20 Ionawr 2021
Mae diwrnod Santes Dwynwen eleni yn rhoi'r esgus perffaith i gwtsio ar y soffa gyda'r person arbennig i fwynhau arlwy ramantus ar y teledu, ac mae gan S4C y noson fewn perffaith er mwyn dathlu'r ŵyl.
Serch a chariad yw'r thema mewn rhaglen arbennig o Noson Lawen - Serch ar S4C nos Sadwrn, Ionawr 23.
Nia Parry sy'n ein tywys ar daith ramantus gan gyflwyno rhai o artistiaid gorau Cymru yn canu caneuon serch o bob math. Yn ymuno â hi bydd meistri'r caneuon serch Only Men Aloud a'r canwr gyfansoddwr Al Lewis, sydd yn hen law ar gyfansoddi caneuon o'r galon.
Hefyd ar y llwyfan llawn rhamant, bydd y gantores a'r gyflwynwraig Elin Fflur yn ein swyno ac yn ymuno ag Al mewn deuawd arbennig a chawn gân serch go wahanol gan y canwr gomedïwr Hywel Pitts - un sy'n siwr o wneud i chi wenu!
Cawn glywed perfformiad o hen alaw werin serch gan y canwr poblogaidd o Fôn, Wil Tân a'i wraig Ceri. Mae'r ddau ohonynt wedi bod yn weithwyr allweddol yn ystod y pandemig – Wil sy'n gweithio fel dyn tân a Ceri'n gweithio i'r gwasanaeth iechyd.
Mae hefyd cyfle i fwynhau perfformiadau clodwiw gan ein talentau ifanc, fel y canwr (a'r chwaraewr rygbi!) Rhydian Jenkins o Faesteg, a enillodd Ysgoloriaeth Urdd Bryn Terfel yn 2019. Heb anghofio Triawd Brynhyfryd sef Gwenan, Osian ac Ynyr sy'n canu cân o deyrnged i Vera Lyn. Ac er iddyn nhw berfformio a recordio hon yn rhithiol yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, dyma'r tro cyntaf iddyn nhw ganu'r gân gyda'i gilydd!
I gwblhau'r arlwy llawn cariad, bydd y cerddor Meurig Thomas, un o sêr y grŵp Côr-Ona, yn rhoi perfformiad swynol o fedli o ganeuon serch i gyfeiliant band y Noson Lawen.
Ac yn syth ar ôl Noson Lawen – Serch, cawn fwynhau Carys Eleri'n Caru unwaith eto eleni. Rhaglen hwyliog a chynnes sy'n dilyn y berfformwraig Carys Eleri wrth iddi edrych yn ôl dros hen arferion caru Cymreig a holi sut yr ydym ni'n caru yng Nghymru heddiw. Anghofiwch Tinder ac apiau caru eraill, roedd cymaint mwy i garu ers talwm yng Nghymru!
Ac os nad yw hynny'n ddigon o ramant i chi, ar y noson ei hun mi fydd rhaglen Heno yn llawn dop o eitemau cariadus. Gan gynnwys sgwrs a chân serch gan y ddeuawd o Ddyffryn Nantlle, Gethin Fôn a Glesni Fflur Evans, taith 'Crwydr Calonnau' ar hyd strydoedd Mynydd Bychan, Caerdydd, sef ymgyrch gymunedol i ddangos calonnau yn ffenestri'r ardal ac mi fydd y criw draw yng Nghaffi Mechell, Llanfechell i glywed sut mae'r ardal yn benderfynol o drosglwyddo stori Dwynwen i blant ifanc yr ynys.
Noson Lawen Serch
Nos Sadwrn, 23 Ionawr, 8.30
Isdeitlau Cymraeg a Saesneg ar gael
Ar alw: S4C Clic, iPlayer a llwyfannau eraill
Cynhyrchiad Cwmni Da ar gyfer S4C
Carys Eleri'n Caru
Nos Sadwrn, 23 Ionawr, 9.30
Isdeitlau Saesneg ar gael
Ar alw: S4C Clic, iPlayer a llwyfannau eraill
Cynhyrchiad Capten Jac ar gyfer S4C
Heno
Nos Lun, 25 Ionawr, 7.00
Isdeitlau Saesneg ar gael
Ar alw: S4C Clic, iPlayer a llwyfannau eraill
Cynhyrchiad Tinopolis ar gyfer S4C