au hwyr a mynd a baner y Ddraig Goch a thedi Mistar Urdd gyda fe. Fe oedd y cyntaf i siarad Cymraeg yn y gofod.

Trwy ddefnyddio technoleg a chamerâu telesgopig, bydd Steffan, Peri a'r arbenigwyr yn ein tywys ar daith trwy awyr y nos, yn dechrau gyda'r haul a'r lleuad ac ymlaen at blanedau a phatrymau nefol eraill sydd i'w gweld yr adeg hon o'r flwyddyn.

Mae Peri sy'n wreiddiol o Landwrog yng ngogledd Cymru wedi bod â diddordeb mewn gwyddoniaeth ers yn ferch fach. Astudiodd hi ffiseg ym Mhrifysgol Caerdydd a nawr yn dwrnai patent, yn helpu pobl i amddiffyn a datblygu eu dyfeisiau.

"Bues i'n lwcus iawn i dyfu fyny gydag awyr y nos yn llawn o sêr, planedau a gwrthrychau difyr. O oedran ifanc iawn, mae dad wedi bod â diddordeb mewn seryddiaeth, ac wedi ei drosglwyddo i mi pan oeddwn i'n blentyn ifanc," meddai Peri.

"Dwi'n cofio nosweithia' oer tywyll ar ôl ysgol, pan oedd dad yn dangos i mi'r holl ryfeddodau o'r awyr y nos. Yn 1999 mi aeth mam, dad a finna lawr i Devon i weld y Total Solar Eclipse. Ond yn anffodus, mi ddaeth y cymylau drosodd fel ein bod ni ddim yn gallu gweld y ffenomenon."

Ond yn ffodus iawn, yn Awst 2017 eshi efo fy nhad a'm mrawd i America i weld y Great American Eclipse. Ar ôl misoedd o gynllunio, ddoth popeth at ei gilydd yn berffaith ac mi welsom yr haul yn cael ei guddio gan y lleuad am fwy 'na dau funud. Mi oedd o'n arbennig iawn!"

Oes gennych chi unrhyw straeon arbennig am yr awyr nos uwchben Cymru? Os felly, hoffai cynhyrchwyr y rhaglen Gwylio'r Sêr yn Fyw glywed wrthoch chi. Efallai eich bod chi wedi cael profiad bythgofiadwy yn gwylio'r sêr neu efallai bod stori emosiynol gennych chi am yr awyr yn y nos. Efallai bod cynlluniau cyfrinachol am sypreis o dan y sêr. Rydym ni eisiau clywed gennych chi.

Rhannwch eich straeon trwy anfon e-bost at gwyliorserynfyw@avantimedia.tv yn cynnwys eich rhif ffôn, yr ardal lle yr ydych yn byw ac esboniad yn fras, o'ch stori.

Am fwy o wybodaeth ewch at … s4c.cymru/gwyliorserynfyw neutwitter.com/avantitv, instagram.com/avantimedia/ neu facebook.com/AvantiMediaLTD/

Bydd y rhaglen hon yn cael ei gwneud o dan ganllawiau cyfredol y llywodraeth.

Gwylio'r Sêr yn Fyw Dydd Gwener 19 Mehefin 9.30, S4C Isdeitlau Saesneg Ar alw: S4C Clic, iPlayer a llwyfannau eraill Cynhyrchiad Avanti ar gyfer S4C

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?