S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

Nadolig i’w gofio ar S4C

7 Rhagfyr 2020

Mae eleni wedi bod yn flwyddyn anarferol i bob un ohonom, ac mae'n wir i ddweud bydd y Nadolig hwn yn wahanol iawn i sawl un.

Bydd gan S4C amserlen lawn dop o raglenni Nadolig i'r teulu cyfan, ac mae hysbyseb Nadolig S4C eleni yn dathlu ysbryd y Nadolig ond yn nodi blwyddyn anodd i bawb.

Wedi ei osod mewn stryd o dai cawn ddilyn cadwyn o gerddoriaeth a golau sy'n llifo o dŷ i dŷ. Yn ganolbwynt i'r cyfan mae dyn cludo nwyddau - swydd sydd wedi bod yn allweddol i'n bywydau ni gyd dros y misoedd diwethaf. Ar drywydd y fan nwyddau, cawn fwynhau golygfeydd Nadoligaidd yn nhai cymdogion y stryd – plant yn creu dyn eira allan o bapur tŷ bach, addurno coeden Nadolig a gosod addurniadau tu allan i'w tai.

Ac wrth i'r dyn sy'n cludo ymadael, mae'r lle yn fwrlwm o gerddoriaeth a goleuadau.

Mewn cydweithrediad â Cherddorfa Gymreig y BBC, recordiwyd trefniant newydd arbennig gan John Quirk o gân Nadolig Caryl Parry Jones, 'Nadolig Llawen i chi gyd', ar gyfer yr hysbyseb yma. Ac mae rhai o gerddorion y Gerddorfa i'w gweld yn yr hysbyseb hefyd.

Dywedodd Lisa Tregale, Cyfarwyddwr Cerddorfa Gymreig y BBC:

"Rydym ni wrth ein bodd ein bod ni wedi perfformio'r gerddoriaeth i'r hysbyseb Nadoligaidd arbennig hon ar gyfer S4C, ac roedd y cerddorion yng Ngherddorfa Gymreig y BBC wrth eu bodd yn cymryd rhan yn y recordiad a'r ffilmio.

Mae'r tîm cyfan yn gyffrous am fod â rhan fach y Nadolig hwn i bawb dros Gymru, ac rydym yn dymuno Nadolig diogel a hapus i bawb."

Mae llawer o blant yn ymuno yn yr hwyl Nadoligaidd yn yr hysbyseb hefyd.

Mi roedd Owen, sy'n 12 oed ac o'r Eglwys Newydd yng Nghaerdydd, wedi mwynhau'r profiad cyffrous o ffilmio yng nghwmni ffrindiau hen a newydd:

"Roedd o fel bod y Nadolig yn dod, ac wedi mwynhau hynny! Un tro, aeth y tegan carw'n styc yn y troli, oedd yn ddoniol iawn!"

Roedd yr efeilliaid 10 oed o Gaerdydd, Ela ac Ana Carlisle, wedi cael diwrnod bythgofiadwy hefyd:

"Odd e'n lot o hwyl ffilmio, yn enwedig gyda Toby y ci! Roedd yr holl stryd yn edrych mor Nadoligaidd – rili teimlo fel noson cyn y Nadolig!"

Bydd hysbyseb Nadolig S4C i'w gweld trwy gydol mis Rhagfyr.

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?