S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

Yr Eisteddfod ar S4C - beth sydd ‘mlaen â phryd?

27 Gorffennaf 2020

Mae wythnos gyntaf mis Awst yn un brysur i Gymry benbaladr bob blwyddyn ac roedd mis Awst 2020 yn addo bod yn flwyddyn fawr i Dregaron.

Ond gyda digwyddiadau lu eisoes wedi'u canslo eleni, bu'r siom na allai'r Eisteddfod Genedlaethol ymweld â Thregaron i'w deimlo trwy Gymru gyfan.

Mae S4C yn falch felly o gynnig amserlen gyffrous llawn adloniant amrywiol i lenwi'r bwlch yn ein bywydau.

"Y bwriad, ar y cyd â'r Eisteddfod, yw cynnig cynnwys i unrhyw Eisteddfodwr sy'n teimlo'r golled o beidio gallu ymweld â'r maes eleni.

"Bydd cymysgedd o raglenni newydd â ffefrynnau o'r archif i sicrhau bod rhywbeth i bawb gael blas a thamaid o'r 'Steddfod waeth beth sy'n mynd â'ch bryd" meddai Elen Rhys, Comisiynydd Adloniant S4C.

"Bob nos, bydd cynnwys newydd sy'n mynd â ni o'r Babell Lên i Maes B, y gorau o'r Pafiliwn i straeon y bobol. Beth bynnag fo'r 'Steddfod i chi, mi gewch rhyw ddôs ohoni ar S4C.

"I goroni'r holl beth, ar nos Sadwrn 7 Awst, bydd Sioe yr Eisteddfod Goll - dathliad aml-genre sy'n dathlu'r gorau o'r Ŵyl.

"Efallai na fydd Pafiliwn a Bar Gwyrdd ond mae yno wledd a sedd yn eich disgwyl ar nos Sadwrn ola'r Ŵyl am gig orau'r flwyddyn.

"Daw sêr ein cenedl ynghyd i ddathlu, i ddiddanu ac i ddiolch mewn blwyddyn digynsail gyda phob perfformiad yn cyfleu ysbryd y cyfnod rhyfeddol hwn."

Meddai'r cerddor Robat Arwyn, "Braf eithriadol yw gweld cerddorion a chyfansoddwyr yn dod ynghyd i greu rhywbeth sbeshial wedi cyfnod mor llwm i'r celfyddydau, a dwi'n edrych ymlaen yn arw i glywed Syr Bryn Terfel, Mared Williams ac Elain Llwyd yn perfformio rhai o 'nghaneuon i unwaith eto!".

Hefyd yn perfformio y bydd Al Lewis, "Mae'r ffaith bod ni methu dod at ein gilydd fel cenedl 'leni wedi bod yn siom enfawr i bawb dwi'n siwr, ond gyda 2021 ar y gorwel ma'r cyfle i wneud y cyngerdd yma yn gyfle gwych i ddathlu a diddanu.

"Yn bersonol, mae'n gyfle i ail-gysylltu unwaith eto efo cynulleidfa frwdfrydig a chynnes yr Eisteddfod a fydd yn gwylio o adre tro ma. Tan flwyddyn nesa….!".

Cyn hynny wrth gwrs, bydd wythnos lawn dop o adloniant.

I ddathlu carreg filltir hynod bwysig, ar y nos Lun, bydd y bardd Ifor ap Glyn yn hel atgofion am hanes lliwgar y Babell Lên yn y rhaglen Canrif o'r Babell Lên. Yna, ar y nos Fawrth Tudur Owen fydd yn rhannu ei brofiadau ef o'r Eisteddfod yn Tudur Owen ar ei Orsedd.

Bydd noson lawn o gerddoriaeth nos Fercher, yn dechrau gyda Lleisiau'r Eisteddfod gyda Bryn Terfel.

Bydd Syr Bryn yn edrych yn ôl ar gystadlaethau canu unigol fel Gwobr Goffa Osborne Roberts, Gwobr Goffa David Ellis (Y Rhuban Glas) ac ysgoloriaeth W Towyn Roberts wrth rannu ei brofiad ef o ennill.

Yna, amser i griw Maes B godi llais wrth i'r bandiau ddylai fod wedi perfformio yn fyw gael gwneud sŵn ar Maes B o Bell.

Yna, am 10.30, bydd pennod arbennig o Ochr 1 fydd yn gyfle i ffans Yws Gwynedd weld uchafbwyntiau gig Eisteddfod Ynys Môn yn 2017.

Bydd Clasuron y Sioeau Cerdd ar y nos Iau yn cynnig cyfle i brofi rhai o sioeau cerdd eiconig yr Eisteddfod ar hyd y degawdau.

Bydd yn gyfle i glywed o lygaid y ffynnon y straeon anhygoel y tu ôl i sioeau nostalgic fel Nia Ben Aur.

Yno, ar y nos Wener, Tara Bethan sy'n tywys taith o amgylch y Maes rhithiol gan ddod ag holl uchafbwyntiau'r Ŵyl i'ch cartref.

Meddai Prif Weithredwr yr Eisteddfod, Betsan Moses, "Mae hon wedi bod yn flwyddyn wahanol iawn i ni fel Eisteddfod, fel i bawb arall, ond roedden ni'n benderfynol o sicrhau bod pobl yn gallu cael rhyw fath o brofiad Eisteddfodol, a thrwy weithio gyda phartneriaid fel S4C, ry'n ni wedi llwyddo i wireddu hyn!

"Yn ogystal â'r arlwy ar-sgrin, ry'n ni'n cynnal tua phum cant o weithgareddau eraill ar draws nifer o blatfformau, gan gynnwys ein gwefan, sianel YouTube a'r cyfryngau cymdeithasol. Ac yn wahanol i Eisteddfod 'arferol', bydd modd gwylio a gwrando'n ôl, yn hytrach na charlamu ar draws y Maes o le i le.

Felly, gallwch bicio o'r Babell Lên i'r Theatr a draw i'r Lle Celf, heb orfod gadael y soffa!

"Ry'n ni'n ddiolchgar iawn i bawb sydd wedi ein cefnogi ni hyd yn hyn, a gobeithio y bydd y gynulleidfa'n cael blas ar yr arlwy yn ystod yr wythnos."

Mae mwy o wybodaeth am yr holl raglenni fydd ar S4C yn ystod yr wythnos ar ein tudalen Eisteddfod Genedlaethol.


Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?