S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

​Ioan Pollard yw Golygydd Newyddion Digidol cyntaf S4C

30 Hydref 2020

Mae S4C yn falch o gyhoeddi fod Ioan Pollard wedi ei benodi i swydd Golygydd Newyddion Digidol S4C.

Mae Ioan wedi treulio rhan helaeth o'i yrfa yn gweithio i BBC Cymru fel newyddiadurwr gan ddatblygu gwasanaethau digidol a chyfryngau cymdeithasol o fewn y BBC.

Bu hefyd yn rhan o'r tîm a lansiodd wasanaeth newyddion BBC Cymru Fyw.

Yn wreiddiol o Ddyffryn Nantlle, aeth i Brifysgol Cymru Bangor i astudio'r Gyfraith, cyn symud ymlaen i weithio ym maes newyddiaduraeth.

"Dwi wrth fy modd o gael y cyfle i arwain y gwasanaeth newydd cyffrous hwn." meddai Ioan

"Dwi'n gobeithio gosod cyfeiriad clir i'r gwasanaeth i sicrhau ein bod yn cyhoeddi straeon o safon ac yn cyrraedd cynulleidfaoedd eang.

"Mae na fwlch gwirioneddol am wasanaeth newyddion digidol newydd, sy'n cyfuno fideo a thestun i gyhoeddi'r straeon diweddaraf i'r gynulleidfa wrth iddyn nhw dorri."

Meddai Geraint Evans, Comisiynydd Newyddion a Materion Cyfoes S4C: "Fel darlledwr cyhoeddus mae gan S4C rôl bwysig wrth gyflwyno newyddion i'n cynulleidfa, ac ry'n ni falch iawn o benodi Ioan i'r swydd allweddol hon.

"Wrth i batrymau gwylio ein cynulleidfaoedd newid, mae angen i ni sicrhau ein bod yn gallu dod â'r straeon diweddaraf i'n gwylwyr ar flaenau eu bysedd.

"Mae gan Ioan y weledigaeth i arwain tîm o newyddiadurwyr er mwyn datblygu llais unigryw i'r gwasanaeth hwn, ac rwy'n edrych ymlaen yn fawr at gydweithio."

Bydd Ioan yn cychwyn yn ei swydd ar 16 Tachwedd gyda'r gwasanaeth newydd yn lansio yn y flwyddyn newydd.

DIWEDD

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?