S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

Cerddoriaeth fyw o bell

16 Tachwedd 2020

Mae'n wir i ddweud fod eleni wedi bod yn flwyddyn rhyfedd iawn heb berfformiadau byw, ond dyma gyfle i fwynhau tair gig byw mewn lleoliadau ar draws Cymru, o'ch Stafell Fyw chi eich hun.

Yn dilyn llwyddiant gig byw ym mis Hydref yn Neuadd Ogwen, Bethesda, gyda Candelas ac I Fight Lions, bydd taith y Stafell Fyw yn cychwyn ym mis Rhagfyr ac yn gorffen ar ddechrau'r flwyddyn gyda rhai o enwau mawr y sîn gerddorol yn cymryd rhan.

Rhan o gyffro unigryw cerddoriaeth fyw yw ei brofi'n digwydd o flaen eich llygaid, felly bydd y tri pherfformiad yma'n digwydd yn hollol fyw ar blatfform Lŵp. Platfform a lansiwyd yn Awst 2019 yw Lŵp sy'n cynnig llwyfan newydd ar gyfer cerddoriaeth a diwylliant cyfoes Cymraeg.

Ar yr ail o Ragfyr, bydd Calan a Gwilym Bowen Rhys yn perfformio yn Yr Egin, Caerfyrddin. Yna, ar Ragfyr 16 draw yng Nghlwb Ifor Bach, Caerdydd, mi fydd Adwaith a Pys Melyn yn canu. Ac yn olaf, ar y 6ed o Ionawr yn Galeri Caernarfon, bydd set gan Gwilym ac Alffa.

Mewn blwyddyn sydd wedi bod yn anodd i sawl cerddor a lleoliadau, mae'r daith yma yn cynnig rhywbeth cyffrous iawn.

Meddai Ffion Emyr, fydd yn cyflwyno'r tri pherfformiad:

"Mae 2020 wedi bod yn flwyddyn galed ac anodd iawn i gymaint o bobol, yn enwedig pobol sydd ynghlwm â chyngherddau a gigs byw. Cerddorion, trefnwyr gigs, technegwyr, riggers - pawb! Felly mae'i mor braf medru cefnogi a rhoi llwyfan, platfform a gwaith i bawb sydd ynghlwm â'r daith yma."

I brofi'r Stafell Fyw yn llawn, bydd y tri pherfformiad yn digwydd yn fyw ar blatfform Lŵp ar YouTube a Facebook. Ni fydd y perfformiadau ar gael ar alw, ond mi fydd yn bosib prynu lawr lwythiad o'r caneuon ar wefan y Stafell Fyw ar ôl y digwyddiadau.

Ychwanegodd Ffion:

"Un o'r pethau pwysica' i fi ydy trio cael bwrlwm a chynnwrf cyn ac ar ôl i'r bandiau berfformio. A hefyd i gael pawb adra i adael sylwadau a tweetio fel bod 'na deimlad fod pawb yn edrych ar y gig efo'i gilydd, ond o'i Stafell Fyw."

"Mae pawb wedi colli gymaint o brofiadau, gigs a gwyliau cerddorol, ac yn haeddu cael blas o gigs byw eleni."

Bydd cyfle i gymryd rhan yn yr hwyl drwy holi cwestiynau i'r artistiaid neu roi barn ar y setiau yn ystod y digwyddiad ar y cyfryngau cymdeithasol a thrwy gofrestru ar wefan y Stafell Fyw.

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?