S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

​"FFIT Cymru oedd y prawf gyrru, a rŵan dw i'n gyrru fy hun."

9 Rhagfyr 2020

Mae rhywun yn gallu cyflawni lot mewn chwe wythnos - fel gwelsom arweinwyr y gyfres FFIT Cymru yn profi eleni. Ond tybed beth maen nhw wedi cyflawni yn y chwe mis ers diwedd y gyfres?

Cawn ateb i'r cwestiwn yna, a chyfle i ddal i fyny gyda Kevin, Ruth, Elen, Rhiannon ac Iestyn unwaith eto, mewn rhaglen arbennig, FFIT Cymru: 6 Mis Wedyn, ar nos Iau 10 Rhagfyr, ar S4C

Fe lwyddodd y pump arweinydd i golli pwysau sylweddol, gwella eu hiechyd ac ysbrydoli gwylwyr a'r bobl o'u cwmpas i ofalu am ei hunain ychydig yn well – a hynny oll yn ystod pandemig byd-eang.

Yn y rhaglen yma, byddwn yn clywed y pump yn adrodd y straeon tu ôl i'r trawsnewidiad a sut mae FFIT Cymru wedi helpu ail-gyfeirio eu bywydau nhw am y gorau.

Yn ystod y gyfres, fe lwyddodd Elen Rowlands, deintydd o Ruthun, i golli stôn a naw phwys.

Dywedodd Elen: "Dw i'n teimlo'n wych. O'r blaen, doeddwn i ddim yn hapus yn unrhyw beth oeddwn i'n ei wisgo ac yn gwisgo rhywbeth uchel, du, i gymryd y sylw oddi ar fy nghorff.

"Ond rŵan, does 'na ddim teimlad gwell na phrynu dillad ac maen nhw'n rhy fawr i ti, a bod ti angen dewis maint yn llai.

"Mae o bron fel FFIT Cymru oedd y prawf gyrru ac wedyn ti'n dysgu sut i ddreifio dy hun, drwy addasu'r cynllun fel bod o'n ffordd o fyw."

Mae Rhiannon Harrison, o Aberystwyth yn fam i ddau fab ifanc, ac ers i'r gyfres orffen mae hi wedi dyweddïo gyda'i phartner Gethin. Llwyddodd Rhiannon i golli stôn a 10 pwys yn ystod y gyfres.

Meddai Rhiannon: "Fel mam, chi byth yn cymryd yr amser i chi'ch hunain – roeddwn i reit lawr ar ddiwedd y rhestr.

"Ond nes i ddechrau cymryd bach o amser i fi'n hunain, gweithio allan ac roedd hynny'n helpu'r iechyd meddwl.

"Dw i methu credu'r pethau roeddwn i'n arfer dweud wrth fy hun a'r ffordd roeddwn i'n arfer disgrifio fy hun.

"Oedd e mor afiach, a ddim yn garedig o gwbl. Mae'n rhaid cael y positive mental attitude 'na a ni gyd yn mynd i lwyddo yn lot gwell."

Yn y chwe mis ers i'r gyfres ddod i ben, mae Kevin Jones o Ruthun wedi parhau i wella ei iechyd, gyda lefelau siwgr yn ei waed yn gostwng i'r fath raddau nad yw angen cymryd meddyginiaeth clefyd y siwgr pellach.

Mae'r radiograffydd, sydd yn dad i bedwar o blant, llys dad i bedwar ac yn ŵr i Pam, hefyd wedi magu diddordeb mawr mewn cerdded.

Dros yr un cyfnod, mae Ruth Evans, mam i dair o Lanllwni, hefyd wedi mwynhau cerdded yn ogystal â dechrau chwarae golff. Ond ydi hi wedi magu ddigon o hunan hyder i fynd ar ddêt?

Yn olaf, mae Iestyn Owen Hopkins, a gollodd tair stôn a hanner dros chwe wythnos yn ystod y gyfres - ac mae lot mwy wedi digwydd ers hynny, yn ei fywyd personol a phroffesiynol.

Dywedodd Iestyn, sydd yn wreiddiol o Gaernarfon: "Dw i'n teimlo fel person newydd. I ystyried sut oeddwn i chwe mis yn ôl a sut ydw i rŵan, dwi'n hollol wahanol berson ar y tu fewn a thu allan.

"Mae gymaint wedi newid dros y chwe mis nesaf. Y wers bwysicaf dw i 'di ddysgu yw cadw ffydd yn eich hunain."

Felly ar ôl chwe wythnos lwyddiannus, a yw'r taith trawsnewid wedi parhau i'r arweinwyr FFIT Cymru? Ac ydyn nhw wedi parhau i golli pwysau?

Gwyliwch FFIT Cymru: 6 Mis Wedyn i weld.

Ai chi ydi arweinydd nesaf FFIT Cymru?

Os ydych chi eisiau ymgeisio i fod yn rhan o'r gyfres nesaf neu eisiau fwy o wybodaeth, ewch i www.s4c.cymru/ffitcymru.

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?