S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

​Sypreis i staff y Gwasanaeth Iechyd wrth i Alun Wyn Jones ymuno â'u cyfarfod Zoom

25 Tachwedd 2020

Mae cyfarfodydd fideo wedi dod yn rhan annatod o'r diwrnod gwaith i nifer o weithwyr yn ystod 2020.

Ond bu syndod i bawb yng nghyfarfod mewnol staff Bwrdd Meddygol a Chlinigol Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro ar brynhawn dydd Iau, wrth i gapten tîm rygbi Cymru, Alun Wyn Jones, ymuno â'r sgwrs.

Cafodd cyfarfod i drafod ymgyrch cyfathrebu mewnol newydd ei droi mewn i sesiwn cwestiwn ac ateb gyda Alun Wyn, y chwaraewyr gyda'r nifer fwyaf o capiau rhyngwladol erioed, wrth iddo ymuno â'r alwad o'r maes ymarfer yng Ngwesty'r Vale.

Fe gafodd meddygon, nyrsys a staff gweinyddol, oedd yn eistedd gartref, yn eu swyddfeydd ac yn y neuadd ddarlith yn Ysbyty Athrofaol Caerdydd, y cyfle i holi eu gwestai arbennig ar sawl pwnc, gan gynnwys sut i arwain tîm, sut i gadw pawb yn hapus a sut i addasu i amgylchiadau sydd yn newid.

Cafodd yr alwad ei drefnu gan raglen S4C, Clwb Rygbi, ac Undeb Rygbi Cymru, fel ffordd i ddiolch i staff gweithgar y Gwasanaeth Iechyd Cenedlaethol am eu hymdrechion yn ystod y pandemig Covid-19.

Cyflwynydd Clwb Rygbi, Catrin Heledd, a'r criw camera gafodd y dasg o dorri ar draws y cyfarfod i roi'r sypreis i staff.

Dywedodd Catrin: "Dw i'n eithaf siŵr nad oedd unrhyw un yn disgwyl i Alun Wyn Jones ymuno â'r cyfarfod a dw i'n meddwl roedd o'n dipyn o sioc i ambell un yn yr ystafell!

"Fe ofynnon nhw gwestiynau oedd yn croesi'r ffiniau rhwng rygbi a'r byd meddygol, ac roedd Alun Wyn yn ateb eu cwestiynau yn wych.

"Roedd o'n fraint cael bod yno a dw i'n gobeithio byddai gwybod fod capten Cymru yn meddwl amdanyn nhw yn rhoi hwb mawr iddyn nhw yn ystod cyfnod hynod o anodd."

Capten tîm rygbi Cymru, Alun Wyn Jones.

Dywedodd Aled Roberts, Cyfarwyddwr Bwrdd Meddygol a Chlinigol: "Roedd y staff wedi eu synnu yn gweld Alun Wyn Jones yn ymuno yn ein cyfarfod mewnol, ond phwy well i ymuno!

"Roedd y tîm wrth ei bodd yn cael y cyfle i holi gwestiynau ac mi oedd pawb yn gwerthfawrogi ei neges o ddiolch.

"Roedd e'n hwb anhygoel i ysbryd y tîm wrth i ni wynebu her y gaeaf, ac rydyn ni'n mor ddiolchgar iddo am gymryd amser i siarad gyda ni."

Dywedodd Alun Wyn Jones yn y cyfarfod: "Mae'r gwahaniaeth rydych chi'n ei wneud i'r gymdeithas ac i'ch cymunedau yn anferthol, felly diolch yn fawr iawn i chi ar ran ein teuluoedd, y garfan a phawb sy'n ymwneud ag Undeb Rygbi Cymru

"Mae lot o sôn am ba mor wael yw pethau a pha mor wael fydd pethau yn mynd, ond ar ddiwedd y dydd, mae pobl fel chi sydd yn weithwyr allweddol yn esiampl ardderchog i bawb."

Pan ofynnwyd iddo enwi'r rheolwr gorau roedd o wedi gweithio oddi tan, fe atebodd: "Gats [Warren Gatland] fyddwn i'n ddweud gan fy mod i wedi ennill gymaint o gapiau gyda fe, ond mae'r newid ac esblygiad mae'r tîm yn mynd drwyddo ar hyn o bryd yn gwneud hi'n gyfnod cyffrous i dîm Cymru."

Gwyliwch y cyfweliad cyfan ar alw ar S4C Clic, yma: https://www.s4c.cymru/clic/programme/810786518 .

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?